12/03/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 12 Mawrth 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 12 Mawrth 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ystyriaeth a roddir i bobl sydd wedi colli eu golwg wrth gynllunio sut mae cyfathrebu gyda’r cyhoedd yng Nghymru? (WAQ51486)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod y dylai pawb sydd wedi colli eu golwg allu cael gafael ar wybodaeth mewn fformat addas. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn rhwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru i fabwysiadu dull arfer nodedig o ddarparu gwybodaeth ac rydym wedi darparu nifer o ddogfennau mewn amrywiaeth o fformatau (e.e. print bras, Braille a chasét sain).

Yn ystod prosiect ailddatblygu’r wefan yn 2005/06, cwblhawyd archwiliad hygyrchedd gan Ymddiriedolaeth Shaw, a ganmolodd Lywodraeth Cynulliad Cymru am y lefel o hygyrchedd. Mae’n cydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg a chanllawiau ar hygyrchedd gwefannau, fel y’i diffinnir gan Gonsortiwm y We Fyd-eang.

Er mwyn sicrhau y caiff egwyddorion ar gyfathrebu â staff sydd wedi colli eu golwg eu mabwysiadu yn fewnol hefyd, lluniwyd canllawiau ar gyfer staff ar y ffordd orau o sicrhau bod gwybodaeth yn fwy hygyrch.

Rwyf wedi croesawu’r adroddiad diweddar gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ar sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch, a lansiwyd yn y Senedd ar 28ain Chwefror 2008.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailddatblygu Glannau’r Barri? (WAQ51471)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Gellir crynhoi’r buddsoddiad yn y Barri ers mis Ebrill 1994 drwy’r bartneriaeth rhwng ABP, DE&T a Chyngor Bro Morgannwg fel a ganlyn.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 12 Mawrth 2008

WDA

27,321,000

DE&T

1,487,000

Bro Morgannwg

13,512,000

Llywodraeth y Cynulliad a Ffrydiau Ariannu Eraill

5,741,000

Y Loteri

1,394,000

Cyfanswm y Buddsoddiad

£49,455,000

Mae’r buddsoddiad hirdymor hwn a wnaed gan y sector cyhoeddus wedi gwneud y Barri’n lle deniadol i ddatblygwyr ac yn y pen draw, bydd yn sicrhau dros £250 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat, a bydd yn creu tua 2,000 o unedau preswyl, ac yn creu amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd masnachol yn sgîl gwerthu buddiannau Cydfenter ABP a Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i ddarparu gwasanaeth rheilffordd bob awr ar y rheilffordd rhwng Amwythig ac Aberystwyth? (WAQ51477)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid oes digon o le ychwanegol yn y gyllideb refeniw ar hyn o bryd i ystyried darparu gwasanaeth trên mwy aml. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i TraCC ystyried blaenoriaeth gymharol ariannu gwasanaeth bob awr o fewn y Broses Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i gynyddu amlder gwasanaethau rheilffordd yn y canolbarth? (WAQ51478)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Gwnaeth swyddogion o’m Tîm Rheilffyrdd, Fforwm Llinell Calon Cymru, gan gynnwys consortia trafnidiaeth yr Awdurdodau Lleol a Threnau Arriva Cymru, gwblhau gweithdy arfarnu gwerthuso diwrnod cyfan ar welliannau posibl (cynhwysai hyn wella amlder) ar linell Calon Cymru ar 17eg Ionawr 2008. Nododd y gweithdy rywfaint o waith gwerthuso pellach a gaiff ei gwblhau maes o law.  Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwerthusiad.

O ran llinell y Cambrian fe’ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i WAQ51477.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o Ganolfannau Lles yng Nghymru? (WAQ51480)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi Canolfannau Lles yng Nghymru? (WAQ51481)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir fel rhan o gytundeb 'Cymru’n Un’ i wella mynediad i amrywiaeth o wasanaethau. Cyhoeddais fuddsoddiad o £17m ar 7 Tachwedd i ddatblygu gwasanaethau un stop cyfleus i gleifion heb apwyntiadau a heb amserau aros hir, drwy ganolfannau Lles a chanolfannau galw heibio fferyllol. Mae hyn yn gyson â’n hymagwedd tuag at amrywiaeth eang o wasanaethau GIG lle rydym wedi gwneud cryn gynnydd o ran gwella lefelau mynediad, megis amserau aros dewisol a gwasanaethau canser.

Rwyf wedi ymweld ag un o ganolfannau Galw i Mewn y GIG ym Mryste a gweld â’m llygaid fy hun yr amrywiaeth o wasanaethau y gellir eu darparu yng nghyd-destun canolfan Galw i Mewn. Rwyf yn cydnabod y bydd y math hwn o Ganolfan Galw i Mewn a arweinir gan nyrsys yn debyg mewn rhai ffyrdd i ganolfannau Lles yng Nghymru, fodd bynnag rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion cymunedau, a all arwain at fabwysiadu gwahanol fodelau mewn gwahanol rannau o Gymru. Gyda hyn mewn golwg mae fy swyddogion wrthi’n ystyried nifer o fodelau posibl y gallem eu defnyddio ledled Cymru a byddant yn gwneud argymhellion maes o law.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r newyddion diweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i wella glanweithdra mewn ysbytai? (WAQ51494)

Edwina Hart: Rwyf yn benderfynol o sicrhau bod pob ysbyty yng Nghymru yn cyrraedd y Safonau Glanweithdra Cenedlaethol. Maent yn darparu’r fframwaith y gall Ymddiriedolaethau ei ddefnyddio i deilwra eu gwasanaethau glanhau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion a nodir yn gywir gan gynnwys datblygu cynlluniau glanhau, rhaglenni hyfforddi a phenderfyniadau ynglŷn â staffio a phwy sy’n gyfrifol am lanhau.

Ym mis Hydref anfonais Dimau Archwilio Hylendid i ddau ysbyty, Nevill Hall a Threforys, bydd y rhaglen o archwiliadau dirybudd yn parhau drwy gydol 2008.

Rwyf wedi sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn ceisio ailrymuso prif nyrsys wardiau yn y GIG yng Nghymru. Bydd y grŵp yn ystyried cyfrifoldeb ac atebolrwydd am lanhau ardaloedd wardiau a bydd yn cyflwyno adroddiad y mis hwn.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU am ei chynlluniau i symud oddi wrth y dystysgrif salwch meddygon teulu draddodiadol at gysyniad 'nodyn iach’, ac a oes unrhyw gynlluniau i dreialu’r newidiadau hyn yng Nghymru? (WAQ51496)

Edwina Hart: Ni chefais unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn. Nid yw ardystio salwch yn fater datganoledig a chyfrifoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau ydyw. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i dreialu’r cyfryw newidiadau yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae’n eu cymryd i ddiogelu’r brîd moch Cymreig hanesyddol? (WAQ51474)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae’n eu cymryd i gefnogi hybu’r diwydiant moch yng Nghymru? (WAQ51475)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cyfrifoldeb Hybu Cig Cymru yng nghyswllt hybu Porc Cymreig? (WAQ51476)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Hybu Cig Cymru (HCC) sydd â’r cyfrifoldeb statudol am y diwydiant moch yng Nghymru, o ran datblygu, marchnata a hybu’r diwydiant. Yn y gorffennol, gwnaeth HCC gytundeb â Gweithrediaeth Moch Prydain i ymgymryd â gweithgareddau ar ran talwyr ardoll moch yng Nghymru, fodd bynnag cytunwyd bellach y bydd HCC yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am farchnata, hybu a datblygu’r sector moch yng Nghymru o 01 Ebrill 2008, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector.

Mae’r sector moch yng Nghymru yn fach o’i gymharu â’r sectorau cig oen a chig eidion yng Nghymru, ac mae ganddo anghenion penodol sy’n canolbwyntio i raddau helaeth ar gadwyni cyflenwi lleol a datblygu cynnyrch arbenigol. Felly penderfynwyd mai HCC ddylai fynd i’r afael ag anghenion talwyr ardoll moch yng Nghymru yn y dyfodol. Mae cynigion wrthi’n cael eu datblygu sy’n cynnwys camau gweithredu i ddiogelu brîd moch hanesyddol Cymru, cynorthwyo diwydiant moch Cymru, a hybu porc Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru (sy’n cynnwys y sector moch yng Nghymru) hefyd yn cael ei lunio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a HCC, gan ymgynghori’n agos â’r gadwyn cyflenwi cig coch yng Nghymru. Nod y Cynllun Gweithredu yw helpu pob rhan o’r diwydiant cig coch i ddatblygu marchnadoedd yng ngoleuni’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r diwydiant dros y pum mlynedd nesaf. Rhagwelir y cyhoeddir y cynllun er mwyn ymgynghori arno yng ngwanwyn 2008.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’i wneud o ffermio moch yng Nghymru? (WAQ51482)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i ddarparu cefnogaeth i ffermwyr moch yng Nghymru? (WAQ51483)

Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i hybu cynnyrch porc Cymreig? (WAQ51484)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag archfarchnadoedd ac adwerthwyr bwyd yng nghyswllt cefnogi ffermwyr moch Cymru? (WAQ51485)

Elin Jones: Hybu Cig Cymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am y diwydiant moch yng Nghymru, o ran datblygu, marchnata a hybu’r diwydiant. Yn y gorffennol, gwnaeth HCC gytundeb â Gweithrediaeth Moch Prydain i ymgymryd â gweithgareddau ar ran talwyr ardoll moch yng Nghymru, fodd bynnag cytunwyd bellach y bydd HCC yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am farchnata, hybu a datblygu’r sector moch yng Nghymru o 01 Ebrill 2008, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector.

Mae’r sector moch yng Nghymru yn fach o’i gymharu â’r sectorau cig oen a chig eidion yng Nghymru, ac mae ganddo anghenion penodol sy’n canolbwyntio i raddau helaeth ar gadwyni cyflenwi lleol a datblygu cynnyrch arbenigol. Felly penderfynwyd mai HCC ddylai fynd i’r afael ag anghenion talwyr ardoll moch yng Nghymru yn y dyfodol. Mae cynigion wrthi’n cael eu datblygu sy’n cynnwys camau gweithredu i  gynorthwyo diwydiant moch Cymru a hybu porc Cymru. Mae sylw yn cael ei roi hefyd i sut orau y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r diwydiant, gan gynnwys manwerthwyr bwyd, weithio gyda’i gilydd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiant moch Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru (sy’n cynnwys y sector moch yng Nghymru) hefyd yn cael ei lunio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a HCC, gan ymgynghori’n agos â’r gadwyn cyflenwi cig coch yng Nghymru. Nod y Cynllun Gweithredu yw helpu pob rhan o’r diwydiant cig coch i ddatblygu marchnadoedd yng ngoleuni’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r diwydiant dros y pum mlynedd nesaf. Rhagwelir y cyhoeddir y cynllun er mwyn ymgynghori arno yng ngwanwyn 2008.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod hawliau siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u colli eu golwg yn cael eu hamddiffyn mewn unrhyw ddeddfwriaeth iaith Gymraeg? (WAQ52487)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae’r bennod sy’n ymdrin â 'Diwylliant Cyfoethog ac Amrywiol’ yng nghytundeb Cymru’n Un yn cynnwys ymrwymiad 'i geisio gwella cymhwysedd deddfwriaethol o ran yr Iaith Gymraeg’. Er ei bod yn rhy gynnar trafod manylion unrhyw fesur a all ddilyn y cymhwysedd hwn, ystyrir dyletswydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo a phrif ffrydio cyfle cyfartal i bawb fel rhan o’r broses honno.

Mae hyn yn cynnwys agweddau ar bolisi sy’n effeithio ar bobl sydd wedi colli eu golwg (yn Gymraeg a Saesneg). Un enghraifft o’r gwaith yr ydym yn ei wneud i ddiwallu’r angen hwn yw’r arian yr ydym wedi’i ddarparu, mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) Cymru, i lunio geiriadur Braille Cymraeg. Yn ôl RNIB Cymru dyma’r gwerslyfr sydd ei angen fwyaf ar ysgolion ar hyn o bryd.

Fel rhan o’r broses o ddatblygu’r mesur Iaith Gymraeg, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau y cymhwysir egwyddor prif ffrydio.