12/09/2012 - Cwstiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Medi 2012 i’w hateb ar 12 Medi 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr o’r holl ymweliadau a gafodd y tu allan i Gymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61143)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion llawn yr holl ddigwyddiadau y bu ef a Gweinidogion Cymru ynddynt fel rhan o’u dyletswyddau swyddogol yn ystod Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain. (WAQ61150)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion llawn yr holl ddigwyddiadau y mae ef a Gweinidogion Cymru i fod i fynd iddynt fel rhan o’u dyletswyddau swyddogol yn ystod Gemau Paralympaidd 2012 yn Llundain. (WAQ61151)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gwaith y mae’r Prif Weinidog wedi cwrdd â Masnach a Buddsoddi y DU yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, a beth oedd dyddiadau’r cyfarfodydd hyn. (WAQ61155)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sawl gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi siarad ar ran cwmnïau Cymru drwy Fasnach a Buddsoddi y DU ac i ba wledydd y gwnaethpwyd hyn. (WAQ61144)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Gan gyfeirio at ateb y Gweinidog i WAQ61108, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y gyllideb ar gyfer Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth wedi codi o ganlyniad i’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â chyllid Llywodraeth Cymru i POWIS ac a yw’r Gweinidog yn bwriadu sefydlu unrhyw raglenni olynol ychwanegol i POWIS. (WAQ61152)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu, faint o weithdai a gynhaliwyd er mis Ionawr 2012 i gefnogi allforwyr hen a newydd (tudalen 75); a faint o weithdai sydd wedi’u cynllunio; (WAQ61157)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barhad y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach. (WAQ61168)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ffactorau a arweiniodd at ddyfyniad y Gweinidog; “Mae perfformiad ein myfyrwyr yn yr arholiadau TGAU yn dangos bod y gyfradd pasio gyffredinol yn parhau i fod yn 98.7 y cant. Mae nifer y disgyblion sy’n ennill graddau A*-C yn 65.4 y cant. Mae hynny’n galonogol.” wrth ystyried y gostyngiad mewn graddau A*-C a gyflawnwyd wrth gymharu â'r canlyniad o 66.5 y cant yn 2011. (WAQ61138)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynyddu’r cydweithrediad rhwng darparwyr AB ac AU yng Nghymru. (WAQ61139)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau sydd wedi cael eu cymryd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i sicrhau bod asesiadau athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn gadarn ac yn cyd-fynd â’r safonau sydd wedi cael eu diffinio’n genedlaethol. (WAQ61140)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r holl gamau a gymerwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i wella darpariaethau TGCh mewn ysgolion ledled Cymru. (WAQ61141)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â sefydlu consortia rhanbarthol newydd i wella ysgolion. (WAQ61145)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog nodi a ddaw’r costau sy’n gysylltiedig â chreu consortia rhanbarthol newydd i wella ysgolion o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli ai peidio, a darparu manylion. (WAQ61146)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Gweinidog Addysg y DU yn ystod y 6 wythnos diwethaf ynglyn ag arholiadau TGAU Saesneg eleni. (WAQ61171) W

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae adran y Gweinidog wedi’u cael gydag OFQUAL (Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau) yn ystod y 6 wythnos diwethaf am ganlyniadau TGAU Saesneg eleni. (WAQ61173) W

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â phwy sy'n cynnal arolwg o ganlyniadau TGAU Saesneg eleni. (WAQ61174) W

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â’r amserlen ar gyfer arolwg o ganlyniadau TGAU Saesneg eleni. (WAQ61175) W

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni amcanion Strategaeth Bioamrywiaeth 2020 yr UE o ran canlyniadau, strategaeth a gweithredu ac o ran ei heffaith ar draws y portffolios Gweinidogol sydd wedi’u rhannu. (WAQ61156)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi cyfrif manwl o bolisi presennol Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cyfleusterau cynaeafu porfa (“ffermydd llaeth enfawr”) yng Nghymru. (WAQ61161)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r targed o ran capasiti cynhyrchu (mewn MWs) ar gyfer pob un o’r Ardaloedd Chwilio Strategol sydd yn nogfen TAN 8 Llywodraeth Cymru; sut y mae’r targedau hyn wedi newid ers cyhoeddi TAN 8; sut y penderfynwyd arnynt yn wreiddiol, a beth yw’r cyfiawnhad dros bob newid. (WAQ61162)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ61023, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl eiddo, gan gynnwys tir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael eu rhoi ar werth yn ystod pob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ61160)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru i ble aeth yr elw o werthu tir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ61169)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pryd yn union oedd y tro diwethaf i ganran Cymru-gyfan gyrraedd targed y Llywodraeth, sef y dylai 95 y cant o gleifion newydd dreulio dim mwy na 4 awr ym mhob cyfleuster gofal brys o’r adeg maent yn cyrraedd nes y cânt eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. (WAQ61149)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog sydd wedi cael eu hanafu’n gorfforol ac yn feddyliol i addasu yn ôl i fywyd bob dydd. (WAQ61163)

Nick Ramsay (Mynwy): Faint o bobl yng Nghymru sy’n cymryd statinau yn rheolaidd a beth yw’r gost i’r GIG bob blwyddyn. (WAQ61164)

Nick Ramsay (Mynwy): Pwy sydd â'r contract i gyflenwi statinau i GIG Cymru a ble mae’r gweithgynhyrchwr. (WAQ61165)

Nick Ramsay (Mynwy): Faint o bobl a oedd wedi cael statinau ar bresgripsiwn yn y gorffennol sydd wedi rhoi’r gorau i’w cymryd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. (WAQ61166)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal newyddenedigol yn dilyn cyhoeddi Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. (WAQ61172) W

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw statws y cynllun gwarantu morgais, a gyhoeddwyd fel rhan o gyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru; pryd y bydd ar agor i ymgeiswyr; a phryd y bydd darpar ymgeiswyr yn gallu cael gwybod am y meini prawf a’r broses ymgeisio. (WAQ61142)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl brosiectau a rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi i ddefnyddio eiddo gwag mewn canol trefi unwaith eto. (WAQ61158)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion sut y mae Llywodraeth Cymru wedi annog mwy o bobl i ddefnyddio Gwasanaeth Adolygu Dylunio Comisiwn Dylunio Cymru a sawl gwaith y mae’r Gwasanaeth Adolygu Dylunio wedi cael ei ddefnyddio er mis Mai 2011. (WAQ61159)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r pryderon a godwyd gan y Comisiwn Brenhinol bod y cyngor a gafwyd ynghylch yr uno rhyngddo a Cadw wedi disgyn yn is na’r safonau gwrthrychedd a didueddrwydd sy’n ofynnol o dan God y Gwasanaeth Sifil. (WAQ61167)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r holl gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i hybu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bobl hyn. (WAQ61170)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r cyfarfodydd y mae wedi’u cynnal gyda’r Diwydiant Rheilffyrdd yn ystod mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst 2012 gan roi crynodeb o’r hyn a drafodwyd ac â phwy ym mhob cyfarfod. (WAQ61147)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r cyfarfodydd y mae wedi’u cynnal gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ystod mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst 2012 gan roi crynodeb o’r hyn a drafodwyd ac â phwy ym mhob cyfarfod. (WAQ61148)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ60109, beth yw canlyniadau’r gwerthusiad a wnaethpwyd i’r gwasanaeth bws a gafodd ei dreialu rhwng y Ty-du a Chasnewydd a’i oblygiadau i wasanaeth trên bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd. (WAQ61153)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ar gyfer gorsaf drenau ym Masaleg (Pye Corner) a sut y mae’r cyhoeddiadau diweddar am drydaneiddio rheilffyrdd wedi effeithio ar hyn. (WAQ61154)