12/11/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 12 Tachwedd 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 12 Tachwedd 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw’r sefyllfa bresennol ynghylch Ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ysgolion Ffederal a ddaeth i ben ddiwedd y llynedd, a phryd y gellir disgwyl cyhoeddiad am y canlyniad. (WAQ55114)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Bwriadaf ystyried canlyniad yr ymgynghoriad a chopïau drafft o'r rheoliadau a'r memorandwm eglurhaol ategol yn fuan, gyda'r bwriad y caiff y rheoliadau eu llunio oddeutu adeg y Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o’r £500,000 a ddyrannwyd i awdurdodau lleol dan y cynllun peilot ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf sydd wedi cael ei wario hyd yn hyn. (WAQ55108) Trosglwyddwyd i’w hateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb i WAQ55096.  Y sefyllfa ym mis Mehefin 2009 oedd bod £200,000 wedi'i wario. Rydym yn disgwyl cael rhagor o wybodaeth am wariant yn y cylch monitro nesaf.

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro pam mae’r cynlluniau ar gyfer 47-51 Stryd Clwyd, Rhuthun, wedi cael eu galw i mewn ac egluro’r oedi wrth brosesu’r cynllun hwn, sy’n rhoi darparu tai fforddiadwy yn y dref yn y fantol. (WAQ55109)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Erbyn hyn, dylech fod wedi cael fy ymateb i'ch llythyr dyddiedig 19eg Hydref, dyddiedig 11 Tachwedd, sy'n rhoi ymateb i'ch cwestiynau.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am restri aros ar gyfer gastroenterolegwyr ymgynghorol yng nghyswllt rheoli'r clefyd seliag. (WAQ55106)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Disgwyliaf i bob claf gael ei weld a'i drin yn ôl ei blaenoriaeth glinigol. Yr ymgynghorydd y cyfeiriwyd y claf ato gan ei feddyg teulu sy'n penderfynu ar hyn. Ar hyn o bryd mae pob sefydliad yn gweithio tuag at sicrhau cyfnod aros o 26 wythnos fan bellaf o atgyfeiriad y meddyg teulu i ddechrau'r driniaeth erbyn mis Rhagfyr 2009.

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cynllun peilot ar gyfer rhagnodi dan arweiniad fferyllfa ar gyfer cleifion seliag. (WAQ55107)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd Lleol yw asesu anghenion iechyd eu poblogaethau preswyl a chynllunio a darparu'r cyfryw wasanaethau i ddiwallu'r angen hwnnw.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Yng ngoleuni galwadau yn yr Alban i gael gwared ar y cynllun taliad teilyngdod ar gyfer ymgynghorwyr, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf a yw’n bwriadu diwygio’r contract ymgynghorwyr yng Nghymru. (WAQ55110)

Rhoddwyd ateb ar 20 Tachwedd 2009

Nid oes unrhyw gynlluniau gennyf i wneud newidiadau sylfaenol i'r contract i feddygon ymgynghorol yng Nghymru ond rwyf wedi ysgrifennu yn ddiweddar at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gweinidogion Iechyd y gweinyddiaethau datganoledig gan awgrymu ffyrdd y gellid gwella ar y cynllun talu ar sail teilyngdod.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Yn y tair blwyddyn ariannol diwethaf, sawl un o’r llythyrau gofynion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparwyr gofal oedd yn ail-adrodd llythyrau’r blynyddoedd blaenorol. (WAQ55111)

Rhoddwyd ateb ar 17 Tachwedd 2009

Nid yw Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru nac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cyhoeddi llythyrau am ofynion.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddyrannu i’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn ei chyllideb drafft. (WAQ55112)

Rhoddwyd ateb ar 23 Tachwedd 2009

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dyrannu hyd at £20 miliwn i ariannu rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach.  Ariennir y rhan fwyaf o'r rhyddhad ardrethi hwn o'r gronfa ardrethu annomestig o fewn Cronfa Gyfunol Cymru ond mae'r ddarpariaeth o £20 miliwn yn cynnwys £7 miliwn o fewn y cynlluniau ar gyfer y gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar gyfer 2009-10 a 2010-11 i ariannu ymrwymiad "Cymru'n Un" Llywodraeth y Cynulliad i wella rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint y mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach wedi’i gostio i Lywodraeth Cynulliad Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf. (WAQ55113)

Rhoddwyd ateb ar 23 Tachwedd 2009

Rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2009 costiodd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach dros £31 miliwn i Lywodraeth y Cynulliad.