12/11/2009 - Gwybodaeth Ychwanegol at WAQ55109

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Gwybodaeth Ychwanegol at Atebion Gweinidogion

Gwybodaeth ychwanegol at WAQ55109 gan Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar 19 Hydref  2009

At Janet Ryder:

Diolch am eich llythyr dyddiedig 19 Hydref ynglŷn â cheisiadau ar gyfer tai y tu ôl i eiddo yn Clwyd Street, Rhuthun. Gofynnoch am esboniad o’r rhesymau dros alw’r ceisiadau hyn i mewn. Anfonodd fy swyddfa breifat ymateb dros dro ichi drwy e-bost ar 21 Hydref.

Penderfynwyd galw i mewn y ddau gais cynllunio ar wahân ar gyfer dau a thri thŷ a dau gais cysylltiedig ar gyfer adeiladau rhestredig yn sgil y cyngor a roddwyd imi, a oedd yn cynnwys cyngor gan Cadw. Dywedodd Cadw y byddai’r gwaith datblygu arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar asedau treftadaeth. Roedd Cadw yn pryderu nad oedd y Cyngor wedi rhoi digon o ystyriaeth i effaith y cynigion ar y tir bwrdais wrth ystyried rhoi sêl bendith i’r gwaith. Ymhellach, er bod Cadw o’r farn nad oedd angen galw i mewn y ceisiadau am ganiatâd ar gyfer yr adeiladau rhestredig eu hunain, cefais fy nghynghori y dylid, fel arfer, galw cais am ganiatâd ar gyfer adeilad rhestredig i mewn pan fydd cais cynllunio cysylltiedig yn cael ei alw i mewn.

Amlinellir ein polisi ynglŷn â galw ceisiadau cynllunio i mewn ym mharagraff 4.12 Polisi Cynllunio Cymru. Dim ond cais sy’n codi materion sydd o bwys mwy na’r ardal leol y byddaf fel arfer yn ei alw i mewn, a gallai hyn gynnwys unrhyw gais sy’n codi materion sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar safle o ddiddordeb hanesyddol. Roeddwn yn cytuno â’r cyngor a roddwyd imi, ac felly galwais i mewn y ddau gais cynllunio a’r ddau gais cysylltiedig am ganiatâd ar gyfer adeiladau rhestredig.

O ran eich pryderon ynghylch pa mor brydlon y rhoddwyd yr wybodaeth ichi, gallaf gadarnhau i mi gael cyngor y swyddogion ar 12 Hydref ac i mi wneud fy mhenderfyniad ar y ceisiadau galw i mewn ar 16 Hydref. Nid wyf yn derbyn bod unrhyw oedi wedi bod o ran y mater hwn. Cafodd fy swyddogion gyngor gan Cadw, a chan adrannau eraill y Cynulliad, cyn gynted â phosib, ac ymdriniwyd â’r ceisiadau galw i mewn yng nghyd-destun yr adnoddau sydd ar gael a blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Rydym bob amser yn delio ag e-byst a gohebiaeth o’ch swyddfa yn brydlon. Serch hynny, rwy’n deall, fel y nodwyd yn fy ymateb dros dro, bod fy swyddogion wedi cael anawsterau technegol wrth anfon ymatebion at eich staff ym mis Awst oherwydd nad oes modd iddynt anfon e-byst at Aelodau’r Cynulliad yn uniongyrchol. Tynnodd y swyddogion hynny sylw’r staff yn eich swyddfa at y broblem hon ar y pryd, gan anfon yr e-byst ymlaen i gyfeiriadau gwahanol. I osgoi’r broblem hon yn y dyfodol, a fyddech cystal ag anfon e-byst i’m swyddfa i.

Gallaf hefyd gadarnhau eich bod wedi cael gwybod am fy mhenderfyniad i alw’r cais i mewn ar 16 Hydref, ar yr un diwrnod â’r awdurdod cynllunio lleol.