14/05/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 14 Mai 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 14 Mai 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gefnogaeth y mae’n ei rhoi i fusnesau Cymru i’w helpu i ennill mwy o gontractau’r sector cyhoeddus? (WAQ54075)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Rydym yn cynorthwyo busnesau drwy’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr sy’n rhoi pwyslais arbennig ar ddatblygiadau yn ymwneud â chadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus, gan roi cyngor ar gyflenwi, gweithio gyda phrynwyr a swyddogion caffael mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus a datblygu cyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys cynnal gweithdai "Sut i Dendro”, digwyddiadau "Cyfarfod â’r Prynwr” a gweithio ochr yn ochr gyda Rheolwyr Cydberthnasau ac eraill i ddatblygu gallu cyflenwyr yng Nghymru.

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A chofio cyhoeddiadau diweddar am gyllideb y DU, pa mor debygol ydyw y bydd gostyngiadau cyllidebol yn cael eu gwneud i’r cymorthdaliadau y mae Trenau Arriva Cymru yn eu mwynhau ar hyn o bryd? (WAQ54117)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae cymorthdaliadau a wneir i Drenau Arriva Cymru wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Masnachfraint, sy’n gytundebol gyfrwymol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r fethodoleg a ddefnyddir i ddyrannu’r £8.9 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Addysg Bellach yng Nghymru? (WAQ54102)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae’r arian ychwanegol a nodwyd gan y Dirprwy Weinidog Dros Sgiliau yn cael ei ddefnyddio i sicrhau mwy o ddiogelwch, a bennwyd yn flaenorol yn 7.5 y cant, fel na fydd yr un Sefydliad Addysg Bellach yn profi unrhyw ostyngiad yn ei gyllid, oni fu lleihad mewn gweithgarwch, o gymharu â’r dyraniadau ar gyfer 2008/09.

Gwelodd nifer o Sefydliadau Addysg Bellach gynnydd yn yr arian a ddyrannwyd iddynt ar gyfer 2009/2010. Nid yw’r dyraniadau i’r sefydliadau hyn wedi newid.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd ar waith i gefnogi’r cynllun i uno Coleg y Drindod, Caerfyrddin â Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan? (WAQ54110)

Jane Hutt: Er mwyn i’r ddau sefydliad gyflawni eu cynlluniau a gyhoeddwyd ar 16eg Ebrill, bydd yn rhaid i’r ddau sefydliad wneud newidiadau sylweddol i’w trefniadau llywodraethu. Er mwyn gwneud hynny bydd angen newid Siarter a Statudau Coleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a bydd angen i’r newidiadau hynny gan eu cymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor. Bydd y Cyfrin Gyngor yn ymgynghori â swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru a swyddogion Swyddfa Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau, y Cyfrin Gyngor a Swyddfa Cymru i sicrhau bod y ddau sefydliad yn cael cyngor a chymorth i fwrw ymlaen â’r trefniadau llywodraethu sydd eu hangen a bod y broses uno yn cael ei rheoli’n ddidrafferth. Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) ar fater ariannu’r sefydliad a unwyd.

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Sawl athro llanw sy’n gweithio ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru ar hyn o bryd? (WAQ54111)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o athrawon sydd newydd ymddeol sydd nawr yn gweithio mewn ysgolion ar gontract tymor byr neu fel athro llanw? (WAQ54112)

Jane Hutt: Nid oes data ar athrawon wedi ymddeol sy’n gweithio mewn ysgolion ar gontractau byrdymor neu fel athro cyflenwi ar gael.

Caiff data ar athrawon cyflenwi sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir ei gasglu drwy Gyfrifiad STATS3. Dengys y tabl isod athrawon cyflenwi neu athrawon mewn gwasanaeth achlysurol a oedd yn cael eu cyflogi ar 15 Ionawr 2008.

Athrawon Cyflenwi Cymwysedig neu athrawon mewn gwasanaeth achlysurol (gan gynnwys staff asiantaethau) yn ôl AALl, mewn ysgolion a gynhelir, Ionawr 2008

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 14 Mai 2009
 

Cyfwerth ag Amser Llawn

Ynys Môn

32.3

Gwynedd

29.8

Conwy

70.2

Sir Ddinbych

70.0

Sir y Fflint

228.0

Wrecsam

43.0

Powys

95.0

Ceredigion

34.0

Sir Benfro

57.0

Sir Gaerfyrddin

30.0

Abertawe

48.0

Castell-nedd Port Talbot

18.0

Pen-y-bont ar Ogwr

27.0

Bro Morgannwg

3.0

Rhondda Cynon Taf

136.0

Merthyr Tudful

8.8

Caerffili

82.5

Blaenau Gwent

23.0

Tor-faen

47.7

Sir Fynwy

47.5

Casnewydd

207.0

Caerdydd

127.0

Cymru

1,464.8

   

Ffynhonnell: STATS3

 

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cyfanswm nifer yr athrawon cerddoriaeth a gyflogir mewn a) ysgolion cynradd a b) ysgolion uwchradd ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod addysg lleol? (WAQ54132)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl disgybl mewn a) ysgol gynradd a b) ysgol uwchradd a gafodd wersi cerddoriaeth ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod addysg lleol? (WAQ54133)

Jane Hutt: Ni chaiff y wybodaeth hon ei chasglu’n ganolog.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyfanswm cost darparu gwisgoedd lliwiau gwahanol i nyrsys y GIG yng Nghymru yn unol â chyhoeddiad y Gweinidog ar 7fed Mai, 2009? (WAQ54097)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Disgwylir i’r broses o gyflwyno’r wisg genedlaethol newydd i nyrsys gostio dim mwy na £2.7 miliwn dros ddwy flynedd.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A fydd disgwyl i nyrsys y GIG yng Nghymru dalu am gostau prynu eu gwisgoedd lliwiau gwahanol newydd o’u pocedi eu hunain yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ar 7fed Mai, 2009? (WAQ54100)

Edwina Hart: Ni ddisgwylir i unrhyw nyrs, bydwraig na gweithiwr cymorth gofal iechyd sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru brynu ei gwisg codau lliw genedlaethol newydd ei hun.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o wisgoedd lliwiau gwahanol a ddarperir (a) at ei gilydd a (b) i bob nyrs GIG yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ar 7fed Mai, 2009? (WAQ54101)

Edwina Hart: Bwriedir darparu cyfanswm o tua 30,000 o wisgoedd yn y GIG yng Nghymru; caiff yr union ffigur ei gadarnhau yn ystod y broses gaffael.  Ein bwriad yw y bydd nyrsys/bydwragedd sy’n gweithio’n llawn amser yn cael pum top tiwnig a phum trowsus; rhoddir gwisgoedd i’r nyrsys/bydwragedd hynny sy’n gweithio’n rhan amser ar sail pro rata.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa sicrwydd y gallwch ei roi, os caiff gwasanaethau trydyddol eu prynu yng Nghaerdydd, na fyddai cleifion o’r gogledd, sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanfon i Lerpwl, i Fanceinion neu i Groesoswallt, yn cael eu hanfon i’r de? (WAQ54103)

Edwina Hart: Nid yw fy nghynlluniau ar gyfer ad-drefnu’r GIG yn cynnwys cynigion i brynu gwasanaethau trydyddol gan Gaerdydd.

Fel y darperir yn y Papur Ymgynghori: Cynigion ar Gyfer Dyfodol Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol, byddai Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd arfaethedig Cymru yn cynllunio, yn ariannu ac yn sicrhau gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ar ran pob un o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 19 Mehefin 2009.

Byddai’r Pwyllgor hwn, a gynhelid gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, yn ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesu a’u trin mor agos i’w cartrefi â phosibl, lle mae gwasanaethau diogel a chynaliadwy o safon.  

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol bob blwyddyn i gynorthwyo cleifion ag arhythmia? (WAQ54104)

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd am barhad y cyllid ychwanegol i gleifion ag arhythmia am y pum mlynedd nesaf? (WAQ54106)

Edwina Hart: Rhoddwyd £2.550 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau i drin cleifion sydd ag arhythmia.

Irene James (Islwyn): Pa gamau y mae adran y Gweinidog wedi eu cymryd i gynyddu cyfradd defnyddio Diffribiliwyr Cardiaidd Mewnblanadwy a rheolyddion calon yng Nghymru? (WAQ54108)

Edwina Hart: Mae cyhoeddi safon newydd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Galon i reoli’r gofal a roddir i gleifion ag arhythmia a theuluoedd pobl ifanc sydd wedi dioddef ataliad ar y galon yn canolbwyntio sylw ar anghenion y rhai y gall fod angen Diffibrilwyr Cardiaidd y gellir eu Mewnosod a rheolyddion calon arnynt.

Mae’r safon hon yn nodi’r arwyddion ar gyfer atgyfeirio cleifion ag arhythmia at arbenigwyr rhythm y galon i gael triniaeth briodol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cyflenwadau ymataliaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru? (WAQ54116)

Edwina Hart: Rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i wella gwasanaethau cyflenwadau ymataliaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru.  Ym mis Mawrth 2008, comisiynais astudiaeth gwmpasu i edrych ar y modd y darperir gwasanaethau ymataliaeth. Dangosodd canlyniadau’r ymarfer hwn fod meysydd o anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth cyflenwadau a gwasanaethau ym mhob un o Ymddiriedolaethau’r GIG.   Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried y canfyddiadau hyn fel mater o flaenoriaeth a chymryd camau i sicrhau cysondeb ledled Cymru o ran y modd y darperir gwasanaethau.           

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ymateb i alwad yr Ombwdsmon i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi arweiniad ar ofal iechyd parhaus ar gyfer plant? (WAQ54119)

Edwina Hart: Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu Fframwaith Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc.  Sefydlwyd gweithgor rhanddeiliaid amlasiantaeth i ddatblygu’r canllawiau hyn. Bydd y grŵp yn cyfarfod yn fuan i drafod drafft 1af y fframwaith arfaethedig a ddefnyddir at ddibenion ymgynghori â’r cyhoedd yn ddiweddarach eleni.    

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn o ran datblygu polisi Cymru gyfan ar gyflenwadau ymataliaeth ar gyfer plant yng Nghymru? (WAQ54120)

Edwina Hart: Fe’ch cyfeiriaf at yr ateb a roddwyd i WAQ54116 ar 14 Mai.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod am yr amseroedd aros ar gyfer pobl a gyfeirir gyda dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint a rhoi sicrwydd eu bod i gyd yn cael eu trin cyn pen pythefnos fel y dywedir yng nghyfarwyddyd y Coleg Brenhinol? (WAQ54175)

Edwina Hart: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadw gwybodaeth am amseroedd aros ar gyfer afiechydon unigol, megis AMD gwlyb.

Mae offthalmolegwyr yn glinigol gyfrifol am amseroedd trin eu cleifion, gan ystyried canllawiau proffesiynol sydd ar gael.  

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw cyfanswm cost gweinyddu mynediad am ddim i safleoedd CADW i bobl dros 60? (WAQ54092)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Cyfanswm cost gweinyddu’r cynllun mynediad am ddim i bensiynwyr 60 oed a throsodd sy’n preswylio yng Nghymru a phlant 16 oed neu’n iau yng Nghymru yw £30,780.  Am mai dim ond un set o drefniadau gweinyddol sydd ni ellir nodi’r gost ar gyfer pobl 60 oed a throsodd yn unig.