14/06/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 14 Mehefin 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 14 Mehefin 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ar ba ddyddiad yr hysbysodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru y tro cyntaf mai Hydref 2010 fyddai hoff ddyddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynnal refferendwm ar gam 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. (WAQ56070)

Rhoddwyd ateb ar 22 Mehefin 2010

Fe'ch cyfeiriaf at fy atebion i WAQ 56045 a WAQ 56046.  Hysbyswyd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol am benderfyniad y Cynulliad ym mis Chwefror 2010.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Brian Gibbons (Aberafan): Yn dilyn ei atebion i WAQ56018 a WAQ56019, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r swyddi a grëwyd/gefnogwyd a fanylwyd yn ei ateb i WAQ56018, wedi'i ddadansoddi yn ôl pob un o'r penawdau a fanylwyd yn ei ateb i WAQ56019, gan roi'r ffigurau ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.   (WAQ56069)

Rhoddwyd ateb ar 22 Mehefin 2010

Mae tabl sy'n amlinellu'r wybodaeth wedi'i atodi.

BWRDD CYNGHOROL DATBLYGU DIWYDIANNOL CYMRU

Blwyddyn Ariannol 2008-09

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 14 Mehefin 2010
 

Swyddi Newydd

Swyddi a Ddiogelwyd

Cwmnïau yng Nghymru

122

258

Cwmnïau yn y DU nad ydynt yng Nghymru

176

0

Cwmnïau nad ydynt yn y DU

3007

2748

Cyfanswm

3305

3006

Blwyddyn Ariannol 2009-10

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 14 Mehefin 2010
 

Swyddi Newydd

Swyddi a Ddiogelwyd

Cwmnïau yng Nghymru

30

236

Cwmnïau yn y DU nad ydynt yng Nghymru

474

30

Cwmnïau nad ydynt yn y DU

1701

863

Cyfanswm

2205

1129

Noder mai rhagamcan o nifer y swyddi ar adeg y cynnig yw'r rhain.  Nid yw rhai cwmnïau yn derbyn eu cynnig nac yn creu na diogelu'r nifer o swyddi a ragamcanwyd am nifer o resymau (lle bo'n hynny'n digwydd, caiff swm y cymorth a delir ei leihau'n briodol).

Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ynghylch cynigion mynediad i Gyffordd Twnnel Hafren ar gyfer darpar Barcffordd Gwent ac a fyddai'n amlinellu'r dewisiadau mynediad llwybrau amrywiol sy'n cael eu hystyried. (WAQ56072)

Rhoddwyd ateb ar 28 Mehefin 2010

Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Sewta i ymchwilio i welliannau parcio a mynediad yn ogystal ag ystyried cyswllt o'r M4 ger Man Casglu Tollau Ail Bont Hafren fel rhan o astudiaeth i gynllun parcio a theithio strategol i leihau traffig ar yr M4.