14/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 14 Hydref 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 14 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl damwain a gofnodwyd ar y groesfan reilffordd Moat Lane dros yr A470 yng Nghaersws, Sir Drefaldwyn, dros y ddwy flynedd diwethaf. (WAQ54969)

Rhoddwyd ateb ar 26 Hydref 2009

Cefais fy hysbysu gan Network Rail na fu unrhyw ddamweiniau ffordd na rheilffordd yn y lleoliad hwn yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl damwain a gofnodwyd ar groesfannau rheilffordd yng Nghymru dros y ddwy flynedd diwethaf. (WAQ54970)

Rhoddwyd ateb ar 26 Hydref 2009

Cefais fy hysbysu gan Network Rail y bu saith damwain (oll yn gerbydol) yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bont gerdded a beicio Pont y Werin a ddatblygir fel rhan o brosiect Connect2 Sustrans yng Nghaerdydd. (WAQ54968)

Rhoddwyd ateb ar 26 Hydref 2009

Mae'r gwaith o adeiladu Pont y Werin dros Afon Drelái yn mynd rhagddo yn unol â'r cynllun. Mae'r gwaith pentyrru ar wely'r afon eisoes wedi'i gwblhau ac mae dec y bont wrthi'n cael ei greu oddi ar y safle ar hyn o bryd. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2010. Pan gaiff ei chwblhau, bydd y bont yn rhan bwysig o'r fenter Canolfan Deithio Gynaliadwy ar gyfer ardal Caerdydd.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Ardoll Seilwaith Cymunedol. (WAQ54972)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol arfaethedig yn dâl gwirfoddol, heb ei ddatganoli a godir ar gynigion datblygu, sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Mae Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar reoliadau a chanllawiau drafft. Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 23 Hydref 2010. Disgwylir i'r rheoliadau ddod i rym ym mis Ebrill 2010.

Yna, cyfrifoldeb pob awdurdod cynllunio lleol fyddai penderfynu a yw am gyflwyno ardoll o'r fath, sy'n gysylltiedig â chynllun datblygu cyfredol. Mae'r canllawiau drafft yn amlinellu'r gweithdrefnau i'w dilyn, yn cynnwys darpariaethau ar gyfer archwilio'r rhestr taliadau gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o nyrsys sydd wedi cymhwyso i ragnodi meddyginiaethau yn annibynnol ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad fesul ardal Ymddiriedolaeth GIG ac ar gyfer pob blwyddyn er 2005. (WAQ54964)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon yn ôl ardaloedd Ymddiriedolaeth y GIG ar gael yn ganolog.  

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y bydd gwasanaethau niwroleg yn ailddechrau yn Ymddiriedolaeth GIG Abertawe Bro Morgannwg. (WAQ54965)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ag Ymddiriedolaethau GIG Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro ynghylch cynaliadwyedd trefniadau dros dro ar gyfer darparu gwasanaethau niwroleg. (WAQ54966)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y mae'r Gweinidog yn cynnig gwneud datganiad am yr adolygiad i wasanaethau niwroleg yn Abertawe. (WAQ54967)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Mae prinder meddygon gradd ganol ledled y DU yn arbennig mewn rhai meysydd arbenigol iawn fel niwrolawfeddygaeth, wedi arwain at broblem fyrdymor sydd wedi effeithio ar allu'r GIG i gynnal gwasanaeth niwrolawfeddygaeth llawn yn Abertawe a Chaerdydd.  Er clod y niwrolawfeddygon yn Abertawe a Chaerdydd a chyda chefnogaeth Byrddau Ymddiriedolaeth Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro, penderfynwyd ym mis Gorffennaf 2009 y byddent yn cronni eu hadnoddau i ddarparu gwasanaeth diogel i'r nifer fach o gleifion y gallai fod angen llawdriniaeth gymhleth ar eu hymennydd gan ddefnyddio'r cyfleusterau yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cyn gynted ag y bo'r cleifion yn sefydlog, yn glinigol, cânt eu trosglwyddo yn ôl i Dreforys neu i'w Hysbyty Cyffredinol Dosbarth Lleol.

Mae apwyntiadau cleifion allanol niwrolawfeddygol, niwroadsefydlu, agweddau eraill ar ofal niwrolawfeddygol a phob gwasanaeth niwroleg yn parhau yn Abertawe. Materion gweithredol yw'r rhain a chyfrifoldeb y Byrddau Iechyd yw eu datrys ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ddweud amdanynt yn uniongyrchol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i rhoi i’r YMCA yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf. (WAQ54971)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Mae Coleg Cymunedol YMCA yn darparu addysg bellach ac yn cael dyraniad blynyddol o Gronfa Wrth Gefn Ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r Gronfa yn helpu sefydliadau addysg i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr y gallai ystyriaethau ariannol effeithio ar eu gallu i fanteisio ar addysg bellach neu i gwblhau mewn addysg bellach neu fyfyrwyr sydd, am ba reswm bynnag, yn cynnwys anableddau corfforol neu anableddau eraill, yn wynebu anawsterau ariannol.

Y cyfanswm a gafwyd oedd:

Blwyddyn academaidd 2007/08 £6,204

Blwyddyn academaidd 2008/09 £5,688

Blwyddyn academaidd 2009/10 £6,125

Mae'r YMCA wedi cael yr arian canlynol hefyd o dan y Cynllun Buddsoddi Cyfalaf Strategol ar gyfer cynnal a chadw adeiladau.

2007-08 £6,620

2008-09 £15,144

2009-10 £9,300