14/10/2014 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/04/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Hydref 2014 i'w hateb ar 14 Hydref 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Alun Ffred Jones (Arfon): Faint o swyddi yng ngwasanaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi eu hysbysebu, dros y pum mlynedd diwethaf, heb unrhyw sôno gwbwl ynddynt am fedru Cymraeg? (WAQ67832W)

Derbyniwyd ateb ar 14 Hydref 2014

Y Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): Mae staffio o fewn Llywodraeth Cymru yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. Yr wyf wedi gofyn iddo ysgrifennu atoch ar wahân gyda'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfuno'r Arolygiaeth Gwenyn, y Grŵp Amrywiaeth Planhigion a Hadau a'r Arolygiaeth Addasu Genetig â swyddogaethau'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol? (WAQ67826)

Derbyniwyd ateb ar 10 October 2014

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant): We were advised of their proposals earlier this year.

 

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A ymgynghorwyd yn ffurfiol â Llywodraeth Cymru ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfuno'r Arolygiaeth Gwenyn, y Grŵp Amrywiaeth Planhigion a Hadau a'r Arolygiaeth Addasu Genetig â swyddogaethau'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol? (WAQ67827)

Derbyniwyd ateb ar 10 October 2014

Carl Sargeant: Yes

 

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Beth oedd ymateb Llywodraeth Cymru i benderfyniad Llywodraeth y DU i gyfuno'r Arolygiaeth Gwenyn, y Grŵp Amrywiaeth Planhigion a Hadau a'r Arolygiaeth Addasu Genetig â swyddogaethau'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol, a beth oedd y rhesymeg y tu ôl i'r ymateb hwnnw? (WAQ67828)

Derbyniwyd ateb ar 10 Hydref 2014

Carl Sargeant: It was noted, but assurances were given that there would not be any change to existing arrangements for carrying out inspection processes.

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfuno'r Arolygiaeth Gwenyn, y Grŵp Amrywiaeth Planhigion a Hadau a'r Arolygiaeth Addasu Genetig â swyddogaethau'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol yn ei chael ar y sector yng Nghymru? (WAQ67829)

Derbyniwyd ateb ar 10 Hydref 2014

Carl Sargeant: We do not expect adverse changes to occur.

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cynnal ynglŷn â dyfodol Garth Celyn? (WAQ67822W)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol safle Garth Celyn? (WAQ67824W)

Derbyniwyd ateb ar 14 Hydref 2014 (WAQ67822/24)

Y Ddiprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Ken Skates):  Mae fy swyddogion yn Cadw wedi cynnal nifer o asesiadau o fewn pentref Abergwyngregyn ac o'i amgylch. Dyma leoliad hanesyddol Garth Celyn, sef un o lysoedd Tywysogion Gwynedd.

Mae nifer o asedau hanesyddol wedi'u diogelu'n statudol yn sgil yr asesiadau hyn. Yn eu plith mae dau o'r safleoedd eraill sydd wedi'u cynnig fel lleoliadau posibl llys brenhinol a hanesyddol Garth Celyn:

  • Y mwnt hanesyddol, a adwaenir fel y Mwd, yng nghanol y pentref a gweddillion adeilad gerllaw a gafodd ei ddatgelu yn sgil gwaith cloddio. Mae rhan fawr o'r safle hwn wedi'i rhestru fel heneb
  • Y tŷ a arferai gael ei alw'n Pen-y-Bryn, ac sydd bellach yn cael ei alw'n Garth Celyn gan y perchennog presennol, sydd ar ochr y bryn yn rhan ddwyreiniol y pentref. Mae'r tŷ wedi'i restru'n adeilad gradd II* ac mae gweddillion canoloesol gerllaw wedi'u rhestru'n heneb. 

Mae swyddogion Cadw bellach yn ymwybodol o'r ffaith bod yr ail safle, sef Pen-y-bryn/Garth Celyn, ar werth yn awr.  

Cysylltodd y perchennog presennol â'r Gweinidog Treftadaeth ar y pryd yn 2008 yn awgrymu y gallai'r eiddo ddod o dan warchodaeth Llywodraeth Cymru. Eglurwyd, fodd bynnag, na allai eiddo a feddiennir ddod o dan warchodaeth.   

Nid oes unrhyw un wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ers hynny ynghylch perchenogaeth y tŷ yn y dyfodol. Os byddai gohebiaeth o'r fath yn cael ei derbyn, caiff y mater ei ystyried yn unol â chanllawiau polisi a gweithdrefnau Cadw ynghylch caffael. Ni chaiff eiddo ond ddod o dan warchodaeth y wladwriaeth os nad oes unrhyw ddewis arall. Wrth gwrs, gallai rhestru'r adeilad a rhoi statws iddo ei ddiogelu rhag unrhyw gynigion yn y dyfodol a allai effeithio ar ei arwyddocâd hanesyddol.  

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Alun Ffred Jones (Arfon): Beth oedd cost symud staff o Gaerdydd i weithio yn swyddfeydd y Llywodraeth yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno a faint ohonynt sydd wedi symud yn ôl i Gaerdydd? (WAQ67830W)

Derbyniwyd ateb ar 14 Hydref 2014

Y Gweinidog Cyllid a Busnes Llywodraeth (Jane Hutt): Mae staffio o fewn Llywodraeth Cymru yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. Yr wyf wedi gofyn iddo ysgrifennu atoch ar wahân gyda'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani.

 

Alun Ffred Jones (Arfon): Faint o swyddi sydd wedi cael eu symud o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno i Gaerdydd ers sefydlu'r ddwy swyddfa a beth yw statws y swyddi hynny? (WAQ67831W)

Derbyniwyd ateb ar 14 Hydref 2014

Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Jane Hutt): Mae staffio o fewn Llywodraeth Cymru yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. Yr wyf wedi gofyn iddo ysgrifennu atoch ar wahân gyda'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani.