Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mehefin 2011 i’w hateb ar 15 Mehefin 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion ynghylch cyflogau Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru yn ystod (a) 2009/10 a (b) 2010/11. (WAQ57482)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion ynghylch cyflogau tîm newydd o Gynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru. (WAQ57483)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu enwau, swyddogaethau a chyfrifoldebau pob aelod sy’n gweithio yn Uned Gyflawni’r Prif Weinidog. (WAQ57484)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ57437, a wnaiff y Gweinidog restru’r taliadau y cyfeirir atynt gan nodi’r swm a phwy sy’n derbyn pob un. (WAQ57485)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Prif Weinidog eleni ynghylch rhaglen POWIS. (WAQ57490)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag Is-ganghellor Prifysgol Cymru er mis Ionawr 2010 ynghylch rhaglen POWIS. (WAQ57489)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn WAQ57407, sawl un a safodd TGAU a gafodd radd pasio neu uwch ar gyfer Economeg y Cartref, Arlwyo a Thechnoleg Bwyd rhwng 2004 a 2010. (WAQ57493)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn WAQ57407, a wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth hon fesul ysgol a dangos pa gyfleusterau a ddarperir ar gyfer y cyrsiau hyn yn yr ysgolion. (WAQ57491)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr mewn pynciau unigol o nifer a chanran y plant, yn ôl awdurdod lleol unigol, sydd wedi symud o ysgol Gynradd i ysgol Uwchradd heb gyrraedd y safonau sylfaenol gofynnol ym maes llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. (WAQ57492)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn WAQ57398, pa gamau a gymerir gan y Gweinidog o ran safonau gwael adeiladau a chyfleusterau ysgolion yn yr ardaloedd hynny lle nad oes gan Awdurdodau Addysg Lleol raglenni amlinellol strategol gadarn sy’n cyfateb i feini prawf Llywodraeth Cymru. (WAQ57495)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad yn ôl pwnc o nifer a chanran y plant sy’n gadael ysgol yn 16 heb raddau pasio neu uwch yn y pynciau craidd. (WAQ57494)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ateb i WAQ57383, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y caiff penderfyniad ei wneud ar y defnydd tebygol o’r cyllid canlyniadol gwerth oddeutu £10 miliwn i sefydlu Parthau Menter yma yng Nghymru. (WAQ57486)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Gweinidog yn rhagweld unrhyw newidiadau i raglenni gwariant Llywodraeth Cymru er mwyn adlewyrchu anghenion blaenoriaethau newydd y Llywodraeth. (WAQ57487)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu cyllid ychwanegol o arian canlyniadol Barnett a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. (WAQ57488)