Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 08 Rhagfyr 2009 i’w hateb ar 15 Rhagfyr 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog a’i gynghorwyr wedi’u cael â Severn River Crossing ccc ynghylch costau tollau yn 2010. (WAQ55276)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gyngor y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd gan fusnesau ar gostau tollau ar gyfer croesi Afon Hafren yn 2010. (WAQ55277)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â’i gyd-Weinidogion yn Llywodraeth y DU ynghylch a) tollau i groesi Afon Hafren a b) rhewi a gostwng tollau’n ehangach yn 2010. (WAQ55278)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a ymgynghorir ag ef fel rhan o’r broses a ddefnyddir i gyfrifo’r tollau blynyddol newydd ar gyfer croesi Afon Hafren. (WAQ55279)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith tollau croesi Afon Hafren ar fusnes yng Nghymru. (WAQ55280)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau diweddar y mae wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch colli’r gwasanaeth awyr ac achub 24 awr yn RAF Chivenor oherwydd toriadau i wasanaethau o 2012 ymlaen, ac effeithiau hyn ar Gymru. (WAQ55275)