16/03/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 Mawrth 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 16 Mawrth 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, gan roi’r ffigurau ar gyfer pob adran, faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar (a) hysbysebu ac (b) ymgynghorwyr ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ55857)

Rhoddwyd ateb ar 26 Mai 2010

Byddaf yn ysgrifennu llythyr pellach atoch cyn gynted â phosibl ar gostau hysbysebu a chaiff copi o’m llythyr ei gyhoeddi ar y rhyngrwyd.

O ran y swm a wariwyd ar ymgynghori, gallaf roi gwybod i chi i Lywodraeth y Cynulliad wario cyfanswm o £11.2m yn ystod blwyddyn ariannol 2008-09 ar ymgynghorwyr allanol. Ni allaf roi ffigurau cyson ar gyfer y blynyddoedd blaenorol am y rhesymau a nodir isod:

• cafodd Adrannau eu hailstrwythuro’n sylweddol o fewn Llywodraeth y Cynulliad o ganlyniad i brosesau uno, Deddf Llywodraeth Cymru a newidiadau Gweinidogol;

• cafwyd newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae gwariant ar ymgynghori yn cael ei ddosbarthu. Mae Llywodraeth y Cynulliad bellach yn diffinio costau ymgynghori ar ffurf sy’n gymaradwy ag Adrannau eraill y Llywodraeth, gan ddefnyddio’r diffiniad a luniwyd gan Drysorlys EM sy’n adlewyrchu natur contractau ymgynghori yn well;

• roedd y ffordd y cafodd gwybodaeth ei chasglu a’i chofnodi yn wahanol mewn blynyddoedd blaenorol. Mae ein systemau bellach yn canolbwyntio ar gasglu data sy’n unol â’n diffiniad diwygiedig a byddai’n rhy gostus ailddosbarthu’r gwariant yr aed iddo cyn 2008-09.

Llywodraeth y Cynulliad sy’n cadw’r wybodaeth sy’n ymwneud ag achlysuron penodol o gyflogi cwmnïau ymgynghori dros y 10 mlynedd diwethaf, ond nid mewn un lleoliad canolog. Byddai casglu’r wybodaeth hon yn golygu gwaith i echdynnu gwybodaeth o brif ddogfennau gan gynnwys e.e. anfonebau sy’n cynnwys amryw drafodion ar draws pob Adran a byddai’n fwy na’r terfyn amser priodol a nodwyd i ymgymryd â’r gwaith hwn.

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Ar gyfer pob cynnig i ad-drefnu ysgolion y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi delio â nhw dros y 12 mis diwethaf, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad sy’n dangos ar gyfer pob un ohonynt faint o amser a gymerodd pob penderfyniad ac o ba awdurdod lleol y dônt. (WAQ55851)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Dyma'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fesul awdurdod lleol.

Sir Ddinbych - cyflwynwyd penderfyniad i gau chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Blessed Edward Jones a chweched dosbarth Ysgol Uwchradd y Rhyl, 31 wythnos ar ôl y cyhoeddiad. Roedd gofyn i'r awdurdod lleol gymryd camau gweithredu ychwanegol er mwyn dod i benderfyniad. Cyflwynwyd penderfyniadau pellach o ganlyniad i'r camau gweithredu dilynol, 36 a 41 wythnos ar ôl y cyhoeddiad cyntaf.

Pen-y-bont ar Ogwr- cyhoeddwyd dau gynnig mewn perthynas ag Ysgol Fabanod ac Ysgol Iau Tremaen. Roedd y cynnig cyntaf yn ymwneud â chau'r Ysgol Fabanod. Roedd yr ail gynnig yn ymwneud ag ychwanegu uned anghenion arbennig at yr ysgol iau. Nid oedd yn bosibl penderfynu ar y cynnig cyntaf hyd nes bod yr ail gynnig wedi'i gyhoeddi a bod cyfle i'w wrthwynebu. Cyflwynwyd y llythyr penderfyniad 11 wythnos ar ôl i'r ail gynnig gael ei gyhoeddi.

Wrecsam - Cau Ysgol Fabanod Acton ac Ysgol Iau Acton, a sefydlu ysgol gynradd newydd. Cyflwynwyd penderfyniad 26 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Caerdydd - Cau Ysgol Iau Cwrt Yr Ala, Ysgol Fabanod Caerau ac Ysgol Feithrin Caerau a sefydlu ysgol gynradd newydd gan drosglwyddo ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i'r safleoedd gwag hyn. Cyflwynwyd llythyr penderfyniad 47 wythnos ar ôl i'r cynnig gael ei gyhoeddi.

Ysgol Fabanod Trowbridge ac Ysgol Iau Trowbridge - cau'r ddwy ohonynt a sefydlu ysgol gynradd newydd, gan drosglwyddo ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i'r safle gwag. Cyflwynwyd llythyr penderfyniad 28 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Cau Ysgol Gynradd Cefn Onn a sefydlu darpariaeth feithrin yn Ysgol Gynradd Llysfaen ac Ysgol Gynradd Thornhill - cyflwynwyd penderfyniad 37 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd mewn rhan o Ysgol Gynradd Gabalfa - cyflwynwyd penderfyniad 29 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Abertawe

Ysgol Gyfun Gŵyr - sefydlu Cyfleuster Addysgu Arbenigol - cyflwynwyd penderfyniad 26 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Ysgol Fabanod Tregŵyr ac Ysgol Gynradd Tregŵyr - cau'r ddwy ohonynt a sefydlu ysgol gynradd newydd. Cyflwynwyd penderfyniad 39 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Ysgol Gynradd Cwm - cau - cyflwynwyd penderfyniad 38 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Ysgol Gynradd Llanmorlais - cau - cyflwynwyd penderfyniad 39 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Blaenau Gwent

Ysgol Gynradd Garnlydan - cau - cyflwynwyd penderfyniad 37 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Rhondda Cynon Taf

Ysgol Iau y Maerdy ac Ysgol Fabanod y Maerdy - cau'r ddwy ohonynt a sefydlu ysgol gynradd newydd - cyflwynwyd penderfyniad 28 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Ysgol Fabanod Penrhiwfer - cau - cyflwynwyd penderfyniad 25 wythnos ar ôl y cyhoeddiad

Sir Benfro

Ysgol Gynradd Cas-lai - cau - cyflwynwyd penderfyniad 22 wythnos ar ôl y cyhoeddiad

Tor-faen

Ysgol Feithrin Hillside, Ysgol Gynradd Hillside, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru St Peters - cau'r tair ohonynt a sefydlu ysgol gynradd newydd - cyflwynwyd penderfyniad 28 wythnos ar ôl y cyhoeddiad.

Yn aml mae materion a godir gan gynigion statudol yn gymhleth, ac mae penderfyniadau yn cymryd mwy o amser pan fo hynny'n digwydd.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Ar gyfer y cynigion i ad-drefnu ysgolion sy’n disgwyl cymeradwyaeth gweinidogol ar hyn o bryd, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad sy’n dangos pa mor hir mae pob un ohonynt wedi bod yn disgwyl am gymeradwyaeth ac o ba awdurdod lleol y dônt. (WAQ55852)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Dyma'r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Dylid nodi nad yw cynigion mewn gwirionedd yn disgwyl cymeradwyaeth yn ystod y 13 wythnos gyntaf ar ôl eu cyhoeddi, gan na chaiff papurau eu cyflwyno i Weinidogion Cymru tan 13 o wythnosau ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Nodir sawl wythnos sydd wedi mynd heibio ers i gynigion gael eu cyhoeddi isod fesul achos, ond er mwyn rhoi darlun mwy cywir, dylid tynnu tua 13 wythnos o bob achos.

Caerdydd

Cai Ysgol Uwchradd Tredelerch ac Ysgol Uwchradd Llanrhymni a sefydlu ysgol uwchradd newydd - 51 wythnos.

Cau Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Gynradd Tan yr Eos, trosglwyddo, ymestyn ac ehangu ystod oedran Ysgol Gymraeg Treganna, ymestyn ac ehangu ystod oedran Ysgol Gynradd Radnor - 42 wythnos

Cau Ysgol Uwchradd Llanedeyrn a sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a'r cynnig cysylltiedig canlynol;

Trosglwyddo Ysgol Gyfun yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant - 24 wythnos

Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, sefydlu cyfleuster Anghenion Addysgol Arbennig newydd - 15 wythnos.

Abertawe

Cau Ysgol Gynradd Arfryn - 39 wythnos

Ceredigion

Cau Ysgol Gynradd Capel Dewi - 39 wythnos

Cau Ysgol Gynradd Penmorfa - 39 wythnos

Blaenau Gwent

Cau Ysgol Gyfun Nant-y-glo - 35 wythnos

Sir Benfro

Cau Ysgol Gynradd Mathri ac ehangu Ysgol Ger y Llan - 24 wythnos

Sir Fynwy

Cau Ysgol Gynradd Gofilon - 14 wythnos

Cau Ysgol Gynradd Llanofer - 14 wythnos

Sir Gaerfyrddin

Cau Ysgol Gynradd Cefnbrynbrain - 12 wythnos

Cau Ysgol Gynradd Ystradowen - 12 wythnos

Er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno gwrthwynebiadau, eu sylwadau a'r eitemau sy'n ofynnol o dan Reoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion (Cymru) o fewn mis yn dilyn diwedd y cyfnod gwrthwynebu, fel arfer mae'n rhaid i swyddogion ofyn am wybodaeth bellach gan awdurdodau lleol er mwyn casglu digon o ffeithiau i allu gwneud penderfyniad.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gwahaniaeth rhwng y Fagloriaeth Ryngwladol a Bagloriaeth Cymru. (WAQ55854)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi'i gynllunio'n benodol at ddibenion Cymru.  Mae ar gael ar dair lefel (Sylfaen, Canolradd ac Uwch).  Mae pob lefel yn cynnwys elfen Graidd orfodol ac opsiynau.  Dewisir yr opsiynau o gymwysterau sydd eisoes yn bodoli megis TGAU, TAG, Safon Uwch a chymwysterau NVQ.  Mae angen i bob dysgwr gwblhau'r elfen Graidd sy'n cynnwys y canlynol:

• 'Cymru, Ewrop a'r Byd' gan gynnwys modiwl iaith;

• Ymchwiliad Unigol;

• Cymwysterau Sgiliau Allweddol;

• Addysg Bersonol a Chymdeithasol, gan gynnwys gweithgareddau cymunedol;

• Addysg Gysylltiedig â Gwaith a phrofiad gwaith.

Mae'r elfen Graidd yn sicrhau ehangder ym mhob un o raglenni'r dysgwyr, tra bod yr opsiynau yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu arbenigedd, a dilyn llwybrau academaidd neu alwedigaethol.  Gan fod y rhaglen yn seiliedig ar gymwysterau unigol, gall dysgwyr gyflawni cymwysterau cydnabyddedig hyd yn oed os na fyddant yn cwblhau'r rhaglen i gyd.

O fis Medi 2010, bydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar gael mewn 217 o ganolfannau yng Nghymru gydag oddeutu 53,000 o ddysgwyr yn dilyn rhaglenni Bagloriaeth Cymru.  

Yn Rhaglen Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol, mae myfyrwyr yn astudio chwe chwrs wedi'u teilwra ar lefel uwch neu lefel safonol. Mae myfyrwyr yn dewis un pwnc o bob grŵp rhwng un i bump (Iaith;  Ail Iaith; Unigolion a Chymdeithasau; Gwyddorau Arbrofol; a Mathemateg a Chyfrifiadureg). Gellir dewis y chweched pwnc o grŵp chwech (Y Celfyddydau), neu gellir dewis pwnc arall o grwpiau un i bump.

Mae tri gofyniad craidd i'r rhaglen hefyd - traethawd estynedig, theori gwybodaeth a chreadigrwydd, gweithredu, gwasanaeth.  

Mae rhaglen yn arwain at un cymhwyster. Fodd bynnag, os na fydd dysgwyr yn cyflawni'r diploma cyfan, dyfernir tystysgrif iddynt ar gyfer pob pwnc a astudir.

Mae Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol ar gael mewn mwy na 100 o ysgolion a cholegau yn y DU.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Yn dilyn atebion y Gweinidog i WAQ55697, WAQ55718 ac WAQ55719, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod a yw’r term 'cyhoeddiad’ a ddefnyddir yn yr atebion hyn yn cyfeirio at adeg cyhoeddi hysbysiad statudol y cynnig ynteu ddiwedd y cyfnod ymgynghori deufis. (WAQ55858)

Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010

Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb i gwestiwn rhif 55852. Y pwynt cyfeirio yw'r dyddiad y caiff y cynnig ei gyhoeddi gyntaf mewn hysbysiad statudol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod pob sefydliad gofal iechyd sy’n ymwneud ag asesu a rhoi diagnosis yng nghyswllt arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol yn gallu darparu gwybodaeth sy’n cyfeirio at wasanaethau cefnogi a gwybodaeth arall. (WAQ55855)

Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010

Mae sicrhau bod cyfeirio digonol at wasanaethau ar gyfer pobl sydd ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig yn un o'r amcanion allweddol a nodwyd yn y Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau. Ym mis Medi, cynhaliodd yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd archwiliad o gynnydd yn erbyn pob un o'r camau gweithredu allweddol yn y Cyfarwyddebau a ddangosodd fod 43% o BILlau wedi cyflawni'r cam gweithredu hwn yn llawn tra bo'r 57% arall wedi ei gyflawni'n rhannol. Mae rhagor o waith wedi'i gynllunio i sicrhau y caiff y cam gweithredu hwn ei gyflawni'n llawn erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o weithredu rhaglenni hunanreoli ar gyfer pobl sy’n byw ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol. (WAQ55856)

Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010

Mae gweithredu rhaglenni hunanreoli ar gyfer pobl sydd ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig yn un o'r amcanion allweddol a nodwyd yn y Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau. Ym mis Medi, cynhaliodd yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd asesiad o gynnydd yn erbyn pob un o'r camau gweithredu allweddol yn y Cyfarwyddebau a ddangosodd fod 86% o BILlau wedi cyflawni'r cam gweithredu hwn yn llawn tra bo'r 14% arall wedi ei gyflawni'n rhannol. Mae rhagor o waith wedi'i gynllunio i sicrhau y caiff y cam gweithredu hwn ei gyflawni'n llawn erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Michael German (De Cymru Dwyrain): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, swyddogion Llywodraeth y DU, swyddogion yr adran iechyd a swyddogion Llywodraeth Ynys Manaw ynghylch parhau â chytundeb dwyochrog y GIG rhwng Cymru ac Ynys Manaw. (WAQ55859)

Michael German (De Cymru Dwyrain): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru eisoes wedi pasio deddfwriaeth a fydd yn dod â chytundeb dwyochrog y GIG gydag Ynysoedd y Sianel i ben, ond nad yw deddfwriaeth mewn perthynas ag Ynys Manaw wedi’i chyflwyno hyd yma. (WAQ55860)

Rhoddwyd ateb ar 22 Mawrth 2010

Fe'ch cyfeiriaf at fy llythyr dyddiedig 11 Mawrth 2010 at bob Aelod Cynulliad, rhif cyfeirnod SF/EH/0116/10.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael ynghylch cyflwyno 'treth ceffylau’ yng Nghymru. (WAQ55853)

Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am gyflwyno treth geffylau benodol yng Nghymru.