16/06/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 09 Mehefin 2010 i’w hateb ar 16 Mehefin 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryd y cwblhaodd McKinsey y gwaith ar yr adroddiad ar y GIG yng Nghymru. (WAQ56078)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ar ba ddyddiad y daeth Adroddiad McKinsey ar y GIG yng Nghymru yn ddogfen weithio yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  (WAQ56079)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y protocolau’n ymwneud â chofnodion meddygol cyfrinachol cleifion. (WAQ56080)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pwy sydd â hawl i weld cofnodion meddygol cyfrinachol cleifion heb gael caniatâd y claf o flaen llaw. (WAQ56081)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau’r buddsoddiad mewn ffisiotherapi yng Nghymru. (WAQ56083)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y digwyddiadau treisgar a gofnodwyd yn erbyn aelodau staff y GIG ym mhob blwyddyn er 2005. (WAQ56084)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru (fesul grŵp oedran) er 2007. (WAQ56085)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y swyddi ffisiotherapi cymwys sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, o’i gymharu â'r ffigurau ar gyfer 2007 a phob blwyddyn y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer wedi hynny. (WAQ56086)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu data’n ymwneud â nifer y bobl sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys gyda chyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol ar gyfer pob blwyddyn y mae data ar gael ar eu cyfer er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal BILl lle bo hynny’n bosibl. (WAQ56087)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ54547, a wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ba ffigurau sydd ar gael yn awr ynghylch nifer y bobl sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys sydd wedi dioddef trais domestig. (WAQ56088)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ54547, pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i sicrhau bod gan adrannau Damweiniau ac Achosion brys systemau gwybodaeth digonol i nodi pobl sy’n dychwelyd fwy nag unwaith oherwydd eu bod o bosibl wedi dioddef trais domestig, a sawl atgyfeiriad sydd wedi’i wneud er Gorffennaf 2009. (WAQ56089)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ54553, a wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn. (WAQ56090)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ53830, pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i geisio dwyn ymlaen y ddadl mewn Cyfarfod Llawn yr oedd yn bwriadu ei chynnal haf diwethaf. (WAQ56091)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint mae Grŵp Adolygu Biwrocratiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i gostio hyd yn hyn ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul a) yr holl ad-daliadau i’r aelodau b) y treuliau ysgrifenyddol ac c) y costau hyrwyddo. (WAQ56082)