16/07/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Gorffennaf 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Gorffennaf 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn datgan beth oedd cyfanswm y bonysau a dalwyd i uwch weision sifil yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob un o’r naw blwyddyn ariannol diwethaf? (WAQ52196)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfanswm y bonysau a dalwyd i uwch weision sifil yn Llywodraeth y Cynulliad ers 2003-04 yw:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Gorffennaf 2008

2003-04

£270,000

2004-05

£190,500

2005-06

£380,990

2006-07

£559,581

2007-08

£686,872

Gwnaed y taliadau hyn yn unol â system gyflog yr uwch wasanaeth sifil a gaiff ei phennu gan Lywodraeth y DU ar gyngor y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion sy’n annibynnol. Telir bonysau i gydnabod perfformiad yn y flwyddyn flaenorol h.y. mae’r bonysau a delir yn 2007-08 yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2006-07.

Ni allaf ddarparu ffigurau cyn 2003-04 oherwydd newidiodd Llywodraeth y Cynulliad ei darparwyr cyflogres yn 2003 ac felly nid oes gennym y cyfleuster angenrheidiol i adrodd ar y gyflogres.  

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o bobl a gyflogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y Rhyl ac ym Mae Colwyn? (WAQ52230)

Y Prif Weinidog: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflogi 87 o bobl yn y Rhyl a Bae Colwyn. Mae’r ffigur yn rhannu fel a ganlyn: Y Rhyl—3; Bae Colwyn—84

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl tudalen sydd wedi cael ei dileu o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn ers ei sefydlu, gan ddarparu dadansoddiad fesul pwnc? (WAQ52171)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Ym mis Ebrill 2006, prynodd Llywodraeth y Cynulliad  system rheoli cynnwys (1) dosbarth menter i reoli’r wefan gorfforaethol. Mae’r system hon yn caniatáu i ni reoli ein cynnwys yn rhagweithiol a chaiff ei defnyddio’n eang yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus.  

Mae’r ffordd y caiff cynnwys ei reoli ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn golygu nad yw’n bosibl cyfrif maint y cynnwys a ddilëwyd fesul maes.  

Bob mis, caiff tua 300 o eitemau, yn cynnwys tudalennau gwe, dogfennau Word, dogfennau PDF a lluniau, eu dileu o’r wefan hon.  Fodd bynnag, nid yw pob un o’r rhain wedi’u cyhoeddi’n flaenorol ar y wefan ac mae’r mwyafrif yn ddrafftiau cynnar neu’n wallau cyhoeddi.

Pan gaiff cynnwys ei greu ar gyfer y wefan, mae’n mynd drwy  gylch bywyd (2), lle caiff ei greu, ei wirio, ei gyhoeddi, ei adolygu ac, os bydd angen, ei archifo.  Os caiff cynnwys ei ddiweddaru, trosysgrifir y fersiwn blaenorol.  Os bydd angen, gellir adfer fersiynau blaenorol drwy’r system rheoli cynnwys neu un o’r systemau wrth gefn dros nos, yn dibynnu ar faint o amser sydd ers eu cyhoeddi.

Pan gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2006, cyfrifwyd y cafodd tua 6,633 o dudalennau o gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru eu hailysgrifennu neu eu dileu wrth drosglwyddo i'r wefan newydd a 7,863 o dudalennau o’r sefydliadau a oedd yn cyfuno.  Archifwyd holl gynnwys hen wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru cyn lansio'r wefan newydd.

() Rheoli Cynnwys Menter yw’r dechnoleg a ddefnyddir i ddal, rheoli, storio, cadw a chyflenwi cynnwys a dogfennau yn ymwneud â phrosesau sefydliadol.

(2) Mae cylch bywyd cynnwys gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru fel a ganlyn: newydd, adolygu, cyfieithu, adolygu ar ôl cyfieithu, cyhoeddi ac archifo. Os caiff tudalen ei hailddefnyddio, caiff ei symud yn ôl i statws newydd i ailddechrau’r cylch.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganllawiau swyddogol a roddir i staff Llywodraeth Cynulliad Cymru am ddefnyddio dulliau trafnidiaeth gynaliadwy pan fyddant ar fusnes swyddogol? (WAQ52173)

Andrew Davies: Disgwylir i staff ddewis y ffordd fwyaf cynaliadwy o deithio pan fyddant ar fusnes swyddogol. Mae safle Mewnrwyd Materion Gwyrdd yn cynghori staff i ystyried fideo-gynadledda neu gynadledda clywedol bob amser gan osgoi teithio yn gyfan gwbl os yw’n bosibl. Os na ellir osgoi teithio, cynghorir staff i ddewis y dull mwyaf cynaliadwy o deithio dan yr amgylchiadau. Os yw defnyddio car yn hanfodol, gellir hurio ceir drwy gontract, sy’n darparu cerbydau wedi’u bandio yn ôl eu gollyngiadau CO2. Mae hyn yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i lynu wrth y targed amgylcheddol presennol i hurio cerbydau sydd â gollyngiadau CO2 o 130g/km neu is.  Pan ystyrir bod teithio mewn cerbyd personol yn briodol, anogir yr arfer o rannu ceir drwy ddarparu lwfans o 5c i’r gyrrwr am bob teithiwr a gludir.

Hefyd, mae Datganiad Polisi Amgylcheddol Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007-08 yn cynnwys yr amcanion allweddol canlynol:

Datblygu Polisi Teithio newydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n pwysleisio dewisiadau amgen yn lle teithio a defnyddio dulliau mwy cynaliadwy pan fo angen teithio, ac yna defnyddio hyn i ddatblygu Cynlluniau Teithio penodol ar gyfer ein swyddfeydd;

Ehangu’r defnydd o dechnoleg gynadledda, cyfyngu hurio a phrydlesu i gerbydau sydd â gollyngiadau isel (<130gCO2/km), cyflwyno dulliau gwyrdd o reoli fflyd at ddibenion busnes.

Mae’r amcanion hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r arbedion posibl o ran ynni ac arian petai staff Llywodraeth Cynulliad Cymru’n diffodd cyfrifiaduron personol pan nad ydynt yn eu defnyddio? (WAQ52176)

Andrew Davies: Mae’r arbedion posibl yn ddibynnol ar y math o offer pen desg sy’n newid yn ystod y broses bresennol o drawsnewid offer TGCh.  Wrth i offer sy’n fwy effeithlon o ran ynni gael eu gosod, bydd yr ynni a ddefnyddir yn lleihau.  Mae hyn yn golygu y bydd y swm y gellir ei arbed drwy ddiffodd cyfrifiaduron personol, yn nhermau ynni ac arian, yn lleihau yn gyfatebol er y gellir gwneud arbedion pellach o hyd.

Byddai 127,742 kWh, ar sail 7,582 o weithfannau yn defnyddio 3 wat ar 'standby’, yn cael ei arbed yn flynyddol yn ystod nosweithiau’r wythnos (12 awr y nos) a phenwythnosau (48 awr). Mae hyn yn cyfateb i tua 0.7 y cant o ddefnydd trydan blynyddol Llywodraeth y Cynulliad a byddai’n arbed £8,942 y flwyddyn ar gyfartaledd o 7c yr uned.

Mae’r Rheolau Defnyddio TGCh yn nodi y dylid diffodd gweithfannau dros nos. Caiff staff eu hatgoffa o hyn drwy hysbysiadau ar Hafan y Fewnrwyd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran hyrwyddo cynnyrch twristiaeth Cymru i’r farchnad gartref? (WAQ52193)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Ystyrir nifer o ffactorau wrth asesu pa farchnadoedd sy’n cynnig y potensial gorau ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diweddar, mae Croeso Cymru a Bwrdd Croeso Cymru cyn hynny wedi canolbwyntio ar farchnadoedd y tu allan i Gymru oherwydd teimlwyd y gallai sefydliadau eraill y sector cyhoeddus a busnesau twristiaeth fynd i’r afael â’r farchnad yng Nghymru. Mae’n anos treiddio i farchnadoedd allanol ac mae Croeso Cymru mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â’r rhain. Caiff y polisi hwn ei adolygu’n rheolaidd a bydd yr adolygiad o’r diwydiant twristiaeth, a gomisiynais ar y cyd â Chynghrair Twristiaeth Cymru, yn asesu’r marchnadoedd sy’n cynnig y potensial gorau i Gymru.