Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 09 Tachwedd 2010 i’w hateb ar 16 Tachwedd 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch defnyddio mastiau teledu i drawsyrru band eang di-wifr. (WAQ56730)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno'r drwydded 4G. (WAQ56731)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad SEWTA o fforddiadwyedd gwasanaeth fesul awr ar reilffordd Cas-gwent. (WAQ56732)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddi nyrsys yng Nghymru. (WAQ56729)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiannau'r cynllun Cyswllt Ffermio dros y deuddeg mis diwethaf. (WAQ56733)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl wariant ar y cymorthfeydd Glastir sydd wedi cael eu cynnal hyd yn hyn. (WAQ56734)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i ffermydd pysgod a physgodfeydd mewndirol. (WAQ56735)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o dderbyniadau refeniw Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf. (WAQ56736)