17/05/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mai 2012 i’w hateb ar 17 Mai 2012

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn ogystal â’r wybodaeth a gaiff ei nodi yn nhudalennau 34-35 o’r adroddiad ‘Hwyluso’r Drefn’, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw’r rheol rhoi gwybod am bob achos o symud gwartheg o fewn tri diwrnod i’w symud yn golygu tri diwrnod calendr neu dri diwrnod busnes yng Nghymru. (WAQ60288)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau ai arian wrth gefn Llywodraeth Cymru fydd yn talu’r costau ychwanegol a ddisgwylir i’r rhaglen frechu arfaethedig i ddileu TB, ynteu cyllideb ei adran ei hun. (WAQ60287)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddisgrifio’r broses recriwtio a gafodd ei dilyn yn ddiweddar ar gyfer penodi Cadeirydd presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. (WAQ60289)