17/06/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mehefin 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mehefin 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerth am arian a gafwyd o ran sgiliau a chreu swyddi o’r £200k a fuddsoddwyd yn y wefan newyddion Iaith Gymraeg? (WAQ54331)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Yn ystod y cam cychwynnol, crëwyd saith swydd llawn amser newydd yn Golwg360, gan gynnwys pedair swydd i newyddiadurwyr. Mae cynlluniau i fuddsoddi mewn swyddi ychwanegol wrth i’r prosiect ddatblygu. Mae’r rhain yn swyddi gwerthfawr iawn, yn enwedig mewn ardal wledig fel Dyffryn Teifi. Mae’r newyddiadurwyr a benodwyd yn ddiweddar wedi cael hyfforddiant dwys gan weithwyr proffesiynol profiadol ac mae’r hyfforddiant hwn yn parhau. Bydd y gwasanaeth newyddion hefyd yn prynu deunydd gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr llawrydd, er enghraifft.

Mae Golwg Newydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy ei Rhaglen Datblygu’r Gweithlu i lunio rhaglen sgiliau a hyfforddiant i aelodau newydd o staff a chyflogeion presennol.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch (a) cyfraniad TV Everywhere at waith dylunio a chreu’r wefan newyddion Iaith Gymraeg, a (b) beth yw’r goblygiadau o ran defnyddio arian cyhoeddus yn sgil ei statws yn Nhŷ’r Cwmnïau? (WAQ54332)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o arian cyhoeddus a gafodd TV Everywhere am ddylunio, creu a rhedeg y wefan newyddion Iaith Gymraeg? (WAQ54333)

Alun Ffred Jones: Bu Iolo Jones o TV Everywhere yn ymgynghorydd i Golwg Newydd. Gweithiodd ar y cynllun busnes gwreiddiol a oedd yn rhan o gais Golwg am arian. Yna gweithiodd gyda’r cwmni wrth ddatblygu’r cysyniad, a bu’n gydlynydd rhwng Golwg Newydd a Tinopolis (sy’n gyfrifol am ddarparu’r feddalwedd) ar yr ochr dechnegol.

Y cyfanswm a dalwyd i TV Everywhere yn 2008/09 oedd £25,354 a thalwyd dim yn 2009/10.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad y wefan newyddion Iaith Gymraeg sydd wedi cael £200k o arian cyhoeddus? (WAQ54335)

Alun Ffred Jones: Lansiwyd y wefan ar 15 Mai. Cafwyd problemau technegol sylweddol yn ystod yr wythnos gyntaf, ond sefydlogwyd y wefan erbyn 22 Mai, ac ers hynny mae wedi bod ar gael i ddefnyddwyr ar y rhan fwyaf o systemau.

Caiff y gwasanaeth newyddion ei ddiweddaru’n rheolaidd a chafwyd sylwadau cadarnhaol gan ddefnyddwyr. Un o’r targedau gwreiddiol a nodwyd yn y contract oedd y byddai o leiaf 10 stori newydd a phenawdau newyddion cenedlaethol a rhyngwladol yn ymddangos ar y wefan bob diwrnod. Mae Golwg360 wedi llwyddo i ragori ar y targed hwnnw yn rheolaidd ers i’r gwasanaeth ddechrau. Dyma’r unig wefan Gymraeg sy’n rhoi sylw i newyddion rhyngwladol yn rheolaidd. Mae hefyd wedi llwyddo i roi gwybodaeth nas darparwyd gan unrhyw wefan Gymraeg arall; er enghraifft, hi oedd y wefan gyntaf i ddarparu canlyniadau llawn Etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu’r polisi o ymrwymo £200k o arian cyhoeddus i wefan newyddion Iaith Gymraeg? (WAQ54337)

Alun Ffred Jones: Dyfarnwyd y grant ar gyfer y wefan i Golwg Newydd am dair blynedd, 2008/9-2010/11, yn dibynnu ar y gweithdrefnau monitro arferol. Mae’r contract rhwng Golwg Newydd a Chyngor Llyfrau Cymru yn nodi y cynhelir adolygiad ffurfiol llawn o’r prosiect yn haf 2010, o fewn blwyddyn i’r gwasanaeth fynd ar-lein.