17/07/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2009 i’w hateb ar 17 Gorffennaf 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn (FTE) y flwyddyn a fynychodd golegau AB a sefydliadau AB ymhob blwyddyn rhwng 1997/98 a 2007/08, gan roi rhagamcan ar gyfer 2008/09 a’r cwantwm cyffredinol ar gyfer pob blwyddyn. (WAQ54539)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw’r cyllid ar gyfer pob myfyriwr cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy’n mynychu colegau addysg bellach (AB) a sefydliadau AB yng Nghymru ymhob blwyddyn rhwng 1997/98 a 2007/08 (a rhagamcan ar gyfer 2008/09.) (WAQ54540)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog (a) esbonio sut y cyfrifir myfyriwr cyfwerth ag amser llawn, (b) a yw dysgwr amser llawn gyfwerth â 450 o oriau dysgu dan arweiniad y flwyddyn neu a ddefnyddir rhyw ddull arall, ac (c) nodi faint sy’n cael ei gynnwys yn y cwantwm a ddefnyddir yn y diffiniad. (WAQ54541)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog nodi’n union pryd y daeth y 22 Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn gwbl weithredol. (WAQ54544)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd fydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r argymhellion yng nghyswllt goroesi canser a gyflwynwyd iddi gan y Grŵp Cydlynu Gwasanaethau Canser ym Mawrth 2009 (WAQ54542)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhellion yng nghyswllt goroesi canser a gyflwynwyd iddi gan y Grŵp Cydlynu Gwasanaethau Canser ym Mawrth 2009 (WAQ54543)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol a gafwyd yng Nghymru ymhob blwyddyn er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ardal BILl yn ogystal â phroffil oedran o’r rhai a fu farw. (WAQ54545)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys gyda chyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ardal BILl. (WAQ54546)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ag anafiadau o ganlyniad i drais domestig ymhob blwyddyn er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ardal BILl. (WAQ54547)

Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r defnydd o rifau ffôn 0844 / 0845 gan bractisau meddygon teulu. (WAQ54548)