17/07/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2013 i’w hateb ar 17 Gorffennaf 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario ar hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru yn Lloegr yn ystod y 12 mis diwethaf? (WAQ65114)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Treftadaeth? (WAQ65115)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i'r Gweinidog gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon?  (WAQ65116)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi datganiad am y targed 20 mlynedd o fewn Dringo’n Uwch i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol 1% y flwyddyn? (WAQ65117)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu adeiladu ar lwyddiant diweddar Prydain yn Wimbledon a mesurau i annog cyfranogiad mewn clybiau tenis ar lawr gwlad ledled Cymru? (WAQ65118)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dathlu llwyddiant chwaraewyr Cymru yng ngharfan Llewod Prydain ac Iwerddon a pha gamau sy'n cael eu cymryd i annog mwy o gyfranogiad mewn rygbi ar lawr gwlad? (WAQ65119)

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar y rhai sy'n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig? (WAQ65123)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae tlodi gwledig yn cael ei ystyried wrth gynllunio ymyriadau polisi? (WAQ65124)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith sy'n cael ei wneud gan ei adran ar fireinio'r mynegai amddifadedd lluosog? (WAQ65125)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ai bwriad y Gweinidog yw cael gwared ar fynediad at wasanaethau fel dangosydd yn y mynegai amddifadedd lluosog? (WAQ65126)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r dyraniadau i sefydliadau yn dilyn ei adolygiad o wasanaethau gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor? (WAQ65127)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am yr holl wariant mewn perthynas â chyflawni gweithdai diwydiant teithio? (WAQ65120)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd datblygu brand twristiaeth newydd a dyluniadau a logos cysylltiedig yn digwydd yn fewnol neu a fydd ar gontract allanol? (WAQ65121)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam y mae gwefan newydd Croeso Cymru yn rhoi gwybodaeth am bêl-droed yn Abertawe yn unig a heb gyfeiriad at glybiau pêl-droed eraill yng Nghymru? (WAQ65122)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gynllun Cyflymu Cymru a chadarnhau'r symiau sy'n cael eu cyfrannu gan (a) Llywodraeth Cymru, (b) Broadband Delivery UK ac (c) Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i sicrhau bod band eang cyflymder uchel yn cael ei ddatblygu yng Nghymru? (WAQ65128)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y blaenoriaethau Haen 1 diweddaraf a bennwyd ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru a sut y mae hynny'n cymharu â'r blaenoriaethau blaenorol? (WAQ65129)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd y Gronfa Technolegau Iechyd yn cwmpasu cost polisïau cyllido Byrddau Iechyd am gyffuriau nad ydynt wedi eu hargymell na'u hasesu gan NICE na'r Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan? (WAQ65130)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw ei honiad (a wnaed yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mai 2013) mewn perthynas â chyffuriau amddifad bod yn rhaid i driniaeth sydd ar gael ym mhob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig fod ar gael i gleifion yma yng Nghymru hefyd, yn berthnasol i driniaethau ar gyfer canser metastatig? (WAQ65131)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ64482, a wnaiff y Gweinidog roi costau staff ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol ar gyfer mis Mawrth 2013? (WAQ65132)