17/09/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd i’w hateb ar 17 Medi 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u gwneud i Gyllid a Thollau EM a Llywodraeth y DU am orfodi’r isafswm cyflog. (WAQ52472)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ52334, faint o’r £9.1 miliwn sy’n cael ei roi i bob AALl yng Nghymru a pha ganllawiau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cyhoeddi ynghylch sut y dylid gwario’r arian hwn. (WAQ52459)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ddigwyddiadau lle mae ysgolion wedi rhwystro adwerthwyr lleol rhag gwerthu gwisgoedd ysgol mewn ymdrech i fonopoleiddio eu darparu. (WAQ52460)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn gwneud datganiad am swyddogaeth y Swyddog Iaith Sbaeneg, yr oedd y strategaeth 'Ieithoedd sy’n Cyfrif’ yn sôn am ei benodi. (WAQ52461)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer Cynorthwywyr Ieithoedd Tramor yng Nghyfnod Allwedd 2 ar gyfer pob blwyddyn er 2003. (WAQ52462)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa AALlau yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at gynghorydd ieithoedd tramor. (WAQ52463)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ52341, a oedd unrhyw un o’r swyddogion a fu yn y cyfarfodydd ar 10 Ionawr a 4 Chwefror wedi adrodd yn ôl i’ch adran. (WAQ52469)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o athrawon a hyfforddwyd, a gymhwysodd yn y flwyddyn academaidd 2002/2003, nad ydynt eto wedi cwblhau eu cyfnod cynefino statudol. (WAQ52470)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y llwybr a gynigir ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo. (WAQ52456)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sail a ddefnyddiwyd dros ddewis y llwybr a ffefrir. (WAQ52457)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd yng nghyswllt ffordd osgoi Llandeilo. (WAQ52458)

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Cymorth Dewisol Rhanbarthol a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn. (WAQ52464)

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Buddsoddi’r Cynulliad a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn. (WAQ52465)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd caiff y Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni ar gyfer Cymru ei gyhoeddi. (WAQ52449)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o gartrefi fforddiadwy newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn 2007-08 drwy gaffael, adsefydlu a hosteli. (WAQ52450)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o gartrefi fforddiadwy newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn 2007-08 drwy gynlluniau perchnogaeth cartref cost isel. (WAQ52451)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o gartrefi fforddiadwy newydd a ddarparwyd yng Nghymru yn 2007-08 drwy Gymdeithasau Tai pan na ddarparwyd dim grant uniongyrchol, gan ddefnyddio benthyciadau a godwyd yn erbyn stoc a oedd wedi cael cymorth grant. (WAQ52452)

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Amgylchedd Cymru a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn. (WAQ52468)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu mecanwaith apelio arbennig yng Nghymru fel yr argymhellir yn Adolygiad David Jenkins. (WAQ52453)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa strwythur neu grŵp sy’n bodoli i gynghori’r Gweinidog ynghylch rheoli heintiau yng Nghymru. (WAQ52471)

Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Cyfalaf Cyngor Chwaraeon Cymru a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn. (WAQ52466)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion Grantiau Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a ddyfarnwyd yn etholaeth Islwyn er Ebrill 2003, yn ogystal ag enwau a lleoliadau prosiectau sydd wedi cael y Grant hwn. (WAQ52467)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa waith y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i ragweld effeithiau posibilrwydd ffermwyr yn gadael i dir fynd yn segur ar ddarparu ei pholisïau. (WAQ52454)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda swyddogion y Trysorlys ynghylch cyflwyno rhanddirymiad i eithrio cerbydau a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth o’r cynnydd diweddar mewn treth cerbyd. (WAQ52455)