Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Chwefror 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog fanylu a) faint o gyn staff y WDA sydd ym mhwll adleoli Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd; b) at ei gilydd faint o weithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn y pwll adleoli; c) pa mor hir y mae’r aelod o staff sydd wedi aros hwyaf wedi bod yn y pwll adleoli; a d) faint o gyn staff y WDA sydd wedi’u neilltuo i brosiectau arbennig ar hyn o bryd? (WAQ51290)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae 12 cyn aelod o staff Awdurdod Datblygu Cymru yng Nghronfa Swyddi Ganolog Llywodraeth y Cynulliad.
(a) Mae cyfanswm o 47 aelod o staff (yn cynnwys y 12 yma) yn y gronfa.
(b) Mae un aelod o staff, sy’n dychwelyd ar ôl cael seibiant gyrfa ac felly heb fod yn cael cyflog, wedi bod yn y gronfa ers mis Ionawr 2007.
(c) Mae chwe cyn aelod o staff y WDA yn gweithio mewn swyddi cyfyngedig o ran amser ar hyn o bryd. Mae hyd y swyddi hyn yn amrywio rhwng tri mis a dwy flynedd.
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith tollau croesi Afon Hafren ar economi Cymru? (WAQ51256)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid wyf wedi comisiynu asesiad ffurfiol o effaith tollau Pontydd Hafren ar economi Cymru.
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o ymweliadau swyddogol â gwledydd tramor a gafodd y Gweinidog dros y chwe mis diwethaf? (WAQ51272)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Yr wyf wedi ymweld â gwledydd tramor yn swyddogol dair gwaith dros y chwe mis diwethaf.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ag Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ynghylch ffi cofrestru Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru? (WAQ51305)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau ag Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ar ffi gofrestru Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw’r cyfrifiad diweddaraf o gost y diffyg yng nghyllid cynllun pensiwn y WDA i Lywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ51291)
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Amcangyfrifwyd bod cost dybiannol gwasanaethau a roddwyd o ran cyn staff Awdurdod Datblygu Cymru yn £38 miliwn yn seiliedig ar werthusiad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2004. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn talu cost y diffyg tybiannol hwn drwy gyfraniadau cyflogwyr sy’n 17.7 y cant o dâl pensiynadwy aelodau’r cynllun ar hyn o bryd. Mae actiwarïaid y cynllun yn asesu diffyg o ran y gwasanaeth a roddwyd ar hyn o bryd yn ogystal â’r gyfradd cyfraniad cyflogwr gysylltiedig fel rhan o brisiad cronfa 2007 a disgwylir i’r gwaith ddod i ben cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o gleifion o Loegr gafodd eu trin mewn ysbytai yng Nghymru yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad blynyddol o’r ffigur hwn dros yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51238)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae’r wybodaeth hon ar gael ar wefan Atebion Iechyd Cymru—Gwybodaeth ac Ystadegau Iechyd Cymru
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-home.cfm?orgid=527, yn yr adran Data Ysbytai a’r adran Ffigurau Pennawd ar-lein.
Mae hyn yn dangos trigolion y tu allan i Gymru a gafodd eu trin yn ymddiriedolaethau Cymru (episodau gorffenedig o dan ofal meddyg ymgynghorol) ac mae’r wybodaeth ar gael am sawl blwyddyn hyd at 2005-06. Disgwylir i’r data ar gyfer 2006-07 gael ei ddiweddaru’n fuan.
Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o glinigau neu feddygfeydd meddygon teulu a adeiladwyd yn Islwyn er 1999? (WAQ51248)
Edwina Hart: Mae 11 o bractisiau meddyg teulu yn Islwyn. Mae’r meddygfeydd yng Nghrymlyn, Pontllanffraith ac Oakdale wedi cael adeiladau newydd ers 1998-99. Mae meddygfa Rhisga a Chanolfan Feddygol Well Spring hefyd wedi cael estyniadau mawr i roi mwy o le ac i wella gwasanaethau i gleifion.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sawl deintydd sy’n gweithredu yng Nghymru sy’n trin cleifion y GIG fel unrhyw gyfran o’u gwaith? (WAQ51298)
Edwina Hart: Ym mis Mawrth 2007, cofnodwyd bod 1,186 o ddeintyddion yn darparu triniaeth y GIG.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae GIG Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud am nifer y cleifion sydd heb ddeintydd y GIG? (WAQ51299)
Edwina Hart: Y byrddau iechyd lleol (BILlau) sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau deintyddol y GIG i ddiwallu’r angen lleol ac agenda ehangach iechyd y geg. Fel rhan o’r broses gomisiynu bydd BILlau yn ystyried eu cynlluniau gweithredu iechyd y geg lleol a ddylai gynnwys asesiad o anghenion mynediad.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen frechu BCG i blant mewn ardaloedd gwledig? (WAQ51304)
Edwina Hart: Mae’r rhaglen imiwneiddio BCG bellach yn rhaglen yn seiliedig ar risg, sy’n canolbwyntio ar y bobl hynny sydd fwyaf tebygol o gael twbercwlosis. Gwnaethpwyd y newidiadau i bolisi imiwneiddio BCG yn 2005 ar ôl i’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—y grŵp arbenigol annibynnol sy’n cynghori pob un o bedair adran iechyd y DU—ystyried yr epidemioleg presennol o TB yn y DU.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog egluro os cynrychiolir arbenigwr lles anifeiliaid fel rhan o gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol ei hadran? (WAQ51295)
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Caiff cynghorwyr lles anifeiliaid eu cynrychioli ar Grŵp Llywio Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Maent yn rhoi cyngor ar faterion polisi ac yn rhoi arweiniad i mi o ran lles anifeiliaid, er nad ydynt yn gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, caiff cadeirydd y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ei benodi drwy’r broses penodiadau cyhoeddus.
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog restru holl gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol ei hadran sy’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid? (WAQ51296)
Elin Jones: Nid oes cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, fodd bynnag, sefydlwyd Grŵp Llywio y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ym mis Mehefin 2004 i ddatblygu’r broses o weithredu’r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Nghymru ac i helpu i ddatblygu a monitro cynnydd yn erbyn cynllun gweithredu blynyddol Cymru.