Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2010 i’w hateb ar 19 Chwefror 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Prif Weinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55650)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55649)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55646)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ55505, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o'r dyddiadau pan gafodd gyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU i drafod, 'Mynd am Dwf, Ein Ffyniant at y Dyfodol' yn ystod y 12 mis diwethaf a dyddiad y cyfarfod nesaf. (WAQ55642)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55647)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55648)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran cynnal dadansoddiad lleol o anghenion yng nghyswllt gweithredu cartrefi nyrsio di-elw. (WAQ55657)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o lawdriniaethau a oedd i fod i gael eu gwneud yn Ysbyty Bronglais a gafodd eu canslo yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2009 a mis Ionawr 2010, a beth oedd y rhesymau dros eu canslo. (WAQ55643)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o apwyntiadau a drefnwyd ar gyfer mân driniaethau a phrofion yn Ysbyty Bronglais a gafodd eu canslo yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2009 a mis Ionawr 2010, a beth oedd y rhesymau dros eu canslo. (WAQ55644)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55652)
Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu diffibrilwyr yng Nghanol De Cymru. (WAQ55654)
Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y materion sy'n ymwneud â pherfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. (WAQ55655)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55651)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa strwythurau y mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau cyswllt a llwybr effeithiol rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ac ymuno â chlybiau chwaraeon lleol. (WAQ55658)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55653)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio at gynyddu cyfran y llaeth o Gymru a ddefnyddir ar gyfer cynnyrch gwerth ychwanegol. (WAQ55656)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhortffolio'r Gweinidog sydd wedi cwblhau eu gwaith o fewn yr amserlen ofynnol. (WAQ55645)