19/02/2016 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2016

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2016 i'w hateb ar 19 Chwefror 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau na fydd unrhyw symudiadau traffig sy'n gysylltiedig â'r ffermydd gwynt Tirgwynt a Garreg Llwyd yn digwydd ar hyd y llwybrau arfaethedig yn ystod mis Awst? (WAQ69812)

Derbyniwyd ateb ar 19 Chwefror 2016

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): My officials are currently awaiting some key information from the developers and their hauliers. When this has been received, my officials will be able to make recommendations to me about the delivery programme, taking into consideration safety, traffic flows and the time of year.