19/03/2015 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/03/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2015 i'w hateb ar 19 Mawrth 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi'u cael gydag adran llywodraeth leol Llywodraeth y DU ynghylch asedau o werth cymunedol? (WAQ68484)

Derbyniwyd ateb ar 19 Mawrth 2015

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford):
Discussion has taken place with the UK Department for Communities and Local Government to gain insight into the impact in England of the Assets of Community Value Measure contained in the Localism Act 2011.

Dialogue will continue as appropriate in developing a distinct Welsh approach as referenced in my Written Statement dated the 14th of October 2014.

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu sefyllfa bresennol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag asedau o werth cymunedol a'r hawl gymunedol i wneud cais, ac a yw'r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno cynllun tebyg yma yng Nghymru? (WAQ68485)

Derbyniwyd ateb ar 17 Mawrth 2015

Y Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (Lesley Griffiths): I have previously issued a Written Statement on 12 October 2014 which demonstrated the need to develop an alternative approach to Assets of Community Value in Wales. I intend to make a further Written Statement before Easter 2015 to outline the next steps we will be taking.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd Roaccutane ar bresgripsiwn yng Nghymru? (WAQ68483)

Derbyniwyd ateb ar 17 Mawrth 2015

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford):  Roaccutane can only be prescribed for the treatment of severe forms of acne by, or under the supervision of, a consultant dermatologist. The physician is expected to follow appropriate clinical guidelines when prescribing Roaccutane, such as those published by the British Association of Dermatologists.