19/05/2009 - Atebion a roddwyd gan Aelodau ar 19 Mai 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Mai 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa? (WAQ54114)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae rhoi caniatâd i Orsafoedd Pŵer dros 50MW, a fyddai'n cwmpasu atomfeydd newydd, yn fater a gadwyd yn ôl ar gyfer Llywodraeth y DU. O fis Ebrill 2010 bydd hwn yn fater i'r Comisiwn Cynllunio Annibynnol.  

Fodd bynnag, byddai gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rôl yn ymwneud â chaniatadau penodol a fyddai'n ofynnol gan weithredwyr niwclear yng Nghymru, megis trosolwg cyffredinol o Asiantaeth yr Amgylchedd (sy'n rheoleiddio'r broses o waredu gwastraff ymbelydrol a'i drosglwyddo oddi ar y safle) a rôl apeliadol a phwerau 'galw i mewn' yn ymwneud â phenderfyniadau trwyddedu gwastraff ymbelydrol a wneir gan yr Asiantaeth yng Nghymru.

Mae system gadarn a manwl gywir ar waith ar gyfer cymeradwyo gwaith adeiladu niwclear newydd yng Nghymru a Lloegr y byddai'n rhaid i unrhyw ddatblygwyr ei dilyn. Byddai'n rhaid i unrhyw ymgeisydd sydd am adeiladu atomfa newydd yng Nghymru gyflwyno'r manylion llawn i ni. Byddem yn cyflwyno ein sylwadau i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) neu i'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC), yn seiliedig ar gyngor a gafwyd gan yr holl gyrff statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r amgylchedd a thrafnidiaeth yn y ffordd arferol, a chan ystyried ein polisi ynni.

Byddwn yn disgwyl i ni fod â diddordeb arbennig yn agweddau diogelu iechyd, rheoli gwastraff ymbelydrol/gweddillion tanwydd a diogelwch ar y safle ar unrhyw ddatblygiad yng Nghymru neu'n agos ati.

Pryderon diogelwch ac amgylcheddol o’r fath yw'r prif ffocws wrth ddelio â phrosiectau niwclear. Câi'r rhain eu hystyried ochr yn ochr â'r potensial i greu swyddi newydd sy'n deillio o adeiladu a rhedeg atomfeydd newydd. Byddem bob amser yn ceisio sicrhau'r manteision cymdeithasol ac economaidd mwyaf posibl o unrhyw orsafoedd pŵer o'r fath a adeiledir yng Nghymru.  

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chyngor Caerdydd ynghylch y cynigion i adeiladu ffordd gyswllt Ddwyreiniol y Bae? (WAQ 54137)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Rwyf wedi cyfarfod â Chyngor Caerdydd i drafod eu cynigion trafnidiaeth gan gynnwys Ffordd Cyswllt Dwyreiniol y Bae.  Bydd angen i'r Cyngor roi ei gynigion i flaenoriaethu'r cynllun o fewn Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol SEWTA, a chaiff y fersiwn terfynnol ei gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddarach eleni.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Irene James (Islwyn): A fydd gan yr ysbyty newydd yng Nghaerffili wasanaethau golchi dillad ar gyfer gwisgoedd y staff? (WAQ54178)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Caiff cyfleuster golchi dillad canolog ar gyfer glanhau gwisgoedd ei ddarparu yn Llanfrechfa Grange, a bydd cyfleuster Newid Canolog yn Ysbyty Ystrad Fawr lle y caiff gwisgoedd glân eu dosbarthu'n ddyddiol.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa wybodaeth y mae pob sefydliad GIG wedi’i chyflwyno yn ei ffurflen ystadau o ran y ffigur net y mae’n disgwyl ei dderbyn drwy waredu tir ac eiddo yn 2007-08? (WAQ54180)

Edwina Hart: Nodir y wybodaeth y gofynnwyd amdani isod:

Atebion a roddwyd gan Aelodau ar 19 Mai 2009

Ymddiriedolaeth GIG / BILl

Derbyniadau Amcangyfrifedig (£)

Derbyniadau Gwirioneddol (£)

Bro Morgannwg

4,571,000

4,456,000

Caerdydd a'r Fro

Dim

Dim

Sir Gaerfyrddin

Dim

Dim

Ceredigion a Chanolbarth Cymru

Dim

Dim

Conwy a Sir Ddinbych

Dim

Dim

Gofal Iechyd Gwent

1,796,000

1,796,000

Gogledd-ddwyrain Cymru

915,000

740,000

Gogledd Morgannwg

2,850,000

3,305,000

Gogledd-orllewin Cymru

1,050129

1,090,629

Sir Benfro a Derwen

150,000

175,000

Pont-y-pridd a'r Rhondda

711,000

364,950

Abertawe

120,000

121,000

BILl Powys

300,000

Dim

Felindre

Dim

Dim

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dim

Dim

Cyfanswm y Derbyniadau ar 31 Mawrth 2008

 

12,048,579

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o dir y mae pob sefydliad GIG wedi’i nodi yn ei ffurflen ystadau y bydd yn disgwyl a fydd ar gael ar gyfer ei waredu yn 08/09, 09/10 a 10/11? (WAQ54181)

Edwina Hart: Mae fy swyddogion yn cynnal adolygiad parhaus o'r gwarediadau posibl o dir, gan ystyried y Rhaglen Gyfalaf sy'n datblygu, y farchnad gyfredol, yr angen am dai fforddiadwy ac, wrth gwrs, fy mhroses o ad-drefnu'r GIG yng Nghymru.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o driniaethau IVF sydd wedi cael eu cynnal ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf, ac o’r triniaethau hynny, faint a oedd yn llwyddiannus ym mhob blwyddyn? (WAQ54186)

Edwina Hart: Mae gan Gomisiwn Iechyd Cymru, y corff comisiynu ar gyfer triniaeth IVF, y data hwn o 2007, ac fe'i nodir yn y tabl isod.

Atebion a roddwyd gan Aelodau ar 19 Mai 2009

Blwyddyn

Cyfanswm y Triniaethau a gomisiynwyd

Nifer y triniaethau llwyddiannus

Nifer y triniaethau lle mae data ar goll

Nifer y triniaethau lle mae canlyniadau yn yr arfaeth

2007/8

522

128

157

dd/g

2008/9

468

178

dd/g

50

Mae gwelliant wedi bod yn y cyfraddau llwyddiant wrth i dechnegau wella ac wrth i Gomisiwn Iechyd Cymru barhau i weithio gyda darparwyr IVF i wella'r canlyniadau i gleifion ymhellach.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i roi i’r diwydiant ffilm yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54124)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae'r gefnogaeth a ddarparwyd o Setliad Cymorth Grant Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) a chymorth ariannol uniongyrchol Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i ddiwydiant ffilm Cymru fel a ganlyn:

Atebion a roddwyd gan Aelodau ar 19 Mai 2009

Blwyddyn

Cymorth LlCC drwy Cymorth Grant CCC

Cymorth Uniongyrchol LlCC

Cyfanswm

1999 - 2000

£255,390

£0

£255,390

2000 - 2001

£251,480

£0

£251,480

2001 - 2002

£259,020

£0

£259,020

2002 - 2003

£300,071

£0

£300,071

2003 - 2004

£306,782

£0

£306,782

2004 - 2005

£314,754

£0

£314,754

2005 - 2006

£157,302

£476,750

£634,052

2006 - 2007

£164,604

£1,169,350

£1,333,954

2007 - 2008

£168,719

£2,419,092

£2,587,811

2008 - 2009

£172,889

£1,409,743

£1,582,632

Nid oes gwybodaeth am gymorth a ddarparwyd gan Sgrin ac a reolwyd gan gyn Awdurdod Datblygu Cymru ar gael ar hyn o bryd. Bydd swyddogion yn darparu'r wybodaeth hon cyn gynted â phosibl.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cael â chyrff chwaraeon mawr dros y 12 mis diwethaf ynghylch cynnal digwyddiadau yng Nghymru? (WAQ54130)

Alun Ffred Jones: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn trafod yn rheolaidd â llawer o gyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol Cymru a’r DU/Prydain Fawr a rhanddeiliaid eraill mewn ymgais i ddenu digwyddiadau chwaraeon blaenllaw i Gymru.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae swyddogion wedi cynnal cyfres o chwe gweithdy i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam, Bangor ac Aberystwyth fel rhan o'r broses o ddatblygu strategaeth i ddenu digwyddiadau blaenllaw i Gymru. Cynrychiolwyd nifer o gyrff llywodraethu chwaraeon yn y gweithdai hyn.

Rydym wedi ymgysylltu â Chyrff Llywodraethu chwaraeon Cymru drwy eu fforwm Prif Swyddogion Gweithredol i drafod strategaeth i ddenu digwyddiadau blaenllaw i Gymru a chyfleoedd posibl i Gymru gynnal digwyddiadau wrth i Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 agosáu.

Cynhaliwyd cyfarfodydd ychwanegol yn rheolaidd gydag Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyda rhanddeiliaid allanol megis UK Sport.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cyfanswm nifer y lleoedd a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer sipsiwn-teithwyr ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod lleol? (WAQ 54150)

Brian Gibbons: Ailgyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Cyfrifiad Carafannau eilflwydd ym mis Gorffennaf 2006 o ganlyniad i adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, "Adolygiad o'r Gwasanaethau a Ddarperir i Sipsiwn a Chrwydriaid", yn 2003 ac yn fwy diweddar, adroddiad Pat Niner ar "Anghenion Llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru" (2006). Cyn hyn, cynhaliwyd yr arolwg cyfrifo Sipsiwn a Theithwyr diwethaf ym mis Ionawr 1997.

Dangosir y ffigurau diweddaraf yn y tabl isod.

Atebion a roddwyd gan Aelodau ar 19 Mai 2009
 

2006 Gorffennaf

2007 Gorffennaf

2008

Gorffennaf

2009 Ionawr

Blaenau Gwent

29

24

20

 

Pen-y-bont ar Ogwr

   

0

 

Caerffili

0

0

0

 

Caerdydd

76

76

76

 

Sir Gaerfyrddin

30

30

30

 

Ceredigion

0

0

0

 

Conwy

0

0

0

 

Sir Ddinbych

0

0

0

 

Sir y Fflint

20

20

20

 

Gwynedd

8

8

8

 

Merthyr Tudful

24

12

   

Sir Fynwy

 

0

0

 

Castell-nedd Port Talbot

56

56

56

 

Casnewydd

0

0

0

 

Sir Benfro

79

80

77

 

Powys

11

11

12

 

Rhondda Cynon Taf

5

5

   

Abertawe

7

7

7

 

Tor-faen

0

28

27

 

Bro Morgannwg

   

0

 

Wrecsam

 

19

17

 

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o eiddo sy’n berchen i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad, neu’n cael ei lesio ganddynt, sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd? (WAQ 54151)

Brian Gibbons: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi pwys mawr ar chwalu'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl, drwy wneud ei gwasanaethau'n hollol hygyrch iddynt a thrwy reoli a recriwtio staff.  Ers cwblhau archwiliad ar fynediad i bobl anabl yn 2002 a oedd yn cwmpasu ystad weinyddol gyfan Llywodraeth Cynulliad Cymru, aed i'r afael â rhaglen sylweddol o waith gwella mewn perthynas â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ac o ganlyniad mae lefelau cydymffurfio'r ystad weinyddol dros 98%, gyda gweddill y swyddfeydd wedi'u clustnodi i'w gwaredu neu eu hadolygu ymhellach.

Mae archwiliad Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd newydd ar gyfer yr ystad gyfan hefyd wedi'i gomisiynu ar gyfer 2009/10 gyda'r nod o sicrhau'r mynediad gorau posibl i bobl anabl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn ymrwymedig i sicrhau'r safonau uchaf o ran mynediad wrth ddatblygu’r swyddfeydd newydd yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno. Mae cynghorwyr proffesiynol annibynnol wedi'u penodi i roi cyngor ar yr holl faterion sy'n ymwneud â mynediad yn y broses ddylunio.

Ni chedwir gwybodaeth yn ganolog ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.