20/11/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Tachwedd 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Tachwedd 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal astudiaeth ar effaith tollau ar Bont Hafren ar ddatblygiad economaidd Cymru? (WAQ50657)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynlluniau i gynnal asesiad economaidd o effaith y tollau ar Bont Hafren.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd y cynlluniau consesiynau bws yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael eu cytgordio erbyn Ebrill 2008 er mwyn gallu defnyddio’r tocynnau consesiwn bws a gyhoeddir yng Nghymru ar fysiau yn Lloegr a’r Alban hefyd? (WAQ50663)

Ieuan Wyn Jones: Ni fydd y cynllun teithio rhatach yn Lloegr yn cychwyn tan fis Ebrill 2008 a bydd angen amser iddo ymsefydlu. Deallaf hefyd y bydd Gweithrediaeth yr Alban yn cynnal adolygiad o’r cynllun teithio rhatach a gaiff ei weithredu yn yr Alban ac y gallai hyn arwain at newidiadau yno. Bydd angen i hyn ddigwydd yn gyntaf cyn y gallwn gynnal trafodaethau ar gynllun ar gyfer y DU gyfan.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynnydd a wnaethpwyd ar Raglen Adfywio’r Barri a’r Cyffiniau yn dilyn y cyflwyniad diweddar yn y Cynulliad Cenedlaethol? (WAQ50673)

Ieuan Wyn Jones: Fel y nodwyd yn y cyflwyniad Balchder yn y Barri, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ar Gynllun Gweithredu 5 mlynedd. Disgwylir y bydd y cynllun gweithredu ar gael ar ffurf ddrafft ym mis Rhagfyr 2007. Bydd y cynllun yn amlinellu’r blaenoriaethau y cytunir arnynt ar y cyd ar gyfer yr ardal a hefyd yn cyflwyno rhaglen ddangosol o’r gweithgareddau adfywio allweddol sy’n ofynnol i gyflawni’r canlyniadau cytûn. Bydd y cynllun gweithredu hefyd yn nodi’r cyfleoedd ariannu posibl a fydd ar gael.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Ble mae Rhaglen Adfywio’r Barri a’r Cyffiniau yn ffitio yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad? (WAQ50674)

Ieuan Wyn Jones: Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi’r gofynion ariannu ar gyfer Llywodraeth ehangach y Cynulliad a gweithgareddau Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Bydd y Cynllun Gweithredu 5 mlynedd ar gyfer Adfywio Ardal y Barri Fwyaf yn llywio’r broses honno. Bydd y cylch cynllunio busnes manwl ar gyfer y cyfnod 2008/09 yn cychwyn cyn bo hir.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn rhestru’r cronfeydd y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u hymrwymo i gam nesaf Prosiect Adfywio’r Barri a’r Cyffiniau? (WAQ50675)

Ieuan Wyn Jones: Bydd y cynllun gweithredu y cyfeiriais ato’n flaenorol yn WAQ50673 a WAQ50674 yn nodi’r cyfleoedd ariannu posibl a fydd ar gael. Rydym yn gweithio’n galed iawn i fanteisio ar y buddiannau adfywio yn yr ardal drwy sicrhau llawer mwy o fuddsoddiad o du’r sector preifat. Bydd y cyfraniadau ariannu, wrth gwrs, yn amodol ar yr ystyriaethau arferol o resymeg gref dros fuddsoddi, addasrwydd strategol clir a sicrhau canlyniadau clir a manteisiol. Bydd angen i’r arian ar gyfer y Barri gael ei gydbwyso hefyd yn erbyn y gyllideb gyffredinol a fydd ar gael i ni dros y blynyddoedd nesaf a bydd angen ei ystyried yn ofalus yng nghyd-destun anghenion ariannu prosiectau a blaenoriaethau eraill yn y Rhanbarth.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa amserlen sy’n bodoli ar gyfer cwblhau Prosiect Adfywio’r Barri a’r Cyffiniau? (WAQ50676)

Ieuan Wyn Jones: Mae Bwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri wedi cytuno ar raglen i gyflawni’r weledigaeth a amlinellir yn strategaeth URBED "Building A Brighter Barry" (Mawrth 2006), sy’n nodi gweledigaeth 15 mlynedd ar gyfer ardal y rhaglen. Mae nifer o Brosiectau Disglair wedi cael eu nodi a chaiff y rhain eu cynnwys mewn cynllun gweithredu treigl 5 mlynedd a gaiff ei lunio gan fy swyddogion mewn cydweithrediad â’r awdurdod lleol i fynd i’r afael â materion adfywio allweddon yn ardal y Barri Fwyaf.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o gyllid y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’i gael o werthu tir sy’n galluogi rhagor o ddatblygu ar lan y dŵr yn y Barri? (WAQ50677)

Ieuan Wyn Jones: Mae Awdurdod Datblygu Cymru/fy Adran wedi cael tua £14.5 miliwn o werthu tir mewn cysylltiad â Glannau’r Barri rhwng 1994 a heddiw. Daeth yr elw hwn o ganlyniad i fuddsoddiad Cyd-fenter y Barri o dros £48 miliwn yn ystod y cyfnod hwn.

Gan mai trafodiad sector preifat rhwng Associated British Ports a’r consortiwm tai, sy’n cynnwys Barratt Homes, Taylor Wimpey a Persimmon Homes, yw’r broses o werthu cam II tir y Glannau, ni allaf ddatgelu ffigur y gwerthiant am resymau cyfrinachedd masnachol.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gyfran o gronfeydd bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei chael o werthu tir o gam nesaf datblygu glan y dŵr yn y Barri? (WAQ50678)

Ieuan Wyn Jones: Cyfeiriwch at fy ateb i WAQ50677 os gwelwch yn dda. Mae gwerthiant y tir yn rhan o gyd-fenter rhwng Associated British Ports a Llywodraeth y Cynulliad. Bydd cyfraniad Llywodraeth y Cynulliad yn sgîl gwerthu’r tir yn seiliedig ar gymhareb gytûn a gaiff ei chynnwys yng nghytundeb y gyd-fenter.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Fagloriaeth Cymru? (WAQ50685)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei gyflwyno mewn dysgu ôl-16 o fis Medi 2007 ymlaen. Bellach mae 76 o ganolfannau wedi cael eu cymeradwyo i gyflwyno rhaglenni Bagloriaeth Cymru ar lefelau Uwch a Chanolradd mewn darpariaeth ôl-16, gan gynnwys dau ddarparydd hyfforddiant yn y gwaith am y tro cyntaf. Bellach mae’r Cymhwyster ar gael ym mhob ardal Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru. Mae 9,000 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru mewn canolfannau cyflwyno bellach.

Cyflwynwyd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru lefel Sylfaen 14-19 mewn 18 o ysgolion a cholegau Addysg Bellach peilot ym mis Medi 2006 hefyd.  Mae’r model Canolradd 14-16 hefyd yn cael ei dreialu. Ar gyfer y flwyddyn academaidd hon mae hyn wedi cael ei ymestyn i 16 o ysgolion a cholegau eraill.

Gwahoddwyd ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant bellach i fynegi eu diddordeb mewn cyflwyno Bagloriaeth Cymru o 2208/09. Rydym yn disgwyl ymateb cadarnhaol, a fydd yn ein galluogi i adeiladu ar y broses gyflwyno lwyddiannus hyd yn hyn ac i’n symud yn nes at ein targed sef y bydd o leiaf 25% o ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru yn dilyn cyrsiau Bagloriaeth Cymru erbyn 2010.

Yn olaf, rydym yn cydweithio â phartneriaid gyda’r bwriad o sicrhau y bydd elfennau Prif Ddysgu a Phrosiect y Diplomâu 14-19, a arweinir gan gyflogwyr ac sy’n cael eu datblygu yn Lloegr, ar gael o fewn fframwaith Bagloriaeth Cymru Ein nod yw sicrhau y bydd y pum maes dysgu cyntaf (Peirianneg Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig; TG; Creadigol a’r Cyfryngau; Cymdeithas, Iechyd a Datblygiad) ar gael yng Nghymru o 2009. Caiff y meysydd dysgu sy’n weddill eu cyflwyno yn ystod 2010 a 2011.

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw prif lwyddiannau addysg Llywodraeth y Cynulliad yn ardal sir Benfro? (WAQ50686)

Jane Hutt: Mae Sir Benfro yn cael budd o’r broses o roi ein polisïau ar waith mewn Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Rydym yn buddsoddi ar draws pob sector er mwyn darparu’r amgylchedd gorau posibl i annog dysgu yn ystod pob cam o fywydau pobl, gan wneud Cymru’n lle sy’n rhoi’r cyfle i bawb ddysgu a ffynnu. Rhoddir enghreifftiau o rai o’r cyflawniadau hynny sy’n benodol i ardal Sir Benfro isod.

Mae’r Cyfnod Sylfaen wedi bod yn weithredol ym Meithrinfa ac Ysgol Fabanod Mount Airey a Meithrinfa Ddydd Bright Start fel rhan o’r cynllun peilot cychwynnol ac ym mis Medi 2007 ymunodd Ysgol Gynradd Doc Penfro ac Ysgol Feithrin y Tabernacl â’r cynllun peilot fel Ysgol Cychwyn Cynnar.

Mae Sir Benfro wedi bod yn cymryd rhan yn y fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion ers iddi gael ei chyflwyno ym mis Medi 2004. Mae 43 o ysgolion allan o 71 posibl yn cymryd rhan ar hyn o bryd ac mae 2 yn bwriadu ymuno erbyn diwedd tymor yr haf 2007.

Dyfarnwyd grant o £163,673 i Sir Benfro yn 07-08 tuag at ddatblygiad parhaus Ysgolion Bro. Mae’r mentrau allweddol a gefnogir gan y grant yn cynnwys gwella cyfleusterau TG mewn ysgolion gyda sesiynau "blasu" am ddim i’r gymuned, datblygu ethos ysgolion iach, datblygu ardaloedd dysgu awyr agored, a darparu dosbarthiadau Cymraeg i rieni.

Dyrannwyd cyfanswm o £629,686 i Sir Benfro ar gyfer 07-08 tuag at drawsnewid y cyfnod addysgol 14-19 yn yr ardal fel rhan o strategaeth 14-19 Llwybrau Dysgu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru gyfan sy’n canolbwyntio ar ehangu addysg galwedigaethol, datblygu cymorth i ddysgwyr a gwella’r broses o gydweithio rhwng darparwyr dysgu. Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys refeniw o £509,713 a £119,973 o arian cyfalaf.

Dengys yr ystadegau bod rhanbarth Sir Benfro yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran ei pherfformiadau Cyfnod Allweddol. Mae canlyniadau asesiadau athrawon Cyfnod Allweddol 1,2 a 3 oll wedi gwella ers 1999 ac mae’r canlyniadau perfformio yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Y perfformiad ar Gyfnod Allweddol 2 sy’n dangos y gwelliant mwyaf gyda chanran y disgyblion yn cyflawni’r dangosydd pynciau craidd (Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ar y cyd) sy’n gynnydd o 13.8 o bwyntiau canran rhwng 1999 a 2007.

O ran perfformiad TGAU, nid yw’r canlyniadau ar gyfer 2007 ar gael ar hyn o bryd hyd nes caiff yr ystadegau perfformiad terfynol eu cyhoeddi ar 29 Tachwedd. Fodd bynnag, roedd y canlyniadau ar gyfer 2006 yn galonogol. Mae canran y disgyblion sy’n cael o leiaf 5 gradd TGAU A* - C wedi cynyddu bron i 6 pwynt canran rhwng 1999 a 2006. Cynyddodd y Dangosydd Pynciau Craidd (Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ar y cyd) hefyd yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd Sir Benfro £584,698 dros ddwy flynedd am ddysgu yn sgîl yr achosion o gau ffatri Dewhirst. Defnyddiwyd hyn i ariannu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi ychwanegol wedi’u teilwra a oedd ar gael i unigolion a busnesau am ddim. Cyfrannodd yr arian hefyd at sefydlu canolfannau e-ddysgu newydd o’r radd flaenaf yng ngogledd y sir yng Nghrymych ac yn Abergwaun.

Hefyd, mae Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y prosiectau canlynol:

• £453,398 o arian dros ddwy flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2006 er mwyn cefnogi mentrau cydweithredol ôl-16 sydd wedi bod yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn Hwlffordd ac wedi cynnwys cynnig cwricwlwm newydd, sef datblygu a gwneud gwell defnydd o e-ddysgu a gwella mynediad i ddysgwyr dan anfantais;

• £387,000 am addasu hen sgubor garreg mewn Ysgol Gyfun yn Sir Benfro drwy ei hadnewyddu er mwyn datblygu canolfan sgiliau gyfunol a diweddaru cyfleusterau sgiliau adeiladu.

Yn ystod mis Rhagfyr 2006, mae nifer y bobl ifanc a gymeradwyir ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg Llywodraeth y Cynulliad yn Sir Benfro yn 1,230 ac roedd 1,000 (neu 81%) ohonynt yn gymwys i gael yr uchafswm dyfarniad wythnosol o £30.

Mae 320 o fyfyrwyr cymwys wedi cael budd o Grant Dysgu’r Cynulliad yn Sir Benfro yn 2006/07. Mae’r grant hwn yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel wrth gyflawni cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch.

Mae dwy ganolfan (Ysgol y Preseli a Choleg Sir Benfro) wedi cael eu cymeradwyo i gyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Ymunodd y canolfannau hyn â’r cynllun peilot ôl-16 ac maent bellach wedi symud ymlaen at y broses o’i gyflwyno. Maent hefyd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot Sylfaen 14-19 a Chanolradd cyn-16.

Hefyd, mae’r Awdurdod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a pharhaus yn y broses o symleiddio darpariaeth ysgolion, torri’r lleoedd sy’n weddill i un o’r rhai isaf yng Nghymru a gwneud buddsoddiad sylweddol mewn adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau fel rhan o’r rhaglen. Cefnogwyd hyn gan grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Grant Gwella Adeiladau Ysgol o £9m, a ddyrannwyd rhwng 2005-06 i 2007-08, wedi galluogi ariannu dau adeilad/gwaith adnewyddu mawr yn Ysgol y Frenni ac yn Ysgol Iau Pendergast a dau estyniad yn Ysgol y Preseli ac Ysgol Greenhill.

Dyrannwyd fformiwla Grant Gwella Adeiladau Ysgol i Sir Benfro o £1,561,000 ar gyfer 2007-08 i ariannu Ysgol Gynradd Sirol newydd Arbeth. Ers 2002, mae’r awdurdod wedi defnyddio eu fformiwla dyfarniad Grant Gwella Adeiladau Ysgol i ariannu ysgol newydd - Ysgol VC Spittal, a llawer o waith adnewyddu mawr yn ysgol y Preseli/Crymych, Ysgol Iau Pennar, Ysgol Syr Thomas Picton, Ysgol Gyfun Greenhill, Ysgol Bro Gwaun ac Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod. Dyrannwyd £1,250,000 i’r Awdurdod hefyd ar gyfer Canolfan 11-19 oed Ysgol Arbennig Portfield o Grant AAA Rhanbarthol Grant Gwella Adeiladau Ysgol 2007-08.

O dan raglen gyfalaf Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu 3 ysgol gynradd newydd, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Oswolds, Ysgol Bro Dewi (Tyddewi), ac Ysgol Gynradd Gatholig Mary Immaculate am dros £7m. Hefyd, ceir llawer o waith adnewyddu mawr yn Ysgol Gynradd Gatholig St Francis ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru St Mark.

Mae’r awdurdod wedi cael budd hefyd o ysgol Menter Cyllid Preifat newydd, sef Ysgol Gynradd Doc Penfro.

Mae hyn oll wedi helpu Sir Benfro i gyflawni darpariaeth ysgolion fwy cost effeithiol, gan leihau cyfran y lleoedd gwag mewn ysgolion i 9.1% yn gyffredinol, sef y gyfradd isaf ond un yng Nghymru.

Cafodd ugain o ysgolion sy’n gwasanaethu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir Benfro gyllid ychwanegol (£358,117 yn 2006-2007 a £359,752 yn 2007-08) gan y rhaglen Rhagori er mwyn mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a thangyflawni. Rhoddodd y rhaglen Rhagori hefyd £35,745 ychwanegol i’r awdurdod lleol bob blwyddyn i gefnogi addysg plant sy’n derbyn gofal.

Rydym ni, ynghyd â Chyngor Chwaraeon Cymru, a buddsoddiad o £9.5m ar gyfer 2007-08, yn gweithio gyda phob awdurdod lleol er mwyn gwella cyfleoedd ar gyfer Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion a chyflwyno arfer da. Ers i’r fenter ddechrau yn 2002, sefydlwyd chwe Phartneriaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion yn AALl Sir Benfro er mwyn adeiladu ar arfer da presennol ac ehangu ansawdd ac amrywiaeth o ran Addysg Gorfforol a chyfleoedd chwaraeon ar gyfer pobl ifanc yr ardal.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau cleifion gwrywaidd i gael eu trin gan staff clinigol gwrywaidd? (WAQ50679)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Nid oes gan glaf hawl gyfreithiol i gael ei drin gan aelod o staff o’r un rhyw.

Mae gan glaf hawl i wrthod triniaeth, a gallai hyn fod yn seiliedig ar ryw’r gweithiwr iechyd proffesiynol, ond nid yw hyn yn gorfodi’r darparwr gofal iechyd i fodloni dewisiadau’r claf hwnnw pan fo’n afresymol iddo wneud hynny.

Os na fydd y claf yn cydsynio i gael ei drin gan glinigydd o wahanol ryw pan fo dyn arall yn bresennol, dylai gael ei hysbysu o unrhyw effeithiau andwyol y gallai hyn eu cael ar ei iechyd.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr wrolegwyr gwrywaidd sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru? (WAQ50680)

Edwina Hart: Mae gan y GIG yng Nghymru 37 o Wrolegwyr ar Lefel Llwybr Graddfa Uwch, ac mae 35 ohonynt yn ddynion.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Ailsefydlu Cardiaidd i’r holl gleifion addas yng Nghymru? (WAQ50681)

Edwina Hart: Mynd i’r afael ag afiechyd y galon yw un o brif flaenoriaethau iechyd Llywodraeth y Cynulliad a chydnabyddaf fod angen atgyfnerthu’r gwasanaethau yng Nghymru.

Mae adsefydlu cardiaidd yn rhan annatod o’r cynllun ar gyfer trin cleifion sydd â chlefyd coronaidd sefydledig y galon. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu nifer o gynlluniau adsefydlu cardiaidd ledled Cymru drwy’r Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd ac mae gwerthusiad cychwynnol o’r cynlluniau hyn wedi bod yn galonogol. Byddant yn dod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol a bûm yn annog Byrddau Iechyd Lleol i ddysgu’r gwersi ohonynt ac i sicrhau eu bod ar gael ym mhob cwr o Gymru. Bydd y Safonau arfaethedig ar gyfer adsefydlu cardiaidd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol diwygiedig drafft ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon yn sail i’r angen i ehangu yn y modd hwn.

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi datganiad am Ofal lliniarol ar gyfer cleifion nad ydynt yn gleifion canser? (WAQ50687)

Edwina Hart: Darperir gofal lliniarol yng Nghymru ar gyfer pob claf, yn oedolion ac yn blant, p’un a oes ganddynt ganser neu salwch nad yw’n gysylltiedig â chanser.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed? (WAQ50691)

Edwina Hart: Cefais gopi drafft o Gynllun Gweithredu Hepatitis Feirysol a Drosglwyddir yn y Gwaed Cymru a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) ym mis Medi. Gan fod y cynllun yn gwneud sawl argymhelliad eang ar gyfer y GIG yng Nghymru, mewn awdurdodau lleol, carchardai ac yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae fy swyddogion wedi gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol gyflawni mwy o waith cwmpasu ynghylch goblygiadau ariannol y cynllun. Hyd nes y byddwn wedi datrys y goblygiadau, ni allaf roi dyddiad cyhoeddi pendant.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw prif flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer sir Gaerfyrddin? (WAQ50684)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae cytundeb Cymru’n Un yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad am y pedair blynedd nesaf yn glir. Ein huchelgais yw parhau â’r broses o drawsffurfio Cymru yn genedl hunan hyderus, ffyniannus ac iach a chymdeithas sy’n deg i bawb. Mae’r blaenoriaethau hyn yn tanlinellu cynlluniau gwario Llywodraeth y Cynulliad a gyhoeddwyd ar 5 Tachwedd. Caiff gwariant ym mhob un o ranbarthau Cymru eu pennu yn ôl penderfyniadau’r polisi a’r dyraniadau ariannol a wneir gan bob un o’m cyd-Weinidogion. Bydd y rhain yn adlewyrchu nodweddion gwahanol bob ardal.