20/11/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/11/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2015 i'w hateb ar 20 Tachwedd 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Yn dilyn ei benderfyniad i gyhoeddi adroddiadau ar benderfyniadau gweinidogol unwaith eto, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ba ddyddiad y bydd y gwasanaeth hwn yn ailddechrau? (WAQ69433)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Yn dilyn ei benderfyniad i gyhoeddi adroddiadau penderfyniadau gweinidogol unwaith eto, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi yr adroddiadau ar yr holl benderfyniadau a wnaed rhwng y dyddiad y daeth y gwasanaeth i ben ar 28 Medi a'i ailddechrau? (WAQ69343)

Derbyniwyd ateb ar 24 Tachwedd 2015

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones):  The production of Decision Reports has already recommenced and some have already been published.  Reports will be published for the period from 28 September.

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ddynodi mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol? (WAQ69431)

Derbyniwyd ateb ar 20 Tachwedd 2015

Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant):

I have asked Lord Dafydd Elis-Thomas to lead a Future Landscapes Group, involving representatives of the National Parks, Areas of Outstanding Natural Beauty, interest groups, business and local government. This group will consider  the Review of Designated Landscapes in Wales' and make recommendations to me  in  2016.

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd bydd ffermwyr yn derbyn taliadau Glastir ar gyfer 2015 o ystyried mai hon yw ail flwyddyn y cynllun a bod ffermwyr eisoes yn wynebu anawsterau oherwydd newidiadau i'r taliad sengl? (WAQ69432)W

Derbyniwyd ateb ar 20 Tachwedd 2015

Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd (Rebecca Evans): Dechreuwyd talu taliadau rheoli Glastir 2015 ar gyfer ceisiadau sydd wedi'u dilysu ar 9 Tachwedd 2015 a chawsant eu talu i gyfrifon banc ffermwyr ar 13 Tachwedd. Mae ceisiadau'n parhau i gael eu prosesu a byddant yn cael eu talu unwaith y bydd y ceisiadau wedi'u dilysu'n llawn. 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn nodi a wnaed unrhyw gynnydd gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth yr Alban o ran harmoneiddio cynlluniau pasys bws rhatach yng Nghymru, yr Alban a Lloegr ledled y Deyrnas Unedig? (WAQ69433)

Derbyniwyd ateb ar 20 Tachwedd 2015

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): My Officials will be meeting with UK and Scottish Government Officials before Christmas to discuss the potential for cross-border harmonisation of concessionary bus travel. I will provide Members with an update early in the New Year.