21/10/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2008 i’w hateb ar 21 Hydref 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â Phlant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn etholaeth De Clwyd.  (WAQ52615)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yn etholaeth De Clwyd.  (WAQ52613)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r ardaloedd yn y Bari sydd o ddiddordeb i Lywodraeth y Cynulliad, sydd eisoes yn rhan o broses werthu ac eraill nad ydynt. (WAQ52625)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trefniadau apêl yn ymwneud â deddfwriaeth Gwrychoedd neu Berthi Uchel a sut y caiff y canlyniadau hyn eu monitro. (WAQ52608)

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â’r Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn etholaeth De Clwyd.  (WAQ52618)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad sy’n rhoi manylion y cyllid a ddyrannwyd gan holl Adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru i fudiadau lleiafrifoedd ethnig yn 2007/08 a 2008/09. (WAQ52624)

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfrif banc neu fuddsoddiadau mewn unrhyw sefydliadau ariannol penodol, ac os felly, ymhle mae’r arian ac ar ba delerau. (WAQ52626)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn etholaeth De Clwyd.  (52616)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gyllid sydd ar gael yng nghyllideb ddrafft 2009/2010 i gefnogi gweithrediad cynllun gweithredu ASD Llywodraeth Cynulliad Cymru a sut y caiff yr arian hwn ei ddyrannu. (WAQ52620)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd unrhyw arian newydd a ddyrennir i gefnogi gweithrediad cynllun gweithredu ASD Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei neilltuo ac y ceir trywydd archwilio i sicrhau bod asiantaethau lleol yn gallu dangos yn union sut y maent wedi gwario’r arian hwn. (WAQ52621)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried darparu cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer oedolion ag awtistiaeth, ar sail canlyniadau’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer oedolion ag awtistiaeth. (WAQ52622)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd y dyraniad parhaus o £1.7 miliwn (a ddyrannwyd drwy’r Grant Cynnal Refeniw ond nid yw wedi’i neilltuo) o 2007 yn dal ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi plant ag anghenion cymhleth ac awtistiaeth. (WAQ52623)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â Threftadaeth yn etholaeth De Clwyd.  (WAQ52619)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â Chyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn etholaeth De Clwyd.  (WAQ52617)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mike German (Dwyrain De Cymru): Sawl hectar o Safleoedd Coetir Hynafol a Blannwyd ar ystâd Coetir y Cynulliad Cenedlaethol y bwriedir eu torri a’u clirio dros y tair blynedd nesaf, yn unol â’r Cynllun Dylunio Coedwigoedd. (WAQ52604)

Mike German (Dwyrain De Cymru): Sawl hectar o Safleoedd Coetir Hynafol a Blannwyd ar ystâd Coetir y Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi cael eu hailblannu â choed conwydd dros y tair blynedd diwethaf. (WAQ52605)

Mike German (Dwyrain De Cymru): Sawl hectar o Safleoedd Coetir Hynafol a Blannwyd ar ystâd Coetir y Cynulliad Cenedlaethol y bwriedir eu hailblannu â choed conwydd dros y tair blynedd nesaf, yn unol â’r Cynllun Dylunio Coedwigoedd. (WAQ52606)

Mike German (Dwyrain De Cymru): Sawl hectar o Safleoedd Coetir Hynafol a Blannwyd ar ystâd Coetir y Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi cael eu torri a’u clirio dros y tair blynedd diwethaf. (WAQ52607)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl taliad fferm organig sy’n disgwyl i gael eu talu ar hyn o bryd. (WAQ52609)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl taliad Tir Gofal sy’n disgwyl i gael eu talu ar hyn o bryd. (WAQ52610)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl taliad Tir Cynnal sy’n disgwyl i gael eu talu ar hyn o bryd. (WAQ52611)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o le i gamgymeriadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei dderbyn wrth ddarllen tagiau adnabod electronig pan wneir hapwiriadau ar hawliadau am gymhorthdal.  (WAQ52612)

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad i brosiectau’n ymwneud â Materion Gwledig yn etholaeth De Clwyd.  (WAQ52614)