22/01/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 22 Ionawr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 22 Ionawr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ymgynghorwyr allanol a gyflogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 1999, a rhestru faint a wariwyd ar bob un ac at ba ddiben? (WAQ50849)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Ni chaiff gwybodaeth am wariant o ran gwaith ymgynghori allanol ar gontractau ymchwilio, gwerthuso ac ymgynghori sy’n cefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn uniongyrchol ei dal yn ganolog.

Nodir gwybodaeth am wariant o ran gwaith ymgynghori allanol o’r gyllideb weinyddu ganolog ar gyfer bob blwyddyn yn y tabl isod, wedi’i dadansoddi yn ôl y prif benawdau gwariant.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 22 Ionawr 2008

Pob ffigur mewn £m

1999-2000

2000-2001

2001-2002

2002-2003

2003-2004

2004-2005

2005-2006

2006-2007

Gwasanaethau Cyfreithiol

0.3

0.5

0.6

0.7

1.7

0.8

1.0

1.3

Gwasanaethau Cyfrifyddu

0.1

0.1

0.1

0.1

0.1

0.1

0.1

0.6

Penseiri a Chynllunio

0.1

0.2

0.3

0.1

0.1

-

-

-

Ymgynghoriaeth Reoli*

0.6

0.5

0.7

0.3

0.2

0.3

1.0

1.8

Marchnata a Chyhoeddusrwydd

0.6

0.8

0.1

0.4

0.4

0.4

0.1

0.4

Gwasanaethau Ystadegol

0.1

0.2

0.1

0.2

0.2

0.3

0.2

0.2

Astudiaethau Ymchwil

-

-

-

0.1

0.1

0.1

0.1

-

Cyfanswm

1.8

2.3

1.9

1.9

2.8

2.0

2.5

4.3

* Yn cynnwys rhywfaint o ymgynghori o ran TGCh a datblygu busnes.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu grantiau dysgu’r Cynulliad i fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr gan nad yw’r cwrs yn cael ei gynnig gan sefydliad addysg uwch yng Nghymru? (WAQ50867)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Gall pob myfyriwr sy’n hanu o Gymru mewn unrhyw sefydliad addysg uwch yn y DU, gan gynnwys y rhai sy’n astudio pynciau nad ydynt ar gael yng Nghymru, wneud cais am grant dysgu prawf modd y Cynulliad o hyd at £2,835 ar gyfer blwyddyn academaidd 2008-09. Gall y rheini sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru hefyd wneud cais am grant ffioedd dysgu prawf modd o hyd at £1,890. Mae www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk yn rhoi’r holl wybodaeth am yr holl fathau o gymorth ariannol sydd ar gael.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau hyfforddiant i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd? (WAQ50872)

Jane Hutt: Mae’r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith (gan gynnwys y rhaglen adeiladu sgiliau) y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn contractio ar ei chyfer, wedi ei llunio a’i datblygu gyda’r nod i 'enable participants not in employment to acquire skills and work experience as part of a wider drive to raise economic activity rates and help people out of inactivity and poverty’.

Rhoddwyd y dasg o ymateb i flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel codi lefelau gweithgarwch economaidd, i sefydliadau addysg bellach, a’u cyfrifoldeb hwy yw penderfynu ar y ffordd orau o wario arian ar hyfforddiant ac adnoddau eraill i ddiwallu anghenion eu hardal.

Mae ein strategaeth sgiliau a chyflogaeth newydd ('Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’), a gyhoeddwyd yn ddiweddar er mwyn ymgynghori arni, yn nodi cynnig ar gyfer prosiect 'Grisiau Gyrfa Cymru’ a fydd yn integreiddio gwasanaethau cyflogaeth a sgiliau yn well ac yn datblygu pecynnau cymorth unigol mwy hyblyg a chynhwysfawr i bobl y tu allan i’r farchnad lafur. Ar lefel leol, rydym wedi bod yn treialu cyfrifon cymuned sy’n dysgu, sy’n ddulliau archwilio i gefnogi cymunedau i ddatblygu ac ymwneud â gweithgarwch dysgu.

Yr ydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith ar amrywiaeth o raglenni sy’n rhoi cymorth ariannol ac chymorth arall i helpu pobl sy’n economaidd anweithgar—ymhlith yr enghreifftiau mae Llwybrau at Waith, Yn Awyddus i Weithio, y Strategaeth Dinasoedd ac Ardaloedd Cyflogaeth.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y canolbarth? (WAQ50869)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nod polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yw lleihau’r perygl o lifogydd i bobl ac eiddo. I’r diben hwn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu gweithrediadau rheoli’r perygl o lifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae’n rhoi cymorth ariannol i awdurdodau lleol i wella eu hamddiffynfeydd rhag llifogydd. Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol yw’r prif awdurdodau gweithredu o ran rheoli’r perygl o lifogydd ac mae ganddynt y pwerau angenrheidiol i gynnal y gwaith o wella amddiffynfeydd rhag llifogydd ac, yn gyffredinol, cyfrifoldeb y cyrff hyn yw nodi’r angen i ddatblygu neu wella amddiffynfeydd. Mae gan yr asiantaeth ac awdurdodau lleol raglenni cynhwysfawr o gynlluniau gwella ar gyfer 2007-08 ac ar gyfer y dyfodol. Y flwyddyn ariannol hon, yr wyf wedi sicrhau bod £25.960 miliwn ar gael i Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer ymdrin â’r perygl o lifogydd ac wedi sicrhau bod £5.8 miliwn ar gael er mwyn i awdurdodau lleol wneud gwelliannau.

Ar hyn o bryd yng Nghanolbarth Cymru cymeradwywyd arian grant o tua £870,000 i gefnogi cynlluniau lliniaru llifogydd Cyngor Sir Powys. Mae £500,000 arall wedi’i gymeradwyo i gefnogi ymchwiliadau’r cyngor i lifogydd ac astudiaethau manwl ar gynlluniau lliniaru llifogydd posibl.

Mae’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ar 17 Medi 2007 yn disgrifio rhaglen dulliau newydd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd a’r perygl arfordirol yng Nghymru.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau i ddatblygu mesurau amddiffyn rhag llifogydd yn nhref Llanfair-ym-Muallt? (WAQ50870)

Jane Davidson: Mae’r ardal dan sylw yn agored i lifogydd o afon Gwy sy’n brif afon ddynodedig. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am faterion rheoli’r perygl o lifogydd sy’n gysylltiedig â phrif afonydd Cymru.

Deallaf gan Asiantaeth yr Amgylchedd fod Llanfair-ym-Muallt, ac yn enwedig Llanelwedd, wedi cael llifogydd ar hyd gorlifdir yr afon yn y gorffennol. Digwyddodd yr achos diweddar mwyaf arwyddocaol ym mis Hydref 1998 pan orlifodd tua 17 o adeiladau a tharfwyd ar y traffig.

Deallaf yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd fod sawl astudiaeth ddichonoldeb wedi’i chynnal dros y 30-40 mlynedd diwethaf i weld a ellir gwella safonau amddiffyn rhag llifogydd yn yr ardal. Daeth yr astudiaethau hyn i’r casgliad nad oedd gwaith lliniaru’r llifogydd yn ddichonadwy am resymau economaidd. Nid yw’r broblem yn Llanfair-ym-Muallt, o gofio ei maint, yn un o flaenoriaethau buddsoddi Asiantaeth yr Amgylchedd ar hyn o bryd.

Nod ein rhaglen ymagweddau newydd ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd a pherygl arfordirol yng Nghymru yw hwyluso newid yn ein dull o reoli’r perygl o lifogydd a bydd canlyniadau’r rhaglen honno yn helpu i greu rhaglenni gwaith newydd yn y dyfodol. Unwaith y bydd y rhaglen wedi’i chwblhau bydd fy swyddogion yn rhan o’r broses o adolygu blaenraglen Asiantaeth yr Amgylchedd ei hun.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch cymorth i bobl agored i niwed mewn cymdeithas ac ystyried prisiau tanwydd? (WAQ50873)

Jane Davidson: Cafwyd gohebiaeth gan bartïon eraill â diddordeb, gan gynnwys Arweinydd Plaid Geidwadol Cymru, y byddaf yn ymateb iddo yn uniongyrchol. Mae grŵp cynghori tlodi tanwydd Cymru hefyd wedi trafod y mater â swyddogion.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn gwneud unrhyw beth i ddiweddaru’r strategaeth canser, gan gynnwys diwygio’r amserlenni dan sylw? (WAQ50864)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae datganiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynllun i Fynd i’r Afael â Chanser yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2006, yn nodi amcanion polisi tymor hir ar gyfer 2015. O ran ei weithredu, mae hefyd yn gosod sawl gofyniad ar gyfer mis Mawrth 2008. Caiff cyfres newydd o ofynion, i gyfeirio ac arwain cynnydd dros y tair blynedd nesaf, ei chyhoeddi maes o law.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cynnal rhaglen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd adeg cyflwyno’r rhaglen sgrinio am ganser y coluddyn? (WAQ50865)

Edwina Hart: Ydw. Bwriedir dechrau’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yng Nghymru yn raddol tua diwedd 2008. Er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o ran iechyd y cyhoedd mae angen i ni sicrhau y codir ymwybyddiaeth y cyhoedd fel bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu sgrinio. Fel rhan o’r gwaith cynllunio sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn datblygu strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd a marchnata a gaiff ei gweithredu yr un pryd ag y bydd y rhaglen sgrinio yn dechrau.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pryd mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun gweithredu drafft ar hepatitis C ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus? (WAQ50866)

Edwina Hart: Cefais gopi drafft o gynllun gweithredu hepatitis feirysol a drosglwyddir yn y gwaed Cymru a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) ym mis Medi 2007. Gan fod y cynllun yn gwneud sawl argymhelliad eang ar gyfer y GIG yng Nghymru, awdurdodau lleol, carchardai a Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae fy swyddogion yn ymgymryd â mwy o waith cwmpasu ynghylch goblygiadau ariannol y cynllun.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gost dannedd gosod GIG? (WAQ50868)

Edwina Hart: Ym mis Ebrill 2006, yn dilyn cyflwyno’r contract deintyddol newydd gwnaethom symud i ffwrdd o system lle y codwyd tâl am bob eitem, o dros 400 o driniaethau gwahanol, i’r taliadau tri band safonol presennol i gleifion—£12.00; £39.00; a £177.00.

Mae’r band taliad uchaf o £177.00 yn cynnwys yr holl driniaeth angenrheidiol a gwmpesir gan y taliadau £12 a £39, ynghyd â thriniaethau mwy cymhleth fel corunau, dannedd gosod a phontydd. Felly cost dannedd gosod y GIG fyddai £177.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn gwneud datganiad am gau Ysbyty Fairwood a phryd y gwneir penderfyniad ynghylch ei ddyfodol? (WAQ50876)

Edwina Hart: Ar ôl cwblhau fy adolygiad o’r broses ailgyflunio ym mis Hydref, cyfeiriais y mater hwn i’r Prif Weinidog er mwyn dod i benderfyniad.

Penderfynodd y Prif Weinidog fod yn rhaid i’r BILl ac Ymddiriedolaeth GIG Abertawe gynnal ymgynghoriad pellach i’r cynigion i gau Ysbyty Fairwood a Ward 1 yn Ysbyty Hill House. Gwnaed yn glir y dylai’r ymgynghoriad gynnwys ymgysylltu â’r awdurdod lleol a’r gymuned leol eto ar y cynigion.

Daethpwyd i gytundeb i gynnwys y gwaith o ymgysylltu eto ac ymgynghori ymhellach ar ddyfodol yr ysbytai hyn yn y gwaith cyffredinol presennol ar fodel gofal Abertawe.

Mae’r gwaith o ymgysylltu eto ar gam cynnar ac mae hyn, ynghyd â chytundeb partneriaeth, yn debygol o bara tan diwedd mis Awst. Mae’n annhebygol y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn cyn mis Medi 2008.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer lleoliadau celf yn y Canolbarth? (WAQ50861)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i gefnogi lleoliadau celfyddydol a gweithgareddau celfyddydol eraill ledled Cymru, gan gynnwys canolbarth Cymru.

Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru a chefnogaeth i’r celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Ar hyn o bryd maent yn rhoi cefnogaeth i sawl sefydliad yng Nghanolbarth Cymru, gan gynnwys Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Theatr Brycheiniog, Oriel Davies a Theatr Hafren. Mae’r rhain, a sefydliadau eraill yng Nghanolbarth Cymru, hefyd yn cael budd o’r £2 miliwn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei rhoi yn benodol i weithgaredd 'Y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd’.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi arian ychwanegol gwerth £2.25 miliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer datblygu Theatr Saesneg Genedlaethol. Caiff y theatr ei seilio ar fodel comisiynu ac felly bydd cyfleoedd i gydweithio â chwmnïau a lleoliadau theatr presennol ledled Cymru, a fydd yn dwyn manteision i bob rhanbarth.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Fwrdd Strategaeth y Celfydyddau, yn parhau i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau eraill i sicrhau bod y celfyddydau yn parhau i ffynnu ym mhob rhan o Gymru.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn gwneud datganiad am y cyllid a ddarparwyd i gefnogi’r papur newydd Cymraeg? (WAQ50874)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn rhoi sylw am sut y mae’r arian a ddarperir i’r papur newydd Cymraeg yn cymharu â’r asesiad o gostau gwirioneddol i gyflawni’r ymrwymiad? (WAQ50875)

Rhodri Glyn Thomas: Ym mis Chwefror 2007, cynigiwyd grant cymorth rhanbarthol dewisol o £75,000 i Dyddiol Cyf i gefnogi Y Byd.

Yn ogystal â hyn, yr ydym eisoes yn rhoi £378,000 i gylchgronau Cymraeg eleni, gan gynnwys Golwg a Y Cymro, drwy Gyngor Llyfrau Cymru.

Mae unrhyw arian ychwanegol o’m portffolio yn dibynnu ar ganlyniad adroddiad Dr Tony Bianchi ar y wasg argraffu Gymraeg.

Yr wyf yn ystyried fy ymateb i adroddiad Dr Bianchi a byddai’n rhy gynnar i mi ddweud pa gymorth ariannol a allai fod ar gael yn y dyfodol i bapurau Cymraeg cyn hynny.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fandio’r dreth gyngor ar gyfer eiddo sydd yn dal i gael eu trawsnewid? (WAQ50844)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Er mwyn bod yn atebol i dalu’r dreth gyngor rhaid bod cofnod ar restr y dreth gyngor sy’n cynnwys cyfeiriad eiddo penodol, y dyddiad cofnodi, a’r band.

O ran eiddo lle mae gwaith addasu yn mynd rhagddo, bydd rhoi cofnod ar y rhestr, a fydd felly’n golygu bod yr eiddo yn atebol i dalu’r dreth gyngor, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol sydd ynghlwm wrth hyn, a gall gwmpasu nifer o sefyllfaoedd gwahanol, gan gynnwys troi hen eiddo annomestig yn eiddo domestig (e.e. warws yn fflatiau), troi eiddo annomestig a eithriwyd o ardrethi busnes yn annedd domestig (e.e. adeilad fferm yn gartref gwyliau), neu droi annedd neu anheddau presennol yn un neu fwy o anheddau newydd (e.e. troi tŷ Fictoraidd mawr yn dair fflat).

Fodd bynnag, yn gyffredinol, caiff eiddo ei ddyfarnu yn ôl pa un a yw pobl yn gallu byw ynddo fel annedd ai peidio, gan ystyried ei gymeriad a chan dybio bod cryn dipyn o waith atgyweirio wedi cael ei wneud. Os bydd gwaith addasu helaeth yn cael ei wneud ar eiddo, mae’n annhebyg y bydd yn bodloni prawf o’r fath nes bo’r gwaith wedi’i gwblhau neu nes y tybir ei fod wedi’i gwblhau drwy gyflwyno hysbysiad cwblhau gan yr awdurdod lleol.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa ddangosyddion y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu defnyddio i fesur didwylledd, tryloywder, atebolrwydd a materion cysylltiedig eraill awdurdodau lleol yng Nghymru, er enghraifft cyfansoddiad pwyllgorau craffu, lefelau ymgynghori cyhoeddus? (WAQ50847)

Brian Gibbons: Llunnir cyfundrefn dangosyddion perfformiad Llywodraeth y Cynulliad er mwyn mesur yr agweddau hynny ar berfformiad awdurdodau lleol sy’n fesuradwy. Mae sicrhau natur agored, tryloywder ac atebolrwydd ar gyfer y dinesydd yn faterion yr ymdrinnir â hwy drwy ddeddfwriaeth.

Crëodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 broses gwneud penderfyniadau fwy atebol a thryloyw mewn llywodraeth leol, er enghraifft drwy gyflwyno strwythur cabinet o bwyllgorau llywodraethu a chraffu. Rhaid i awdurdodau hefyd gydymffurfio â 'Chanllawiau i Gynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ar Drefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen’ statudol Llywodraeth y Cynulliad, sydd, ymhlith mentrau eraill, yn annog awdurdodau lleol i bennu cadeiryddion pwyllgorau craffu yn unol â chydbwysedd gwleidyddol. Mae sefydlu systemau cabinet o lywodraethu hefyd yn golygu y gall etholwyr weld pwy sy’n gyfrifol am y penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau. Yng Nghymru, mae’r gofyniad bod cyfarfodydd cabinet yn cael eu cynnal yn gyhoeddus yn atgyfnerthu hyn.

Mae awdurdodau hefyd yn atebol am eu gweithredoedd drwy’r gofyniad i ymgynghori’n eang o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1999. Mae’r rhain yn ymwneud â sut y mae awdurdodau yn sicrhau gwelliant parhaus yn eu gwasanaethau i’r dinesydd a rhoi adroddiadau ar ganlyniad y gwaith hwnnw i’r cyhoedd. Mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn tanategu’r egwyddor o dryloywder drwy nodi beth yw’r ffordd orau y gall awdurdodau gyfathrebu a rhoi cyfrif am wella gwasanaethau, drwy gynlluniau gwella a gyhoeddir bob blwyddyn, sy’n cynnwys trosolwg o flaenoriaethau ac amcanion; i ba raddau y’u cyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; ynghyd â’r camau y cynllunnir i’w cymryd yn y flwyddyn gyfredol a manylion am sut y gall y dinesydd gael rhagor o wybodaeth.