Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2008 i’w hateb ar 22 Ionawr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau hyfforddiant i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd. (WAQ50872)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu Grantiau Dysgu’r Llywodraeth i fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr gan nad yw’r cwrs yn cael ei gynnig gan sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru. (WAQ50867)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio Tocynnau Teithio Rhad ar Fysiau ar Drafnidiaeth Gymunedol. (WAQ50871)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau i ddatblygu mesurau amddiffyn rhag llifogydd yn nhref Llanfair-ym-Muallt. (WAQ50870)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y Canolbarth. (WAQ50869)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch cymorth i bobl agored i niwed mewn cymdeithas ac ystyried prisiau tanwydd. (WAQ50873)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gost dannedd gosod GIG. (WAQ50868)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cynnal rhaglen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd adeg cyflwyno’r rhaglen sgrinio am ganser y coluddyn. (WAQ50865)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn gwneud unrhyw beth i ddiweddaru’r Strategaeth Canser, gan gynnwys diwygio’r amserlenni dan sylw. (WAQ50864)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pryd mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun gweithredu drafft ar Hepatitis C ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. (WAQ50866)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn gwneud datganiad am gau Ysbyty Fairwood a phryd y gwneir penderfyniad ynghylch ei ddyfodol. (WAQ50876)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn gwneud datganiad am y cyllid a ddarparwyd i gefnogi'r papur newydd Cymraeg. (WAQ50874)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn rhoi sylw am sut y mae’r arian a ddarperir i’r papur newydd Cymraeg yn cymharu â’r asesiad o gostau gwirioneddol i gyflawni’r ymrwymiad. (WAQ50875)