Atebion a roddwyd i Aelodau ar 22 Ebrill 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar gyfathrebu allanol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53795)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar hysbysebu ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53796)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion, gan gynnwys costau, ymgyrchoedd hysbysebu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf? (WAQ53799)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Nid oes modd rhoi cymhariaeth gywir o’r gwariant ar gyfathrebu allanol er 1999 oherwydd newidiadau sylfaenol yn strwythur Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r ffigurau isod yn dangos y gwariant ar gyfathrebu allanol a gaffaelwyd gan yr Is-adran Gyfathrebub ganolog ac nid yw’n cynnwys gwariant ar gyfathrebu gan adrannau na phrynwyd mohono’n ganolog.
Tabl 1 - Mae’r ffigurau’n cyflwyno’r cyfnod cyn uno’r CCNCau 1999 - 2006 ac ar ôl uno’r CNCCau 2006 - 2009:
1999-2006 Cyn Uno’r CCNCau
1999-2000 |
£435,000 |
2000-2001 |
£4,015,000 |
2001-2002 |
£3,139,000 |
2002-2003 |
£4,280,000 |
2003-2004 |
£3,650,000 |
2004-2005 |
£2,465,000 |
2005-2006 |
£2,552,000 |
2006 - 2009 Ar ôl Uno’r CNCCau
2007-2007 |
£2,697,000 |
2007-2008 |
£1,909,000 |
2008-2009 |
*£1,754,000 |
*Gwybodaeth gyfredol ar 16 Mawrth 2009.
(Ffigurau i’r £1,000 agosaf. Y ffigurau o 2004 ymlaen yn cynnwys cyllideb gorfforaethol gwerth £720,000).
Mae’r mwyafrif llethol o wariant hysbysebu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cefnogi ymgyrchoedd o blaid polisïau penodol. Nid yw’r ffigurau yn y tablau canlynol yn cynnwys gwariant ar hysbysebion recriwtio, penodiadau cyhoeddus na hysbysiadau cyhoeddus statudol. Dim ond gwariant yr Is-adran Gyfathrebu ganolog ar hysbysebu a nodir.
Tabl 2 - Dyma’r ffigurau ar gyfer hysbysebu er 1999:
1999-2006 Cyn Uno’r CNCCau
Blwyddyn |
Cyfanswm |
1999/2000 |
£250,250 |
2000/2001 |
£99,610 |
2001/2002 |
£769,880 |
2002/2003 |
£1,084,020 |
2003/2004 |
£833,890 |
2004/2005 |
£760,520 |
2005/2006 |
£1,028,280 |
2006 - 2009 Ar ôl Uno’r CNCCau a Deddf Llywodraeth Cymru
Blwyddyn |
Cyfanswm |
2006/2007 |
£2,088,490 |
2007/2008 |
£247,475 |
2008/2009* |
£154,570 |
Ffigurau i’r £1,000 agosaf.
*Mae’r ffigurau’n cynnwys costau tan fis Mawrth 2009 a fydd yn newid ar ôl cwblhau’r cyfrifon adnoddau ar ddiwedd y flwyddyn.
Tabl 3 - Dyma ffigurau gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu ar gyfer y tair blynedd blaenorol:
Blwyddyn |
Cyfanswm |
Yr ymgyrchoedd a gynhaliwyd yn cynnwys: |
2005/2006 |
£1,028,280 |
Diogelwch ffyrdd, Addysg Bellach ac yn Erbyn ysmygu |
2006/2007 |
£2,088,490 |
Nofio’n rhad ac am ddim, Rhoi Gwaed ac yn Erbyn ysmygu |
2007/2008 |
£247,475 |
Yn Erbyn ysmygu, Bwydo ar y fron a Diogelwch Iechyd |