22/11/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Tachwedd 2011 i’w hateb ar 22 Tachwedd 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion (a) aelodaeth lawn, (b) cylch gorchwyl ac (c) rhaglenni gwaith paneli cynghori pob un o’r naw sector economaidd allweddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. (WAQ58366)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Ar ba ddyddiad y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r “Cynllun Seilwaith Strategol i Gymru” a grybwyllir yn y Rhaglen Adnewyddu’r Economi. (WAQ58367)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithredu argymhelliad 35 ‘Uchelgeisiau i’r dyfodol: Datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru’. (WAQ58374)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at ei ateb i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad 58332, 58333 a 58334, pryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hyfforddiant i lywodraethwyr fod yn orfodol a beth yw goblygiadau cost hyfforddiant gorfodol o'r fath. (WAQ58377)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pryd cynhaliodd y Gweinidog adolygiad ffurfiol o Nodyn Cyngor Technegol 4 ddiwethaf. (WAQ58368)

David Rees (Aberafan): Pa arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi o’r neilltu i gefnogi adfer a dihalogi tir a halogwyd. (WAQ58369)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi papur sy’n rhoi manylion ei hymateb i adroddiad Rhagfyr 2010 LE Wales “Gofal Seibiant yng Nghymru” a’r ymgynghoriad dilynol a gynhaliwyd cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. (WAQ58364)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r ffigurau ar gyfer y nifer o bobl sydd wedi cael eu rhoi dan gadwad o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 sydd wedi cael eu dal i ddechrau mewn celloedd heddlu, gan roi’r ffigurau ar gyfer pob un o’r 5 mlynedd diwethaf. (WAQ58375)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at ei hateb i WAQ5831, pryd y bydd cam 2 o’r adolygiad i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn yn cael ei gwblhau. (WAQ58376)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at ei hateb i WAQ58298, a wnaiff y Gweinidog roi’r ffigurau ar gyfer nifer yr unedau lleol bach o welyau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru, gan roi’r ffigurau ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol. (WAQ58378)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran sefydlu ffordd osgoi ar gyfer Rhaeadr Gwy. (WAQ58365)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion camau gweithredu a phenderfyniadau ei adran i sicrhau bod darpariaethau wedi cael eu gwneud ar gyfer trigolion Tre Taliesin, Ceredigion, er mwyn iddynt gadw eu cyfleusterau parcio ceir yng ngoleuni newidiadau arfaethedig i Orchymyn Cefnffordd yr A487 (Tre Taliesin, Ceredigion) (Gwahardd Aros) 201-. (WAQ58371)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r atebolrwydd ariannol posibl ar hyn o bryd mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yn diwallu eu cytundebau ‘statws sengl’. (WAQ58372)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o awdurdodau addysg lleol sy’n diwallu eu rhwymedigaethau mewn perthynas â chytundebau ‘statws sengl’ a phryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl y bydd pob awdurdod addysg lleol yn cydymffurfio. (WAQ58373)

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

Leanne Wood (Canol De Cymru): Mewn perthynas â’r cynllun diswyddo gwirfoddol a gynhaliwyd i staff Comisiwn y Cynulliad yn ystod 2010-11, faint o’r 25 aelod o staff a adawodd a oedd wedi cael eu cyflogi mewn swyddi diogelwch. (WAQ58370)