23/04/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Ebrill 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Ebrill 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddysgu Lladin mewn ysgolion yng Nghymru? (WAQ51624)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Byddwch yn ymwybodol i mi wneud datganiad i’r cyfarfod llawn ar 9 Hydref 2007 yn cyhoeddi y câi cyflwyniad cwricwlwm ysgol diwygiedig ei gyflwyno i’w weithredu o fis Medi 2008.

Fel yn achos fersiynau cynharach o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, nid yw Lladin yn bwnc statudol. Fodd bynnag, bydd ysgolion yn cael rhyddid a chyfle i gyflwyno elfennau ychwanegol i’r cwricwlwm, os ydynt yn dymuno.

Un o egwyddorion sylfaenol yr adolygiad o’r cwricwlwm diwygiedig oedd hyrwyddo hyblygrwydd i ysgolion wrth gyflawni’r cwricwlwm. Dylai’r newidiadau o fis Medi 2008 hwyluso ymhellach gyfleoedd i ysgolion wneud penderfyniadau lleol ynghylch pynciau fel Lladin.

Mae amrywiaeth o gymwysterau ar gael yn y maes hwn ac unwaith eto gall ysgolion ddewis cyrsiau sy’n briodol i anghenion eu disgyblion.

Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddysgu’r Clasuron mewn ysgolion yng Nghymru? (WAQ51625)

Jane Hutt: Byddwch yn ymwybodol i mi wneud datganiad i’r cyfarfod llawn ar 9 Hydref 2007 yn cyhoeddi y câi cyflwyniad cwricwlwm ysgol diwygiedig ei gyflwyno i’w weithredu o fis Medi 2008.

Fel yn achos fersiynau cynharach o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, nid yw’r Clasuron yn elfen statudol. Fodd bynnag, bydd ysgolion yn cael rhyddid a chyfle i gyflwyno elfennau ychwanegol i’r cwricwlwm, os ydynt yn dymuno.

Un o egwyddorion sylfaenol y cwricwlwm diwygiedig oedd hyrwyddo hyblygrwydd i ysgolion wrth gyflawni’r cwricwlwm. Dylai’r newidiadau o fis Medi 2008 hwyluso ymhellach gyfleoedd ysgolion i wneud penderfyniadau lleol ynghylch elfennau fel y Clasuron.

Mae amrywiaeth o gymwysterau ar gael yn y maes hwn ac unwaith eto gall ysgolion ddewis cyrsiau sy’n briodol i anghenion eu disgyblion.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw cyfrif am asesiadau gofal ar gyfer pob sir yng Nghymru? (WAQ51628)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Deallaf yr eglurwyd bod y cwestiwn hwn yn cyfeirio at nifer yr asesiadau gofal cymdeithasol o anghenion a gynhelir ar gyfer plant ac oedolion gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Ar sail hynny gallaf nodi y caiff manylion am nifer asesiadau o’r fath a gynhelir gan awdurdodau eu cyhoeddi’n rheolaidd a gellir dod o hyd iddynt ar wefan Uned Ddata Llywodraeth Leol yn: http://www.dataunitwales.gov.uk

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch triniaeth Ysgogi yn Nwfn yr Ymennydd i ddioddefwyr clefyd Parkinson, ac a all y Gweinidog hefyd gadarnhau safbwynt Comisiwn Iechyd Cymru? (WAQ51629)

Edwina Hart: Rwy’n ymwybodol o ymgyrch Cymdeithas Clefyd Parkinson ynghylch darpariaeth ysgogiad dwfn yr ymennydd yng Nghymru.

Ysgrifennais at Aelodau’r Cynulliad gyda safbwynt polisi ar ysgogiad dwfn yr ymennydd ac mae gwasanaethau niwroleg ar gyfer cleifion sydd â Chlefyd Parkinson yn rhan o’r adolygiad o niwrowyddorau i oedolion yng Nghymru y disgwylir adroddiad arno yn yr haf. Gofynnais i Gomisiwn Iechyd Cymru baratoi cynllun gweithredu yn manylu ynglŷn â sut y gall ysgogiad dwfn yr ymennydd gael ei gyflwyno i drigolion Cymru.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach maes o law.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau yn yr Uned Therapi Dwys yn Ysbyty Nevill Hall? (WAQ51630)

Edwina Hart: Mae gan Ysbyty Neville Hall wyth gwely gofal critigol i oedolion - mae chwech ar gyfer gofal dwys ac mae dau yn welyau dibyniaeth fawr. Fodd bynnag, pan fo amgylchiadau’n caniatáu hynny, gellid derbyn mwy o gleifion dibyniaeth fawr pan na chaiff y gwelyau gofal dwys eu defnyddio. Mae cynllun i gynyddu nifer y gwelyau dibyniaeth fawr yn Ysbyty Neville Hall yn cael ei ddatblygu gan Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent a chaiff ei ystyried gan Rwydwaith Gofal Critigol De Ddwyrain Cymru, sy’n adolygu lleoedd ledled y rhanbarth.