23/06/2015 - Cwestiynau ac ~Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 17/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2015 i'w hateb ar 23 Mehefin 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa arolygon y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cynnal i archwilio i'r effaith y gallai ailagor y chwarel ger Pentyrch ei chael ar yr amgylchedd a'r seilwaith trafnidiaeth lleol? (WAQ68782)

Derbyniwyd ateb ar 24 Mehefin 2015

Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant):

Natural Resources Wales (NRW) has not been consulted on a Planning Application or held any pre-planning discussions with any operator seeking to re-open a quarry near Pentyrch.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog a/neu ei swyddogion wedi'u cael â Lafarge Tarmac ynghylch y cynnig arfaethedig i ailagor y chwarel ger Pentyrch? (WAQ68783)

Derbyniwyd ateb ar 24 Mehefin 2015

Carl Sargeant:

None

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt adolygiad Diamond o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru? (WAQ68781)

Derbyniwyd ateb ar 23 Mehefin 2015

Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): The Review Panel commenced work in April last year and has been making good progress.  The Panel is gathering and evaluating available data, research and other evidence, including the responses that were received as part of its recent Call for Evidence.  I encouraged anyone with an interest in student finance and the HE funding system to take this opportunity to respond to the Call for Evidence.  The Panel will give careful consideration to all the responses that were received, and these will also form part of the factual summary of evidence on which the Panel will report this autumn.  The Panel's final report and recommendations will be submitted by September 2016.

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro faint o arian y bwriedir ei arbed drwy newidiadau i delerau ac amodau'r 300 o staff yr effeithir arnynt ar draws saith safle Amgueddfa Cymru? (WAQ68784)

Ateb i ddilyn.

Leanne Wood (Canol De Cymru): Beth yw'r swm o arian y mae angen ei arbed yng nghyllideb Amgueddfa Cymru? (WAQ68785)

Ateb i ddilyn.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A oes unrhyw gynlluniau i newid patrymau sifft yn safleoedd Amgueddfa Cymru fel bod staff penodol yn cael eu rhoi ar gontractau blynyddol neu sero-awr a pha newidiadau eraill i delerau ac amodau sy'n cael eu hystyried? (WAQ68786)

Ateb i ddilyn.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno polisi 'dim diswyddiadau gorfodol' yn safleoedd Amgueddfa Cymru yn unol â'r sector treftadaeth yn yr Alban? (WAQ68787)

Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa graddau cyflog y mae'r newidiadau arfaethedig i delerau ac amodau gweithwyr Amgueddfa Cymru yn berthnasol iddynt? (WAQ68788)

Ateb i ddilyn.

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o nifer y rheolwyr ar y ddwy radd gyflog uchaf o fewn Amgueddfa Cymru am y tair blynedd ariannol ddiwethaf a chyfanswm eu bil cyflogau? (WAQ68789)

Ateb i ddilyn.

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y swyddi a grëwyd, y swyddi a ddiogelwyd, y busnesau a gynorthwywyd a'r cyllid a ddarparwyd ym mhob un o'r saith ardal fenter yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2014-15? (WAQ68791)

Derbyniwyd ateb ar 24 Mehefin 2015

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): My Officials are collating the data for the breakdown of KPI data for FY14/15 against the Jobs Supported, Number of Businesses Supported and Investment measures and I will publish these on the Enterprise Zone website when this work has concluded and to align with updating of the wider strategic plan overseen by the Boards.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi Papur Gwyrdd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar Lywodraethu ac Ansawdd y GIG? (WAQ68779)

Derbyniwyd ateb ar 23 Mehefin 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): I will publish the Green Paper before the summer recess.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad allanol o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, gan gynnwys ei adroddiad terfynol ac ymateb Llywodraeth Cymru? (WAQ68780)

Derbyniwyd ateb ar 29 Mehefin 2015

Mark Drakeford: The Welsh Health Specialised Services Committee (WHSSC)  commissioned the Good Governance Institute to undertake the review, which is nearing completion.

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Ar ba ddyddiad y bydd y cynllun peilot llwybr canser, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 7 Mai 2014, yn dod i ben a phryd y bydd canlyniadau'r cynllun peilot yn cael eu cyhoeddi? (WAQ68790)

Derbyniwyd ateb ar 23 Mehefin 2015

Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Mark Drakeford):

The single cancer pathway pilot ran in six health board areas between May and September 2014. An evaluation of the pilot identified further development work was required.

Cwm Taf University Health Board will undertake a further pilot across all tumour sites from July 2015.