24/10/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2013 i’w hateb ar 24 Hydref 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa feini prawf sy'n cael eu hystyried wrth benderfynu a ddylid caniatáu safleoedd sipsi a theithwyr ar dir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno gerllaw ystadau diwydiannol? (WAQ65704)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Sawl myfyriwr o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru sydd wedi cymryd rhan yn Erasmus bob blwyddyn ers 2005? (WAQ64594)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ysgolion cynradd i ddysgu iaith dramor? (WAQ65695)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o (a) athrawon a (b) cynorthwywyr addysgu cyfwerth ag amser llawn sydd wedi cael eu cyflogi mewn ysgolion yng Nghymru bob blwyddyn ers 2005? (WAQ65696)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog nodi’r holl ymweliadau y mae wedi’u gwneud ag ysgolion ers iddo gael ei benodi? (WAQ65697)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Sawl ysgol sydd wedi cau yng Nghymru oherwydd polisi Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lleoedd gwag? (WAQ65698)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi’i rhoi i’r goblygiadau ar gyfer myfyrwyr Cymru o roi’r gorau i gymhwyster TGAU y tair gwlad? (WAQ65699)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod polisi Llywodraeth Cymru yng nghyswllt uno Sefydliadau Addysg Uwch i leihau eu nifer wedi dod i ben? (WAQ65700)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ragfynegiadau y mae'r Gweinidog wedi’u gwneud yng nghyswllt perfformiad Cymru yng nghanlyniadau profion PISA (Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) yn2012? (WAQ65701)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Sawl myfyriwr sydd wedi astudio pynciau STEM ar gyfer Safon Uwch bob blwyddyn ers 2005 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul pwnc? (WAQ65702)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Sawl myfyriwr sydd wedi astudio pynciau STEM ar gyfer TGAU bob blwyddyn ers 2005 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul pwnc? (WAQ65703)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi’r gymhareb nyrs/claf ar hyn o bryd ar wardiau ysbyty yn (a) Wrecsam Maelor, (b) Ysbyty Glan Clwyd ac (c) Ysbyty Gwynedd? (WAQ65706)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Iechyd Gwledig? (WAQ65707)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu’r nifer sy'n cael y pigiad ffliw ymysg pobl dros 65 oed? (WAQ65710)

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yng nghyswllt Rhan L y Rheoliadau Adeiladu, a yw Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r dull rysáit wrth bennu targedau carbon ar gyfer anheddau gyda’r dull elfennaidd sy’n debyg ar gyfer yr holl fathau o danwydd? (WAQ65693)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o nifer y buchesi gwartheg sydd wedi cael eu rhoi o dan gyfyngiadau symud oherwydd TB Buchol ymhob un o'r 5 mlynedd diwethaf, wedi’u rhestru fesul Awdurdod Lleol? (WAQ65705)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiadau a gafodd eu gwneud, cyn dechrau'r rhaglen frechu pum mlynedd, o nifer yr achosion o TB buchol ymysg y boblogaeth moch daear o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys? (WAQ65708)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi (a) sawl achos sydd wedi’i gofnodi’n flynyddol o ddifrod i dir, i eiddo neu i rywbeth arall oherwydd gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ystod y tair blynedd diwethaf a (b) y costau a wynebwyd yn dilyn pob digwyddiad? (WAQ65711)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein? (WAQ65712)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw asesiad y Gweinidog ar hyn o bryd ynghylch a fydd system Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein wedi'i datblygu'n llawn erbyn mis Ionawr 2015, yn barod ar gyfer cylch cyllido nesaf y PAC? (WAQ65713)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Beth yw cyfanswm yr arian a roddir i First Milk, Wrecsam gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Datblygu Gwledig (PAC, Colofn 2) neu o dan unrhyw raglen ariannu arall? (WAQ65709)