25/01/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Ionawr 2013 i’w hateb ar 25 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o bobl yng Nghymru yr aseswyd bod eu hanghenion o dan Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal yn (a) Isel; (b) Canolig; (c) Sylweddol; a (d) Critigol. (WAQ61983)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o unigolion sy’n cael gwasanaethau gan awdurdodau lleol yng Nghymru sydd ag anghenion Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal sydd yn (a) Isel; (b) Canolig; (c) Sylweddol; a (d) Critigol. (WAQ61984)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drefniadau llywodraethu y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu cyflwyno i sicrhau bod y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol yn atebol naill ai iddo ef neu i awdurdodau lleol, wrth ystyried y cyfrifoldebau newydd a gânt ar ôl yr Adolygiad o Gyllid Bysiau. (WAQ61981)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa grantiau sy’n cael eu hymgorffori yn y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd a beth oedd eu gwerth ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ61982)