25/02/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 25 Chwefror 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 25 Chwefror 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â chamarfer staff canolfannau yn ystod arholiadau disgyblion. (WAQ55684)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Mae'r cod ymarfer TGAU, TAG a DUE a gyhoeddir yn flynyddol gan y rheoleiddwyr cymwysterau yn nodi'r trefniadau er mwyn i gyrff dyfarnu ymdrin ag achosion o gamymddwyn. Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau www.jcq.org.uk yn cyhoeddi gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i bob corff dyfarnu eu dilyn i sicrhau cysondeb o ran ymarfer. Mae'r cyrff dyfarnu yn monitro ac yn rhoi cosbau i staff canolfannau sy'n ymwneud ag achosion o gamymddwyn yn unol â'r rheolau hyn. Mae achosion o'r fath yn brin iawn.  Mae manylion y cosbau a roddwyd a data ar gyfer 2008 a 2009 wedi'u cynnwys yn y Bwletin ystadegol: Camymddwyn mewn TGAU a TAG: cyfres arholiadau Mehefin 2009 a gyhoeddwyd gan y rheoleiddwyr cymwysterau, a restrwyd yn flaenorol yn WAQ55629.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd o fewn ei bortffolio i baratoi ar gyfer dirwasgiad gostyngiad dwbl. (WAQ55683)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Rydym yn monitro'r sefyllfa economaidd a'i heffeithiau yn barhaus, ac rydym yn ystyried ystod eang o sefyllfaoedd. Yn hytrach na chynllunio ar gyfer unrhyw ganlyniad penodol, rydym yn cydgysylltu ein hymatebion drwy'r Uwchgynadleddau Economaidd ac yn paratoi ar gyfer y cyfnod ar ôl y dirwasgiad drwy Raglen Adnewyddu'r Economi.