Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Mehefin 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio ar beth y mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwario’r £3m ychwanegol a ddarparwyd gan y Canghellor yn ddiweddar? (WAQ50063)
Y Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes (Jane Hutt): Fe’ch cyfeiriaf at fy ateb i WAQ50051 ar 20 Mehefin.Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gefnogaeth fydd y Gweinidog yn ei ddarparu i adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy’n wynebu gorwariant? (WAQ50059)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Caiff y rhan helaethaf o wariant gwasanaethau cymdeithasol ei ariannu drwy'r setliad refeniw heb ei neilltuo, y dreth gyngor a thaliadau ar wahân i grant penodol. Mae hyn yn rhoi'r hyblygrwydd i gynghorau osod eu blaenoriaethau gwario eu hunain a rheoli'r pwysau yn ystod y flwyddyn fel y gwelant yn addas, o fewn eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gefnogaeth fydd y Gweinidog yn ei ddarparu i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG sy’n wynebu gorwariant yng Nghymru? (WAQ50060) Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o wargedion a diffygion cyllidebau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn ystod y flwyddyn ariannol hon? (WAQ50062) Edwina Hart: Ni fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cymorth adnoddau i sefydliadau sydd mewn diffyg ariannol yn ystod 2007-08. Dengys y ffurflenni diweddaraf o'r Swyddfeydd Rhanbarthol bod sefydliadau yng Nghymru yn rhagweld cyfanswm diffygion o £34m yn 2007-08. Dangosir y manylion fesul cymuned iechyd isod:Cymuned | Diffyg a Ragwelir £m |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru | 2 |
Gogledd-ddwyrain Cymru | 3 |
BILl Caerdydd | 3 |
Ceredigion | 2 |
Sir Gaerfyrddin | 7 |
Abertawe | 14 |
Powys | 3 |
CYFANSWM | 34 |
Edwina Hart: Mae'r tabl canlynol yn nodi cyllideb gychwynnol y gwasanaethau cymdeithasol a osodwyd gan bob awdurdod lleol yn 2005-6 (y wybodaeth lawn ddiweddaraf sydd ar gael) a'r canlyniadau a adroddwyd. Ni fydd y ffigur cyllideb cychwynnol wedi ystyried unrhyw grantiau uniongyrchol a gyhoeddwyd ar ôl gosod y gyllideb, nac unrhyw newidiadau yn y penderfyniadau ar ddefnyddio arian wrth gefn i ariannu'r gwasanaethau, ond bydd y ffigur terfynol yn adlewyrchu'r gwariant llawn gan gynnwys unrhyw grantiau uniongyrchol o'r fath a newidiadau yn y defnydd o arian wrth gefn.
Gwariant terfynol refeniw awdurdodau lleol ar wasanaethau cymdeithasol, 2005-06
Awdurdod Lleol |
Cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol £ Miliwn |
Canlyniadau a Adroddwyd £ Miliwn |
Gwahaniaeth |
% |
Ynys Môn |
26.5 |
27.7 |
1.2 |
5 |
Gwynedd |
44.8 |
45.9 |
1.1 |
2 |
Conwy |
49.4 |
49.9 |
0.5 |
1 |
Sir Ddinbych |
42.1 |
42.1 |
0.0 |
0 |
Sir y Fflint |
49.9 |
50.0 |
0.1 |
0 |
Wrecsam |
46.5 |
46.5 |
0.0 |
0 |
Powys |
45.8 |
46.6 |
0.7 |
2 |
Ceredigion |
27.2 |
29.5 |
2.3 |
9 |
Sir Benfro |
36.6 |
37.9 |
1.3 |
4 |
Sir Gaerfyrddin |
61.6 |
65.3 |
3.7 |
6 |
Abertawe |
84.1 |
83.6 |
- 0.5 |
- 1 |
Castell-nedd Port Talbot |
57.8 |
59.9 |
2.0 |
3 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
50.9 |
51.9 |
1.0 |
2 |
Bro Morgannwg |
40.9 |
46.4 |
5.5 |
13 |
Rhondda Cynon Taf |
100.2 |
107.5 |
7.3 |
7 |
Merthyr Tudful |
23.2 |
25.1 |
2.0 |
9 |
Caerffili |
65.1 |
70.8 |
5.7 |
9 |
Blaenau Gwent |
31.1 |
31.0 |
- 0.1 |
0 |
Tor-faen |
34.5 |
36.9 |
2.5 |
7 |
Sir Fynwy |
30.7 |
29.3 |
- 1.4 |
- 5 |
Casnewydd |
52.3 |
57.8 |
5.5 |
11 |
Caerdydd |
113.2 |
122.8 |
9.6 |
9 |
Cymru |
1,114.5 |
1,164.7 |
50.2 |
5 |
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y diswyddiadau a wnaed gan y gwasanaeth Hylendid Cig ym mhob blwyddyn er 1999, y costau cysylltiedig, a'r rhesymau dros y diswyddiadau? (WAQ50065)
Edwina Hart: Caiff nifer y staff a ddiswyddwyd gan y Gwasanaeth Hylendid Cig ers 1 Ebrill 1999, a'r taliadau a wnaed i'r aelodau hynny o staff, eu nodi yn y tabl isod:1999-2000 | 2000-01 | 2001-02 | ||||
Y Rheswm dros Adael | Nifer y staff | Costau | Nifer y staff | Costau | Nifer y staff | Costau |
Diswyddiadau - Gorfodol | ||||||
Staff Gweithrediadol | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Staff Anweithredol | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Diswyddiadau - Gwirfoddol | ||||||
Staff Gweithrediadol | 5 | 10719.89 | 8 | 29463.42 | 1 | 0 |
Staff Anweithredol | 8 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 13 | 10719.89 | 8 | 29463.42 | 1 | 0 |
Ymddeoli yn Gynnar | ||||||
Staff Gweithrediadol | 0 | 0 | 1 | 4690.21 | 0 | 0 |
Staff Anweithredol | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 0 | 0 | 1 | 4690.21 | 0 | 0 |
Cyfanswm llawn | 13 | 10719.89 | 9 | 34153.63 | 1 | 0 |
2002-03 | 2003-04 | 2004-05 | ||||
Y Rheswm dros Adael | Nifer y staff | Costau | Nifer y staff | Costau | Nifer y staff | Costau |
Diswyddiadau - Gorfodol | ||||||
Staff Gweithrediadol | 0 | 0 | 0 | 0 | 2 | 4823.57 |
Staff Anweithredol | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 0 | 0 | 0 | 0 | 2 | 4823.57 |
Diswyddiadau - Gwirfoddol | ||||||
Staff Gweithrediadol | 0 | 0 | 2 | 51075.57 | 2 | 16469.06 |
Staff Anweithredol | 1 | 3345.92 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 1 | 3345.92 | 2 | 51075.57 | 2 | 16469.06 |
Ymddeoliad Cynnar | ||||||
Staff Gweithrediadol | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 | 13459.65 |
Staff Anweithredol | 0 | 1 | 6411 | 4 | 72286.37 | |
Cyfanswm | 0 | 0 | 1 | 6411 | 5 | 85746.02 |
Cyfanswm llawn | 1 | 3345.92 | 3 | 57486.57 | 9 | 107038.65 |
2005-06 | 2006-07 | |||
Y Rheswm dros Adael | Nifer y staff | Costau | Nifer y staff | Costau |
Diswyddiadau - Gorfodol | ||||
Staff Gweithrediadol | 8 | 72866.45 | 1 | 10556.97 |
Staff Anweithredol | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 8 | 72866.45 | 1 | 10556.97 |
Diswyddiadau - Gwirfoddol | ||||
Staff Gweithrediadol | 3 | 33846.95 | 26 | 199948.3 |
Staff Anweithredol | 1 | 10592.92 | 1 | 24432.03 |
Cyfanswm | 4 | 44439.87 | 27 | 224380.32 |
Ymddeoliad Cynnar | ||||
Staff Gweithrediadol | 0 | 0 | 1 | 11495.42 |
Staff Anweithredol | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 0 | 0 | 1 | 11495.42 |
Cyfanswm llawn | 12 | 117306.32 | 29 | 246432.71 |
Cyfansymiau | ||
Y Rheswm dros Adael | Nifer y staff | Costau |
Diswyddiadau - Gorfodol | ||
Staff Gweithrediadol | 11 | 88246.99 |
Staff Anweithredol | 0 | 0 |
Cyfanswm | 11 | 88246.99 |
Diswyddiadau - Gwirfoddol | ||
Staff Gweithrediadol | 47 | 341523.18 |
Staff Anweithredol | 11 | 38370.87 |
Cyfanswm | 58 | 379894.05 |
Ymddeoliad Cynnar | ||
Staff Gweithrediadol | 3 | 29645.28 |
Staff Anweithredol | 5 | 78697.37 |
Cyfanswm | 8 | 108342.65 |
Cyfanswm llawn | 77 | 576483.69 |
Drwy arolygu, dilysu, archwilio a gorfodi gofynion deddfwriaethol, mae'r Gwasanaeth Hylendid Cig yn gyfrifol am sicrhau bod Gweithredwyr Busnesau Bwyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran cynhyrchu bwyd diogel a diogelu iechyd a lles anifeiliaid mewn sefydliadau cig cymeradwy ym Mhrydain Fawr (gan gynnwys lladd-dai a gweithfeydd torri cig). Mae'r Gwasanaeth Hylendid Cig yn gweithredu o fewn cyd-destun deddfwriaethol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ei staff yn bresennol mewn lladd-dai yn barhaus yn ystod y broses o gynhyrchu cig.
Mae lefelau staffio gweithredol y Gwasanaeth Hylendid Cig mewn lladd-dai yn seiliedig ar yr oriau gweithredu a chyflymder y llinell ladd. Mae gan y Gwasanaeth Hylendid Cig weithdrefn a phroses y cytunwyd arni ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd o ddiswyddiadau a allai godi. Effeithir ar y sefyllfaoedd hyn yn bennaf oherwydd cau lladd-dai neu leihad yn nifer yr oriau gweithredu neu'r cyflymder, gan arwain at yr angen am lai o staff o fewn y Gwasanaeth Hylendid Cig. Lle bynnag y mae'n bosibl, mae'r Gwasanaeth Hylendid Cig yn gweithredu'r gostyngiad yn y lefelau staffio drwy chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol o fewn ardal ddaearyddol lleoliad y gwaith neu'r gweithfeydd dan sylw. Mae'r dull hwn fel arfer yn osgoi'r angen am ddiswyddiadau gorfodol, ar yr amod bod y staff sy'n wynebu risg o ddiswyddo yn derbyn y cyfleoedd adleoli a gaiff eu creu mewn ardaloedd eraill.
Cafodd nifer o staff rheoli anweithredol eu diswyddo yn 2003-04 a 2004-05 o ganlyniad i weithredu rhaglen o newid o fewn sefydliad.
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog nodi faint o arian a wariwyd ar weithwyr contract darpariaeth llinell flaen gan y Gwasanaeth Hylendid Cig ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ50066)
Edwina Hart: Gwariant y Gwasanaeth Hylendid Cig ar Arolygwyr Hylendid Cig a Milfeddygon Swyddogol ar gontract ar gyfer y blynyddoedd ariannol o 1999-2000 i 2006-07 yw:
1999-2000 |
2000-01 |
2001-02 |
2002-03 |
2003-04 |
2004-05 |
2005-06 |
2006-07 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
16,272 |
17,221 |
25,460 |
26,151 |
24,197 |
23,681 |
26,421 |
29,460 |
Mae'r Gwasanaeth Hylendid Cig yn defnyddio gwasanaethau Milfeddygol Swyddogol ar gontract ac Arolygwyr Hylendid Cig ar gontract mewn safleoedd trwyddedig. Hyd at 2004-5 roedd y rhan fwyaf o'r costau yn ymwneud â milfeddygon swyddogol ar gontract.
Mae'r cynnydd sylweddol yn lefel y gwariant yn 2001/02 a thu hwnt yn ymwneud â'r gofyniad i weithredu goruchwyliaeth Filfeddyg Swyddogol llawn amser o ladd-dai trwyddedig sy'n lladd ac yn prosesu o 1 Ebrill 2001. Roedd hyn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddebau Hylendid Cig y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae'r cynnydd sylweddol pellach mewn gwariant o 2005-06 yn ymwneud â'r ffaith bod y Rheol Dros Dri Deg Mis Oed wedi cael ei disodli gan system newydd o brofi BSE mewn gwartheg Dros Dri Deg Mis Oed sydd i'w bwyta gan bobl a ddaeth yn weithredol o 7 Tachwedd 2005. Arweiniodd y newid hwn at yr angen i'r Gwasanaeth Hylendid Cig gontractio gwasanaethau Arolygwyr Hylendid Cig ychwanegol i ddiwallu anghenion posibl lladd-dai cig coch fyddai am ladd gwartheg Dros Dri Deg Mis Oed ar gyfer y gadwyn fwyd ddynol.
*O dan y Rheol Dros Dri Deg Mis Oed, ni fyddai'n gyfreithiol bosibl i gig o wartheg dros 30 mis oed, gyda rhai eithriadau prin iawn, gael eu gwerthu i'w bwyta gan bobl yn y DU. Cyflwynwyd y Rheol Dros Dri Deg Mis Oed yn 1996 fel mesur diogelu rhag BSE er mwyn rhwystro gwartheg hŷn rhag cael eu cyflwyno i'r gadwyn fwyd.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cyflog cychwynnol cyfartalog ymgynghorydd GIG yng Nghymru yn ôl cofnodion adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad? (WAQ50091)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cyflog cychwynnol cyfartalog Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn ôl cofnodion adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad? (WAQ50092)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cyflog cychwynnol cyfartalog Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn ôl cofnodion adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad? (WAQ50093)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cyflog cychwynnol cyfartalog deintydd GIG yng Nghymru yn ôl cofnodion adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad? (WAQ50094)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cyflog cychwynnol cyfartalog meddyg teulu GIG yng Nghymru yn ôl cofnodion adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad? (WAQ50095)
Edwina Hart: Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.