Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Gorffennaf 2012
i’w hateb ar 25 Gorffennaf 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pryd y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi cynllun cyflenwi ar gyfer Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru. (WAQ60952)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno papurau i’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol – Môr a Physgodfeydd erbyn diwedd y mis i wahardd cychod dros 12 metr o Ddyfroedd Tiriogaethol Cymru. (WAQ60957)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pryd y rhoddodd y Gweinidog wybod i Is-Gangellorion Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ei fod yn bwriadu cyhoeddi diddymu’r sefydliadau ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2012. (WAQ60944)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r cyngor cyfreithiol a gafodd cyn cyhoeddi cynlluniau i ddiddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. (WAQ60945)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint wariodd Llywodraeth Cymru ar gyngor cyfreithiol cyn cyhoeddi cynlluniau i ddiddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. (WAQ60946)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gyngor cyfreithiol a gafodd y Gweinidog cyn cyhoeddi cynlluniau i ddiddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. (WAQ60947)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r holl ohebiaeth rhwng ei swyddogion a'r Athro Syr Steve Smith rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2012. (WAQ60948)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer yr ymgynghoriadau ar ddiddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. (WAQ60949)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pryd y cafodd y Gweinidog gopi o adroddiad Amanda Kirby ar Ddyslecsia yng Nghymru. (WAQ60950)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pryd y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi adroddiad Amanda Kirby ar Ddyslecsia yng Nghymru. (WAQ60951)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Faint o gyfarfodydd y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda sefydliadau pysgota yng Nghymru ynghylch cyflwyno Parthau Cadwraeth Morol, ac ar ba ddyddiadau y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny. (WAQ60953)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Faint o gyfarfodydd y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda sefydliadau amgylcheddol ynghylch cyflwyno Parthau Cadwraeth Morol, ac ar ba ddyddiadau y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny. (WAQ60954)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi ymweld â’r 10 Parth Cadwraeth Morol arfaethedig, ac ar ba ddyddiadau y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny. (WAQ60955)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa sefydliadau a oedd yn ymwneud â’r broses ddethol a arweiniodd at y 10 Parth Cadwraeth Morol arfaethedig. (WAQ60956)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Faint o gamau gorfodi sydd wedi cael eu cymryd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig morol yng Nghymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ60958)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu’r strategaeth dileu TB yng Nghymru yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys o blaid DEFRA ar 12 Gorffennaf. (WAQ60959)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ar ôl i etholwyr yn Sir Gaerfyrddin wledig, nad ydynt yn dod o dan y cynllun Bwcabus ar hyn o bryd, gysylltu â mi, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymestyn y cynllun ymhellach yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, ac a wnaiff ddarparu manylion unrhyw gynlluniau o’r fath. (WAQ60943)