Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 25 Tachwedd 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa amcangyfrif mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r gost i fusnesau o ran yswiriant tarfu ar fusnes o ganlyniad i weithredu diwydiannol gan staff y Post Brenhinol. (WAQ55151)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Chwefror 2010
Nid wyf wedi gwneud amcangyfrifon o'r fath.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru a oedd yn cynnwys gyrwyr gyda thrwyddedau gyrru o aelod wladwriaethau eraill yr UE. (WAQ55152)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Chwefror 2010
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ54705, pryd mae’r Gweinidog yn disgwyl cyflwyno canlyniadau adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wasanaethau cadeiriau olwyn. (WAQ55153)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro’r rheswm dros yr oedi cyn dechrau ar gam 2 o adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wasanaethau cadeiriau olwyn. (WAQ55155)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd mae cam 2 o adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wasanaethau cadeiriau olwyn i fod i ddechrau. (WAQ55154)
Rhoddwyd
ateb ar 27 Tachwedd 2009
Mae'r adolygiad o'r gwasanaeth cadeiriau olwyn yng Nghymru wedi bod yn eithaf cymhleth. Mae'n bwysig y caiff y gofynion gwasanaeth yn y dyfodol eu hadolygu'n briodol, er mwyn i'r canlyniad cywir gael ei gyflawni.
Rwyf wedi bod yn ystyried adroddiad cyntaf y grŵp llywio yn ofalus a byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn fuan, a fydd yn amlinellu'r camau nesaf.