26/02/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 26 Chwefror 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 26 Chwefror 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn yr ateb i gwestiynau WAQ 54687, 54688, 54689 a 54690, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch pryd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu gweithredu’n llawn ei pholisi ar gyfer darparu gliniaduron am ddim i ysgolion. (WAQ55685)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

O dan Gytundeb Cymru'n Un, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymo i gynllun peilot i ddarparu gliniaduron i blant.   

Yn 2009 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai'r cynllun peilot yn darparu hyd at 1,200 o liniaduron ar gyfer disgyblion blwyddyn chwech o ysgolion mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg.  Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gydag ysgolion a ddewiswyd i ddosbarthu'r gliniaduron a chefnogi gweithgareddau addysgol.  Caiff y cynllun peilot ei lansio ym mis Mawrth 2010.  

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): O ran cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu gliniaduron am ddim i ysgolion, a all y Gweinidog ddarparu (a) manylion am gostau, lleoliad a gwerthusiad y rhaglen beilot, a (b) amcangyfrif o gost gweithredu’r cynllun yn llawn. (WAQ55686)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

O dan Gytundeb Cymru'n Un, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymo i gynllun peilot i ddarparu gliniaduron i blant.   

Gweithredir y cynllun peilot drwy rwydwaith o brosiectau lleol ledled Cymru lle caiff disgyblion blwyddyn chwech o ysgolion a ddewiswyd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg fynediad i liniaduron i gefnogi gweithgareddau dysgu.  Bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru un ysgol neu fwy yn cymryd rhan yn y cynllun peilot.

Bydd gwerthuso yn rhan annatod o'r cynllun peilot, yn cynnwys monitro canlyniadau y cytunwyd arnynt o'r prosiectau lleol, a dysgu gwersi o fentrau eraill sydd wedi defnyddio technoleg symudol.

Y ddarpariaeth i dalu costau'r cynllun peilot yw £700,000 dros y ddwy flynedd ariannol 2009-10 a 2010-11.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth oedd cost yr hysbyseb ar dudalen 9 atodiad busnes y Western Mail ar 17 Chwefror 2010. (WAQ55687)

Rhoddwyd ateb ar 15 March 2010

£1,585.00 fesul mewnosodiad oedd cost gros gosod yr hysbyseb ar Dudalen 9 atodlen Business in Wales y Western Mail ar 17 Chwefror 2010. Mae costau creadigol yn gysylltiedig hefyd ond ni ellir cyfrifo'r rhain yn hawdd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth oedd cost yr hysbyseb ar dudalen 24 y Daily Post ar 17 Chwefror 2010.  (WAQ55688)

Rhoddwyd ateb ar 15 Mawrth 2010

£832.50 fesul mewnosodiad oedd cost gros gosod yr hysbyseb ar Dudalen 24 o'r Daily Post ar 17 Chwefror 2010. Mae costau creadigol yn gysylltiedig hefyd ond ni ellir cyfrifo'r rhain yn hawdd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am yr holl gyhoeddiadau a oedd yn cynnwys yr hysbyseb yn hyrwyddo Cymorth Hyblyg i Fusnesau ym mis Chwefror 2010. (WAQ55689)

Rhoddwyd ateb ar 15 Mawrth 2010

Rhestrir manylion pob cyhoeddiad a ddangosodd yr hysbyseb sy'n hyrwyddo Cymorth Hyblyg i Fusnes ym mis Chwefror 2010 isod:

• Daily Post (Cymru)

• Western Mail

• South Wales Echo

• South Wales Evening Post

• Western Telegraph

• Cambrian News

• South Wales Argus

• Wrexham Leader

• Pontypridd Observer

• Cynon Valley Leader

• Gwent Gazette

• Merthyr Express Series

• Glamorgan Gazette

• Neath & Port Talbot Guardian

• North Wales Weekly News Group

• Tenby Observer

• Carmarthen Journal

• Llanelli Star Series

• Rhyl & Prestatyn Journal Series

• The County Times & Express - Y Trallwng

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gyfanswm cost yr hysbyseb yn hyrwyddo Cymorth Hyblyg i Fusnesau a ymddangosodd ym mis Chwefror 2010. (WAQ55690)

Rhoddwyd ateb ar 15 Mawrth 2010

£85,168.03 oedd cost, yn cynnwys TAW, yr hysbyseb yn hyrwyddo lansiad uwchwefan Cymorth Hyblyg i Fusnes a ymddangosodd ym mis Chwefror 2010. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm y ffioedd creadigol ar gyfer ymgyrch uwchwefan Cymorth Hyblyg i Fusnes a chostau cynhyrchu, trosglwyddo a hysbysebu ar gyfer elfen y wasg yr ymgyrch a ymddangosodd ym mis Chwefror 2010.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes arwyddion rhybuddio a gaiff eu hysgogi gan gyflymder wedi’u gosod ar y cefnffyrdd sy’n mynd i mewn i bentref Llanddewi Felffre ac os nad oes, beth yw’r amserlen ar gyfer eu gosod. (WAQ55692)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Nid yw'r arwyddion rhybuddio a gaiff eu hysgogi gan gyflymder ar gyfer yr A40 wrth Landdewi Felffre wedi'u gosod eto. Maent yn rhan o fesurau gostegu traffig y bwriedir eu gosod erbyn diwedd mis Mawrth.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r datblygiadau diweddaraf a’r amserlen bresennol ar gyfer bwrw ymlaen â'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer Llywodraeth Leol a pha bryd yr ydych yn disgwyl y rhoddir y pwerau ychwanegol hyn. (WAQ55691)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Mae camau Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol y Llywodraeth Leol wedi'u cwblhau yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cymeradwywyd y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Llywodraeth Leol yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad ar 9 Chwefror. Yn dilyn hynny, ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a gyflwynodd y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gerbron dau Dŷ'r Senedd ar 10 Chwefror.  

Bydd y mater yn awr yn cael ei ystyried gan y Senedd.