Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mehefin 2009 i’w hateb ar 26 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Sut y caiff pobl ifanc anabl eu cynrychioli ar lefel leol ledled Cymru. (WAQ54404)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sawl gwaith mae’r Comisiwn Bevan wedi cyfarfod. (WAQ54398)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyngor mae’r Comisiwn Bevan yn ei roi i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. (WAQ54399)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut y mae cyfarfodydd y Comisiwn Bevan yn mynd i fod yn fwy tryloyw. (WAQ54400)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw cyngor y Comisiwn Bevan yn cael ei gyhoeddi. (WAQ54401)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd gaiff cyfarfod nesaf y Comisiwn Bevan ei gynnal ac ymhle. (WAQ54402)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cylch gorchwyl y Comisiwn Bevan. (WAQ54403)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa ran, os o gwbl, a oedd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y broses o lunio’r adroddiad a anfonwyd i’r Swyddfa Gartref ynghylch cyllido Heddlu De Cymru i gyflawni eu dyletswyddau yn y brifddinas. (WAQ54396)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i gefnogi’r adroddiad a anfonwyd i’r Swyddfa Gartref am gyllido Heddlu De Cymru i gyflawni eu dyletswyddau yn y brifddinas ac, os felly, sut. (WAQ54397)