Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mehefin 2013 i’w hateb ar 26 Mehefin 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu tuag at gais Abertawe i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017? (WAQ64947)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfranogiad athletwyr Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014? (WAQ64955)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle i gynyddu mynediad i chwaraeon mewn cymunedau gwledig? (WAQ64956)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfleoedd i blant ysgol gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o etifeddiaeth y Gemau Olympaidd? (WAQ64957)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pryd y bydd y Gweinidog yn disgwyl i'r polisi diwygiedig ar arwyddion twristiaeth fod ar gael fel y nodwyd yn llythyr y Gweinidog at Aelodau'r Cynulliad ar 21 Mai 2013? (WAQ64932)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd cynllun gweithredu i ategu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth yn cael ei gyhoeddi? (WAQ64942)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o fuddsoddiad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i weithredu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth? (WAQ64943)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer datblygu brand twristiaeth i Gymru? (WAQ64944)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am ddatblygu naratif brand twristiaeth ac a fydd hyn yn ymgorffori brand presennol Croeso Cymru? (WAQ64945)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydgysylltu â'r diwydiant twristiaeth i weithredu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth? (WAQ64946)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd unrhyw fuddsoddiad ariannol yn gysylltiedig â gweithredu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth? (WAQ64948)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y broses o ddatblygu brand twristiaeth clir i Gymru? (WAQ64949)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa mor aml y bydd y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth yn cyfarfod? (WAQ64950)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cylch gwaith y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth? (WAQ64951)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth yn cyfarfod? (WAQ64952)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Croeso Cymru yn ei wario bob blwyddyn ar hyrwyddo (a) digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru a (b) cyflawniadau chwaraeon gan unigolion / timau Cymru? (WAQ64954)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu nifer y disgyblion y cyfeiriwyd gan ysgolion yng Nghymru i Uned Cyfeirio Disgyblion ym mlwyddyn academaidd 2011/12? (WAQ64939)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch ei ymdrechion i ailddosbarthu sigaréts electronig o dan y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco? (WAQ64940)