27/02/2015 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 23/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/03/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Chwefror 2015 i'w hateb ar 27 Chwefror 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Gan gyfeirio at bob un o'r blynyddoedd canlynol: 2014-2015, 2015-2016 a 2016-2017, a wnaiff y Gweinidog egluro beth yw'r gyllideb ar gyfer cyflwyno pob un o'r prosiectau canlynol: i) cynllunio morol; ii) cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol; iii) Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd; iv) pysgodfeydd cynaliadwy; v) ardaloedd gwarchodedig morol; a vi) sylfaen dystiolaeth effeithiol? (WAQ68405)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro beth yw'r gyllideb ar gyfer darparu'r Rhaglen Pontio Morol ym mhob un o'r blynyddoedd canlynol: 2014-2015, 2015-2016 a 2016-2017? (WAQ68405)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu nifer y newidiadau staffio i'r tîm morol a nifer y staff a gyflogir i gyflawni yn erbyn y Rhaglen Pontio Morol rhwng y blynyddoedd ariannol 2014-2015 a beth fydd y nifer hwn yn 2015-2016 a 2016-2017? (WAQ68406)

Derbyniwyd ateb ar 26 Chwefror 2015 (WAQ68405-06)

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant): The Marine Transition Programme (MTP) draws on resources and experience from within Welsh Government and also outside partner organisations. From a Welsh Government perspective the costs of the Marine Transition Programme and its associated projects are met from the Marine and Fisheries budget which is £1.32million in 2014-15 and planned at £1.32million for 2015/16 & 2016/17.

Staffing within the Welsh Government is a matter for the Permanent Secretary.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth meddygon teulu yn Llanwrtyd yn y dyfodol? (WAQ68403)

Derbyniwyd ateb ar 3 Mawrth 2015

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): Powys Teaching Health Board is working with local GPs on this. My officials maintain close contact with the Health Board on this issue.