27/03/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 21/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2017 i'w hateb ar 27 Mawrth 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau) Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb rhwng saith ac wyth diwrnod, ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Sian Gwenllian (Arfon): Faint mae dioddefwyr gwaed halogedig yn ei dderbyn mewn taliadau yng Nghymru? (WAQ73212)W

Derbyniwyd ateb ar 30 Mawrth 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething): Dyma'r taliadau y mae dioddefwyr gwaed halogedig yn eu derbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016/17:

  • Taliad blynyddol o £3,500 i'r rheini sydd â hepatitis C (HCV), Cam 1.
  • Taliad blynyddol o £15,500 i'r rheini sydd ag HCV, Cam 2.
  • Taliad blynyddol o £15,500 i'r rheini sydd ag HIV.
  • Taliad blynyddol o £18,500 i'r rheini sydd ag HIV ac HCV, Cam 1.
  • Taliad blynyddol o £30,500 i'r rheini sydd ag HIV/HCV, Cam 2.
  • Taliad unigol o £20,000 i bobl sydd ag HCV Cam 1 pan fyddant yn cofrestru gyntaf.
  • Taliad unigol o £20,000 i bobl sydd ag HIV pan fyddant yn cofrestru gyntaf.
  • Taliad unigol o £50,000 i'r rheini sy'n datblygu HCV Cam 2.
  • Mae'r holl daliadau blynyddol yn cynnwys taliad tanwydd gaeaf o £500.
  • Un taliad unigol o £10,000 i briod neu bartner y prif fuddiolwr ar ei farwolaeth a lle mae cael ei heintio ag HIV a/neu HCV wedi cyfrannu i'r farwolaeth honno.

     

Mae taliadau'n cael eu gwneud ar sail ex-gratia, ac yn ychwanegol at unrhyw incwm arall sy'n cael ei dderbyn gan y buddiolwr (mae'r taliadau'n cael eu diystyru at ddibenion trethi/budd-daliadau).

Byddaf yn cyhoeddi'r trefniadau cymorth ar gyfer 2017-18 maes o law.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sian Gwenllian (Arfon): A fydd Llywodraeth Cymru yn ychwanegu meini prawf newydd ar gyfer dosrannu arian o Gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif i adlewrychu ei nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg? (WAQ73213)W

Derbyniwyd ateb ar 20 Mawrth 2017

The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language (Alun Davies): Mae darparu lleoedd cyfrwng Cymraeg i fodloni’r galw eisoes yn ystyriaeth gan y Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif. Erbyn diwedd y pum mlynedd cyntaf o fuddsoddi, bydd tua 30% o’r cyllid a ddyrannwyd wedi’i roi i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae cynllun busnes wedi’i lunio ar gyfer pob prosiect o fewn y Rhaglen ac yn y cynllun busnes hwnnw nodir yr achos o blaid alinio strategol, gwerth am arian a fforddiadwyedd. Wrth asesu’r ceisiadau busnes ystyrir yn benodol hefyd i ba raddau y maent yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol dan sylw.
 
Sian Gwenllian (Arfon): Beth yw briff, cylch gorchwyl ac amserlen yr adolygiad o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gynhelir ar gais Llywodraeth Cymru? (WAQ73214) W

Derbyniwyd ateb ar 30 Mawrth 2017

Alun Davies: Mae Aled Roberts wedi’i benodi i gynnal adolygiad cyflym o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Darparu cyfres o argymhellion i symud cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn eu blaen yw’r prif friff. Nid oes cylch gorchwyl wedi’i sefydlu ar gyfer y cyfnod hwn. Rhagwelir y caiff yr adolygiad ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill, dechrau Mai 2017.
 
Sian Gwenllian (Arfon): Pa bwerau fydd gan yr unigolyn a fydd yn cynnal yr adolygiad o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gynhelir ar gais Llywodraeth Cymru? (WAQ73215)W

Derbyniwyd ateb ar 30 Mawrth 2017

Alun Davies: Nid oes unrhyw bwerau yn gysylltiedig â rôl Aled Roberts. Mater i Weinidogion Cymru yn unig yw'r pwerau i gymeradwyo neu beidio â chymeradwyo'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.