Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Ebrill 2012
i’w hateb ar 27 Ebrill 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ysgolion ym mandiau pedwar a phump sydd eto i gyflwyno cynlluniau gwella'r ysgol a beth sy’n cael ei wneud i’w hannog i’w cyflwyno. (WAQ60111)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Aled Roberts (Gogledd Cymru): At ddibenion Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diffinio a mesur “lles”. (WAQ60112)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Fesul bwrdd iechyd lleol ac ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf, faint o gleifion a fu’n disgwyl mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am dros wyth awr, 12 awr, a 24 awr. (WAQ60115)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa delerau a osododd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post a) yn 2009 a b) ar hyn o bryd (os ydynt yn wahanol). (WAQ60113)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa waith monitro sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru o’r Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post i sicrhau cydymffurfiad â’r telerau a roddwyd a) wrth wneud cais am grantiau a ddyfarnwyd yn 2009 a b) ar hyn o bryd (os yw'n wahanol). (WAQ60114)