Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2008 i’w hateb ar 27 Mehefin 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd yng nghyswllt ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch trosglwyddo carthfosydd a draeniau ochrol preifat i berchnogaeth cwmnïau dŵr a charthffosiaeth cyhoeddus. (WAQ51918)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd unrhyw arian ar ôl heb ei wario o daliad chwyddo ar gyfer pori Tir Mynydd ai peidio; ac os felly a all gadarnhau faint o arian sy’n debygol o fod dros beth a beth mae’n bwriadu ei wneud ag ef. (WAQ51919)