27/11/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 27 Tachwedd 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 27 Tachwedd 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw’r gwallau posibl yn yr ardaloedd a fesurir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru at ddibenion traws archwiliadau IACS ar gyfer: i) Cae gwastad sgwâr 200m wrth 200m; ii) Cae gwastad sgwâr 300m wrth 300m; iii) Cae gwastad petryal 100m wrth 300m; iii) Cae gyda ffiniau 200m wrth 200m ar lethr 30 gradd; iv) Cae gwastad siâp cylch gyda diamedr 200m? (WAQ52780)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Caiff arwynebedd caeau gwastad, waeth beth yw eu siâp neu faint, ei gyfrifo’n union o fanylion map yr Arolwg Ordnans (OS). Felly mae cywirdeb mapio yn cyrraedd safonau tirfesur OS sy’n bodloni gofynion rheoliadol y Comisiwn Ewropeaidd. Cofnodir yr arwynebeddau a bennir yn System Adnabod Parseli Tir Llywodraeth y Cynulliad.

Gallai gwallau posibl o ran arwynebeddau unrhyw gaeau, yn cynnwys y caeau a ddyfynnir yn eich enghreifftiau fod yn amlwg wrth ymgymryd â chroeswiriadau oherwydd i rai o’r mesuriadau arwynebedd ar gyfer hen Gynlluniau amaeth-amgylchedd gael eu pennu gan ddefnyddio systemau mapio nad oeddent yn gydnaws â’r mapiau OS a ddefnyddir ar gyfer tir a gofrestrir yn y System Adnabod Parseli Tir. Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n ail-alinio’r holl gaeau â’r System Adnabod Parseli Tir a dylai’r anghysondebau hyn o ran mesuriadau arwynebedd fod wedi’u dileu pan fydd yr ymarfer wedi’i gwblhau.

Eglurodd fy llythyr atoch, dyddiedig 17 Gorffennaf 2008 nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried graddau’r llethr wrth fesur arwynebedd caeau. Nododd fy llythyr y weithdrefn y gall ffermwyr ei dilyn i ystyried llethr mewn cae.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw cywirdeb cymharol y mapiau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i bennu arwynebau caeau at ddibenion traws archwiliadau canfod ardaloedd a ddatgenir ar gyfer IACS? (WAQ52781)

Elin Jones: Fel y nodwyd yn fy ateb i WAQ52780, cyfrifir arwynebeddau’n gywir o fanylion mapiau’r Arolwg Ordnans (OS). Felly mae cywirdeb mapio yn cyrraedd safonau tirfesur OS sy’n bodloni gofynion rheoliadol y Comisiwn Ewropeaidd.