28/01/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa asesiad a wnaed o gost salwch meddwl i economi Cymru (o ran absenoldeb oherwydd salwch, diffyg cyflogaeth, budd-daliadau’r wladwriaeth ayb)? (WAQ50881)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Ni chafwyd asesiad swyddogol o gost economaidd gyffredinol salwch iechyd meddwl yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gwybodaeth berthnasol ar gael. Yn 2006, roedd llai na 25 y cant o bobl o oedran gweithio yng Nghymru oedd â phroblem iechyd hirdymor, sef iselder, nerfau gwael neu salwch meddwl gan amlaf, yn economaidd weithgar, o gymharu â 75 y cant o’r boblogaeth o oedran gweithio yn gyffredinol. Yn ogystal â hyn mae gan bron i 40 y cant o bobl sy’n hawlio Budd-dal Analluogrwydd yng Nghymru anhwylder meddyliol neu ymddygiadol. Mae cyfanswm y bobl sy’n hawlio Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol yng Nghymru wedi gostwng mwy na 20,000 neu 10 y cant ers dechrau’r degawd, ond mae’r nifer sydd ag anhwylder meddyliol neu ymddygiadol wedi cynyddu 11,000.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o swyddi sydd wedi cael eu creu yn Economi Cymru dros yr 8 mlynedd diwethaf? (WAQ50921)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Yn ôl ystadegau diweddaraf y farchnad lafur, roedd 1,350,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru rhwng Medi a Thachwedd 2007. Cynrychiola hyn gynnydd o 137,000 neu 11 y cant ers sefydlu’r Cynulliad ym 1999.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Dros yr 8 mlynedd diwethaf, pa gyfran o’r swyddi sydd wedi’u creu yn economi Cymru a lenwyd gan fewnfudwyr? (WAQ50922)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Yn ôl yr Arolwg o’r Llafurlu, roedd 30 y cant o’r cynnydd net mewn cyflogaeth yng Nghymru rhwng 1999 a’r flwyddyn hyd at mis Medi 2007 yn cynnwys pobl a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Llinell sylfaen 1999 ar gyfer y cyfrifiad hwn yw’r cyfartaledd o 4 chwarter tymhorol yr Arolwg o’r Llafurlu sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng Mawrth 1999 i Chwefror 2000. Mae’r flwyddyn hyd at fis Medi 2007 yn cynrychioli’r cyfartaledd o 4 set data chwarter calendr ddiweddaraf yr Arolwg o’r Llafurlu. Defnyddiwyd y cyfartaleddau dros 4 chwarter i ddiddymu unrhyw ffactorau tymhorol ac i roi amcangyfrif cadarnach.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Sut y mae’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi amrywio dros yr 8 mlynedd diwethaf? (WAQ50924)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Rhoddir y wybodaeth yn y tabl. Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd o ran pobl o oedran gweithio yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Tachwedd 2007 2.1 y cant yn llai na’r cyfartaledd yn 1999.

Cyfraddau anweithgarwch economaidd oedran gweithio yng Nghymru

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2008
 

Canran o’r boblogaeth oedran gweithio

1999¹

25.8

200

26.1

2001

27.2

2002

26.1

2003

23.9

2004

24.3

2005

24.6

2006

24.1

Blwyddyn hyd at fis Tachwedd 2007

23.7

Ffynhonnell: SYG, Ystadegau’r Farchnad Lafur

1. Cyfartaledd dros y flwyddyn galendr ac eithrio’r diweddaraf]

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU i osod detectorau metel mewn ysgolion yn effeithio ar ysgolion yng Nghymru? (WAQ50925)

Jane Hutt: Mae Adran 42 o Ddeddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006 yn darparu grym newydd i benaethiaid chwilio disgyblion y maent yn amau’n rhesymol eu bod yn cario cyllell neu arf arall neu ag un yn eu meddiant. Gall unrhyw ysgol sy’n amau bod rhywun yn cario cyllell ddewis chwilio’r unigolyn hwnnw neu alw’r heddlu.

Mae Adran 42 mewn grym yn Lloegr a deallaf fod rhai ysgolion yn dewis defnyddio’r grym drwy osod synwyryddion metel.

Nid yw Adran 42 mewn grym yng Nghymru eto. Bwriadaf ymgynghori ar amseru’r broses o gyflwyno adran 42 a’r canllawiau cysylltedig, yn Nhymor yr Haf 2008.

Hoffwn sicrhau y gall penaethiaid yng Nghymru feithrin amgylchedd lle y gall pob aelod o gymuned yr ysgol ffynnu a theimlo ei fod yn cael ei barchu a’i fod yn ddiogel; a bod ganddynt y pwerau cyfreithiol i wneud hynny. Bydd penderfyniadau ar beth sy’n briodol ar gyfer pob ysgol unigol yn cael eu gwneud gan y corff llywodraethu a’r pennaeth.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw cyllideb weithredol y Gwasanaeth Hylendid Cig wedi’i dadansoddi fesul Rhanbarth yng Nghymru? (WAQ50919)

Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Nid yw’r Gwasanaeth Hylendid Cig yn pennu cyllidebau gweithredu fesul Rhanbarthau Cymru.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw cyllideb weithredol y Gwasanaeth Hylendid Cig yng Nghymru a) ar gyfer y flwyddyn ariannol hon b) ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf? (WAQ50920)

Gwenda Thomas: Mae Rhanbarth Cymru y Gwasanaeth Hylendid Cig yn cynnwys Swydd Henffordd a rhannau o Swydd Gaerloyw, Sir Amwythig a Swydd Gaerwrangon ac felly nid ariennir gwariant gros y Gwasanaeth Hylendid Cig fesul gwlad. Gwariant gros Rhanbarth Cymru Gwasanaeth Hylendid Cig (gan gynnwys Swydd Henffordd a rhannau o Swydd Gaerloyw, Sir Amwythig a Swydd Gaerwrangon) yw:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2008

2007/08

Gwariant a ragwelir o £10m (ac eithrio gorbenion corfforaethol)

2006/07

Gwariant gwirioneddol o £11m (ac eithrio gorbenion corfforaethol)

2005/06

Gwariant gwirioneddol o £12m (ac eithrio gorbenion corfforaethol)

2004/05

Gwariant gwirioneddol o £11m (ac eithrio gorbenion corfforaethol)

Ers 2006/07 gwnaed â gwaith dadansoddi yn dilyn cwblhau’r cyfrifon blynyddol i ddangos gwariant gros fesul gwlad. O ran Cymru gwariant gros 2006/07 oedd £12m yn cynnwys gorbenion corfforaethol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro’r oedi yng nghyswllt Asiantaeth Taliadau Gwledig Cymru yn dilysu data archwiliadau fferm o archwiliadau trawsgydymffurfio yn 2007, gan gyfeirio’n benodol at allu’r asiantaeth i ddilysu mapiau fferm? (WAQ50898)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Roedd y gwaith o ddatblygu systemau mapio newydd yn 2007 i weithredu’r croeswiriadau gweinyddol electronig a oedd yn ofynnol yn ôl rheoliadau Ewropeaidd newydd yn well yn golygu nad oedd Taliadau Gwledig Cymru yn gallu dilysu data archwilio mor gynnar ag y gwnaed mewn blynyddoedd blaenorol. Dechreuodd Taliadau Gwledig Cymru ddilysu’r data yn 2007 a chafodd rhai ffermwyr eu Taliadau Sengl ym mis Rhagfyr. Rhoddir blaenoriaeth i gwblhau’r achosion sy’n weddill a chaiff y canlyniadau eu dilysu fel rhan o’r broses daliadau cyn gynted â phosibl.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod yr holl brosesau dilysu a ddefnyddir gan Asiantaeth Taliadau Gwledig Cymru nawr yn gweithio heb rwystrau technegol? (WAQ50899)

Elin Jones: Mae Taliadau Gwledig Cymru yn defnyddio nifer o brosesau, rhai cyfrifiadurol gan fwyaf, i ddilysu hawliadau taliadau ffermwyr. Er mwyn bod o fudd i ffermwyr drwy gwell effeithlonrwydd caiff y prosesau hyn eu hadolygu’n barhaus. Oherwydd cymhlethdod y systemau a ddefnyddir, a’r angen posibl i newid prosesau yn y dyfodol er mwyn addasu unrhyw reoliadau Ewropeaidd newydd, ni allaf sicrhau na fydd achlysuron o fethiant technegol.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Busnes Ynni Pren? (WAQ50901)

Elin Jones: Mae Cynllun Busnes Ynni Coed (WEBS) yn gynllun grant cyfalaf £6.50 miliwn a ariennir drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a menter Ffyrdd i Ffyniant Llywodraeth y Cynulliad. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2004 a daw i ben ar 31ain Mawrth 2008.

Roedd tri math o brosiect yn gymwys i gael cymorth grant:

• Cynlluniau gwresogi tanwydd pren;

• Gwaith cynhyrchu trydan ar raddfa fechan yn defnyddio pren (Gwres ac Ynni Cyfunol - CHP);

• Busnesau cyflenwi tanwydd pren.

Mae’r cynllun wedi cynnal y gwaith o osod gwerth 23.30MW o systemau gwresogi a gwerth 1.35MW o ddulliau cynhyrchu trydan. Roedd 16MW o hyn ar gyfer bwyleri mawr mewn safleoedd "math diwydiannol" yn darparu gwresogi proses am oriau hir a 7.30MW ar gyfer bwyleri llai yn darparu gwres gofodol.

Mae hyn yn cyfateb i arbed 17,000 o dunelli o CO2 y flwyddyn a thros fywyd rhagweledig y systemau (20 mlynedd) bydd yn cyfateb i arbed 330,000 o dunnelli o CO2.

Sicrhawyd tua 60 o swyddi llawn amser a 16 o swyddi rhan amser drwy brosiectau a ariennir gan WEBS a chefnogwyd 29 o gynlluniau gwresogi gan ddefnyddio naddion pren yn amrywio mewn maint o 30kW i 5MW ar safleoedd gan gynnwys ysbytai, ysgolion, swyddfeydd, darparwyr llety ac atyniadau ymwelwyr.

Yn ogystal â hyn mae 11 o safleoedd bwyleri boncyffion ar ffermydd a safleoedd darparu llety; 9 o systemau bwydo â llaw mewn melinau llifio, gweithfeydd saer a chwmnïau gweithgynhyrchu; 10 prosiect prosesu naddion pren sy’n cynnwys cyflenwyr tanwydd lleol; un byrnwr malurion ar gyfer defnyddio gweddillion coedwigol a phedwar prosiect gweithgynhyrchu pelenni pren yn cynhyrchu rhwng 1,000 a 30,000 o dunelli’r flwyddyn.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sut y mae’r broses dilysu ar gyfer taliadau Tir Gofal wedi newid dros y 18 mis diwethaf i ddiwallu unrhyw newidiadau yn y meini prawf Ewropeaidd? (WAQ50916)

Elin Jones: Y prif newidiadau i brosesau Taliadau Gwledig Cymru ar gyfer dilysu taliadau Tir Gofal i fodloni gofynion Ewropeaidd yw:

(a) cyflwyno systemau newydd i gynnal croeswiriadau electronig rhwng holl ddata cynlluniau Ewropeaidd i sicrhau y gwneir taliadau ar arwynebedd cywir y tir, ac nad oes ariannu dwbl ac nad yw dosbarthiadau defnydd o dir yn groes i’w gilydd;

(b) fel rhan o’r systemau newydd hynny, cysoni data ag IACS (System Integredig Gweinyddu a Rheoli) gan gynnwys cronfa fapio newydd i helpu i sicrhau cysondeb data rhwng yr holl gynlluniau Ewropeaidd, fel sy’n ofynnol o dan reoliadau Ewropeaidd.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o diroedd comin yr effeithiwyd arnynt gan y cwestiwn newydd ar ffurflen taliad sengl 2007, ynghylch datgan hawliadau ar gyfer merlod a cheffylau? (WAQ50918)

Elin Jones: Yn sgîl cyflwyno Cynllun y Taliad Sengl (CTS) yn 2005 mae’n bosibl i ffermwyr ddatgan hawliau pori ar dir comin o ran merlod a cheffylau i gefnogi eu hawl i daliadau CTS a chawsant eu hysbysu am hyn yn neunydd darllen y cynllun hwn dros y tair blynedd ddiwethaf. Roedd y cwestiwn ar Ffurflen Gais Sengl (FGS) 2006 yn newydd. Mae’r data diweddaraf a ddilyswyd ar FGS 2007 yn dangos bod ffermwyr wedi datgan hawliau pori merlod a cheffylau ar 90 o diroedd comin.