Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Ionawr 2008 i’w hateb ar 28 Ionawr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU i osod detectorau metel mewn ysgolion yn effeithio ar ysgolion yng Nghymru. (WAQ50925)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Sut y mae’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi amrywio dros yr 8 mlynedd diwethaf? (WAQ50924)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Dros yr 8 mlynedd diwethaf, pa gyfran o’r swyddi sydd wedi’u creu yn economi Cymru a lenwyd gan fewnfudwyr. (WAQ50922)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o swyddi sydd wedi cael eu creu yn Economi Cymru dros yr 8 mlynedd diwethaf. (WAQ50921)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw cyllideb weithredol y Gwasanaeth Hylendid Cig yng Nghymru a) ar gyfer y flwyddyn ariannol hon b) ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ50920)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw cyllideb weithredol y Gwasanaeth Hylendid Cig wedi’i dadansoddi fesul Rhanbarth yng Nghymru. (WAQ50919)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau cymdeithasol yng Nghymru. (WAQ50926)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw ystyriaeth y mae ef/ei swyddogion wedi’i rhoi i bosibilrwydd cyflwyno nod menter gymdeithasol yng Nghymru. (WAQ50927)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fudd datblygu nod menter gymdeithasol i hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yng Nghymru. (WAQ50929)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fudd datblygu nod menter gymdeithasol i fusnesau yng Nghymru. (WAQ50928)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa effaith gaiff dirwy £63M Comisiwn yr UE i DEFRA ar amaethyddiaeth yng Nghymru. (WAQ50923)