28/04/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ebrill 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ebrill 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r meini prawf ar gyfer y gyllideb llwybrau diogel i’r ysgol a faint sydd wedi cael ei wario yn sir Benfro? (WAQ51633)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Gwahoddwyd cynigion am gynlluniau llwybrau diogel i’r ysgol yn flynyddol gan awdurdodau lleol fel rhan o broses dyrannu rhaglen gyfalaf y Grant Trafnidiaeth.

Rhaid i brosiectau llwyddiannus annog a galluogi plant a phobl ifanc i gerdded a seiclo i’r ysgol drwy becyn cyfun o fesurau ymarferol ac addysgol. Hefyd, mae gofyn iddynt ddangos cydweithredu rhwng ysgolion, rhieni, athrawon ac awdurdodau lleol er mwyn gallu datblygu dull strategol o leihau nifer y teithiau mewn car i’r ysgol.

Eleni, cyflwynwyd Rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn lle’r fenter Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Bydd y rhaglen newydd hon yn parhau i ganolbwyntio ar ysgolion ond bydd hefyd yn anelu at wella hygyrchedd ac annog pobl i gerdded a seiclo yn gyffredinol mewn cymunedau.

Hyd yma, mae Cyngor Sir Penfro wedi derbyn dros £1.5miliwn ar gyfer cynlluniau llwybrau diogel i’r ysgol mewn amryw leoliadau ledled y Sir. Eleni, o dan Raglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, dyfarnwyd £797,000 ar gyfer cynlluniau yn Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o gyfanswm y costau teithio dwyffordd, y costau llety a chynhaliaeth a’r lwfansau a’r costau eraill dros holl gyfnod secondiad Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru i Awstralia yn ystod y flwyddyn ariannol hon? (WAQ51631)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Amcangyfrifir mai cyfanswm cost (heb gynnwys cyflog) y prosiect 'Researching community engagement in the zero waste culture in Australia’ a gynhelir gan y Cynllun Craff am Wastraff ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru a CLlLC yw £25,00 fel a ganlyn:

  • Tocynnau hedfan i Awstralia (tocyn dwyffordd) = £1,000

  • 2 daith ddwyffordd = £2,000

  • Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y DU ac Awstralia = £8,000

  • Llety = £14,000

Yn ychwanegol, caiff costau cynhaliaeth eu talu pan fydd yn gweithio i ffwrdd o’r ganolfan yn Sydney hyd at gyfanswm o £35 y dydd.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth oedd y raddfa gyflog a hysbysebwyd ar gyfer swydd Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru yn ystod y broses recriwtio ddiweddaraf ar gyfer y swydd? (WAQ51632)

Jane Davidson: Y raddfa gyflog a hysbysebwyd ar gyfer swydd Rheolwr Cynllun Craff am Wastraff adeg y broses recriwtio ddiweddaraf gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oedd £33, 009 - £38, 010 pan y’i hysbysebwyd ar ddiwedd 2004.